22 Ionawr 2026
Rydym yn croesawu canfyddiadau arolygiad diweddaraf Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru mewn perthynas ag Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd ac mae'n galonogol gweld yr adborth cadarnhaol yn cydnabod trugaredd, proffesiynoldeb ac ymroddiad ein staff.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddorau Iechyd: "Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at waith tîm cryf ar draws wardiau Aneurin, Cynan a Taliesin, ac mae cleifion a theuluoedd yn disgrifio staff fel hawdd mynd atynt, parod eu cymorth a chefnogol. Rydym yn arbennig o falch bod yr arolygiad wedi cydnabod ansawdd y gofal trugarog sy'n cael ei gynnig mewn amgylchiadau heriol, ochr yn ochr â chryfder ein trefniadau diogelu, atal heintiau a mesurau rheoli, a'r ymrwymiad clir i ddiogelwch cleifion. Mae presenoldeb staff dwyieithog, sy'n galluogi cleifion i gyfathrebu yn Gymraeg neu yn Saesneg, hefyd yn gryfder pwysig ac mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
"Er ei fod yn galonogol gweld bod arolygwyr wedi nodi cynnydd ers yr arolygiad blaenorol yn 2023, rydym yn cydnabod y meysydd lle bo angen gwella pellach ac rydym yn eu cymryd o ddifrif. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu gweithgareddau therapiwtig ystyrlon a strwythuredig er mwyn cynnal adferiad ac rydym yn derbyn bod hwn yn dal i fod yn faes lle bo angen sylw parhaus.
"Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at heriau'n ymwneud â chadw cofnodion, yr amgylchedd ffisegol, a phwysau’r gweithlu, gan gynnwys swyddi gwag a dibyniaeth ar staff dros dro. Rydym yn derbyn yn llwyr yr argymhellion yn ymwneud â gwella dogfennaeth, dulliau rheoli meddyginiaethau a chysondeb hyfforddiant ac arfarniadau staff, ac rydym wrthi'n cymryd camau i fynd i'r afael â'r materion hyn gan gynnwys datblygu achos busnes Cofnodion Iechyd Electronig ym maes Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.
"Rydym hefyd yn cydnabod y pryderon a godwyd gan staff ynghylch lles, adnoddau a gwelededd uwch arweinwyr. Mae cefnogi ein timau'n flaenoriaeth, a byddwn yn parhau i ymgysylltu'n uniongyrchol â staff er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo ein bod yn gwrando arnynt, ein bod yn eu cefnogi a'u bod yn rhan o lunio'r gwelliannau.
"Mae ein staff yn Uned Hergest yn parhau i ddangos gwytnwch ac ymrwymiad i gynnig gofal diogel a thrugarog, ac rydym yn ddiolchgar am eu hymroddiad. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a byddwn yn adeiladu ar y pethau cadarnhaol a nodwyd yn yr arolygiad hwn gan fynd i'r afael â meysydd lle bo angen camau pellach, er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal o ansawdd uchel."
Dolen i'r adroddiad llawn: Adroddiad Arolygu Ysbyty (Dirybudd) Uned Hergest Ysbyty Gwynedd