17 Mawrth 2026
Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym yn cydnabod bod gormod o gleifion yn aros yn hirach nag y dylent yn ein Hadrannau Achosion Brys, ac y gall hyn beri gofid i gleifion, eu teuluoedd ac i'r staff sydd am gynnig gofal yn yr amgylchedd cywir. Mae cynnig gofal gydag urddas, trugaredd a pharch yn hollbwysig i ni, ac rydym yn cydnabod y gofid a'r pryder sy'n cael eu hachosi pan fydd cleifion yn cael eu trin mewn coridorau.
"Yn debyg i sefydliadau'r GIG ledled y Deyrnas Unedig, rydym yn profi galw sylweddol am ofal brys a gofal argyfwng a heriau o ran rhyddhau cleifion mewnol o'r ysbyty yn brydlon. Ar adegau, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i rai cleifion aros yn hirach i gael eu gweld, derbyn triniaeth ac i gael eu derbyn i’r ysbyty. Yn anffodus, mae rhai cleifion yn derbyn gofal mewn mannau sydd heb eu dynodi at y pwrpas neu mewn coridorau. Rydym wedi rhoi goruchwyliaeth glinigol ychwanegol ar waith er mwyn helpu i sicrhau bod cleifion yn ddiogel, ond rydym yn gwybod y gall hyn fod yn brofiad cynhyrfus i gleifion, eu teuluoedd a'n staff. Mae'n ddrwg iawn gennym ni am unrhyw un sydd wedi profi arosiadau hir neu sydd wedi derbyn gofal yn yr amgylchiadau hyn.
"Gwella profiad cleifion yn ein Hadrannau Achosion Brys, a chynorthwyo ein staff i gynnig y gofal gorau posibl yw blaenoriaeth bennaf y Bwrdd. Gan weithio'n agos gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol, rydym yn rhoi rhaglen wella sylweddol ar waith ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn gwella llif cleifion trwy ein hysbytai, gan gynnwys rhyddhau'n ddiogel. Rydym hefyd yn dysgu o arfer gorau gyda thîm o arbenigwyr allanol sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd gan ddod â phrofiad o bob rhan o'r DU.
"Er gwaethaf amgylchiadau heriol, mae staff yn ein Hadrannau Achosion Brys ac ar draws y Bwrdd Iechyd, yn cynnig gofal argyfwng arbenigol o fore gwyn tan nos, 24 awr y dydd. Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yn eu parchu ac yn eu cefnogi o ran gwneud y gwaith hynod bwysig hwn."