Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar brinder sment esgyrn llawfeddygaeth orthopedig byd-eang

25 Chwefror 2026

Mae cyflenwr arall i ddarparu sment esgyrn a ddefnyddir mewn llawfeddygaeth orthopedig bellach wedi'i sicrhau.

Mae'r sment esgyrn newydd wedi cael cymeradwyaeth glinigol lawn a bydd ar gael i bob bwrdd iechyd o 2 Mawrth 2026 ymlaen. Wedi’r dyddiad hwn, disgwylir i lawdriniaethau sy'n gofyn am sment esgyrn ailddechrau.

Rydym yn gwybod y gall gohirio apwyntiadau achosi cymaint o siom a rhwystredigaeth. Bydd ein timau yn cysylltu â'r holl gleifion yr effeithir arnynt i aildrefnu eu llawdriniaeth cyn gynted â phosibl. Nid oes angen i chi gysylltu â ni – fe wnawn ni gysylltu â chi.

Diolch am fod yn amyneddgar.


19 Chwefror 2026

O ganlyniad i heriau yn y cyflenwad cenedlaethol sy'n effeithio ar argaeledd rhai mathau o sment esgyrn a ddefnyddir mewn llawdriniaethau orthopedig, mae'r holl lawdriniaethau sment arfaethedig ar draws ein Bwrdd Iechyd wedi cael eu gohirio hyd nes y byddwn yn rhoi gwybod fel arall. Mae hyn yn effeithio’n bennaf ar rai llawdriniaethau gosod cluniau a phengliniau newydd lle caiff sment ei ddefnyddio fel mater o drefn.

Rydym yn deall bod llawer o gleifion yn aros am lawdriniaeth ac y gallent fod yn teimlo'n bryderus neu'n siomedig oherwydd y newyddion yma. Hoffem roi sicrwydd i chi mai diogelwch cleifion yw ein blaenoriaeth bennaf, ac rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid cenedlaethol i ganfod atebion ac i ddod o hyd i gyflenwadau pellach cyn gynted â phosibl.

Beth mae hyn yn ei olygu i gleifion

Mynd i apwyntiadau

Dylai cleifion barhau i fynd i apwyntiadau, asesiadau cyn llawdriniaeth a thriniaethau fel y trefnwyd oni bai bod y Bwrdd Iechyd yn cysylltu â nhw'n uniongyrchol i'w cynghori fel arall.

Blaenoriaethu gofal

Bydd achosion trawma brys - fel cleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty ar ôl torri'r cluniau yn dilyn codwm - yn parhau i gael eu blaenoriaethu. Rydym hefyd yn adolygu cleifion sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â'r angen mwyaf am ofal yn cael eu trin gyntaf.

Cyfathrebu

Byddwn yn cysylltu â chleifion yn uniongyrchol os yw hyn yn effeithio ar eu llawdriniaeth. Nid oes angen ein ffonio ni oni bai ein bod ni wedi gofyn i chi wneud hynny.

Opsiynau llawfeddygol eraill

I rai cleifion, efallai y bydd dewisiadau eraill sy'n briodol ar lefel glinigol nad ydynt yn gofyn am sment esgyrn, fel mewnblaniadau di-sment.  Mae timau llawfeddygol yn adolygu achosion yn unigol er mwyn penderfynu a yw hyn yn addas.

Cymorth i gleifion

Rydym yn cydnabod y gall oedi o'r fath ddwysáu gofid ac anghysur. Os bydd eich symptomau'n gwaethygu neu os bydd eich poen yn mynd yn fwy anodd ei rheoli, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch tîm clinigol arferol am gyngor. Gallwch hefyd fanteisio ar arweiniad a chymorth ychwanegol gan ein Tîm Hunanofal trwy ein gwefan: Tîm Hunanofal - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Rydym yn ymddiheuro am yr ansicrwydd y gallai hyn ei achosi a hoffem ddiolch i gleifion am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra byddwn yn gweithio i ddatrys y broblem ynghylch y cyflenwad cenedlaethol.

Caiff rhagor o ddiweddariadau eu rhannu cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth ar gael.