Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad ar eu hymweliad dirybudd ag Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd ym mis Ebrill 2025.

24.07.25

Heddiw, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad ar eu hymweliad dirybudd ag Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd ym mis Ebrill 2025. 

Mewn ymateb, dywedodd Dr Pete Williams, Meddyg Ymgynghorol  Meddygaeth Frys ac Arweinydd Clinigol yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd: “Rydym yn croesawu canfyddiadau’r arolygiad dirybudd diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod y gwelliannau cadarnhaol a wnaed ers yr arolygiad diwethaf. Rwy'n hynod o falch bod yr arolygwyr wedi cydnabod ymroddiad a thosturi ein tîm gweithgar, sy'n darparu gofal o ansawdd uchel yn gyson mewn amgylchedd sydd yn aml yn heriol iawn ac o dan bwysau mawr.

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r heriau parhaus y gwyddys llawer amdanynt yn ymwneud â llif cleifion, sy’n effeithio ar adrannau achosion brys ledled y DU. Nid yw gofalu am gleifion sy'n aros ar y coridorau cyn cael eu derbyn i'r ysbyty yn sefyllfa y mae unrhyw un ohonom eisiau bod ynddi, ond rwyf am gynnig sicrwydd i'n cleifion a'u teuluoedd mai eu diogelwch a'u gofal yw ein blaenoriaethau pennaf o hyd. Mae ein tîm yn parhau i ddarparu gofal diogel a thosturiol er gwaethaf y pwysau hwn.

“Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol, sefydliadau’r trydydd sector, ac asiantaethau partner eraill i wella llif cleifion gan alluogi pobl i ddychwelyd adref yn amserol.  Mae'r ymdrechion cydweithredol hyn yn canolbwyntio ar gefnogi rhyddhau cleifion yn amserol ac yn ddiogel, sydd yn ei dro yn helpu'r Adran Achosion Brys i weithredu'n fwy effeithlon. Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar wella diogelwch a phrofiad cleifion drwy gydol eu taith, gan gynnwys trosglwyddo cleifion sy'n cael eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlansys i'r adran yn gyflym i gwtogi amseroedd aros hir mewn ambiwlansys a rhyddhau'r timau ambiwlans i ymateb i gleifion yn y gymuned.

“Mewn ymateb i rai o’r pryderon diogelwch cleifion a godwyd yn yr adroddiad, rydym eisoes wedi cymryd camau penodol:

  • Mae nodi ardal ar wahân bwrpasol ar gyfer cleifion ag imiwnedd is yn her i'n Hadran Achosion Brys. Rydym yn gweithio gyda'r Uwch Adran Canser ar draws y Bwrdd Iechyd i sefydlu llwybrau gwell ar gyfer asesu a thrin cleifion sydd fwyaf agored i niwed y tu allan i'r Adran Achosion Brys, gyda'r nod o leihau'r risg o haint. Pan fydd angen i gleifion ddod i'r adran, mae staff yn ymdrechu i nodi lleoliadau priodol o fewn yr adran i leihau'r risg o haint.
  • Cafodd y mater yn ymwneud â'r system storio meddyginiaethau a nodwyd yn yr adroddiad ei unioni ar unwaith. Mae gennym ni system fonitro tymheredd parhaus ar waith erbyn hyn ac rydym wedi cyflwyno proses uwchgyfeirio os yw'r tymheredd yn mynd y tu hwnt i'r lefelau diogel.
  • Mae'r ardal bediatreg yn yr adran wedi'i hailgyflunio i wella lefelau goruchwyliaeth staff a sicrhau amgylchedd mwy diogel i'n cleifion iau.
  • Rydym yn cydnabod bod cyflawni'r cyfnod brysbennu 15 munud a argymhellir yn heriol, yn enwedig yn ystod y cyfnodau prysuraf. I fynd i'r afael â hyn, rydym wedi codi lefel goruchwylio brysbennu'r nyrs sy'n gyfrifol am hynny ac wedi cyflwyno proses uwchgyfeirio ffurfiol sy'n annog ailddyrannu staff dros dro i gefnogi brysbennu pan fo angen.
  • Yn olaf, rydym wedi datblygu achos busnes sy'n cyflwyno'r argymhellion i sicrhau lefelau staffio cynaliadwy yn yr Adran Achosion Brys, gan leihau ein dibyniaeth ar staff asiantaeth.

“Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr i wneud gwelliannau parhaus yn ein hadran a darparu gofal brys diogel a thosturiol i’n cleifion. Rwy'n hynod falch o'r ymroddiad a'r proffesiynoldeb a ddangosir bob dydd gan y tîm yn ein Hadran Achosion Brys. Diolch i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru am eu hymweliad cadarnhaol ar y cyfan; bydd eu hadborth gwerthfawr yn ein helpu i barhau i wella ein gwasanaethau ar gyfer y cymunedau a wasanaethwn.”

 

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad ar eu hymweliad dirybudd ag Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd ym mis Ebrill 2025.