2 Rhagfyr 2024
Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Wrth i wasanaethau iechyd a gofal wynebu pwysau parhaus ar draws Gogledd Cymru a’r wlad, mae’n rhaid i ni geisio cyfyngu ar ledaeniad firysau, fel y ffliw, Norofeirws a COVID-19, yn ein hysbytai dros y gaeaf”.
“Mae cleifion sy’n sâl yn ein hysbytai yn fwy tebygol o fod yn agored i salwch difrifol oherwydd y ffliw, COVID-19 a heintiau eraill fel annwyd, dolur rhydd a chwydu”.
“Mae cyfraddau heintiau mewn ysbytai yn uwch nag arfer yr adeg hon o’r flwyddyn, gan fod cymaint o firysau ar led yn ein cymunedau, felly mae mwy o risg o haint”.
“Gallwch chi helpu i amddiffyn eich anwylyd, eich hun, a staff, trwy beidio ag ymweld os oes gennych chi beswch, annwyd, dolur gwddf, dolur rhydd, os ydych yn chwydu, neu os oes gennych chi dymheredd uchel”
“Rydym yn annog pawb i olchi eu dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo cyn ac ar ôl iddynt ymweld â wardiau neu ardaloedd clinigol eraill i helpu i gadw heintiau draw. Ni chaniateir i ymwelwyr eistedd ar welyau cleifion na defnyddio toiledau cleifion.
“Diolch am eich cefnogaeth barhaus a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn."