Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Iechyd Menywod Cymru GIG Cymru |

6 March 2026

Wrth i ni agosáu at Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, roeddwn i eisiau rhannu rhywfaint am y gwaith sy'n digwydd yma yng Ngogledd Cymru i wella canlyniadau i ferched ac i siarad am yr agenda iechyd merched ehangach sy'n llunio ein blaenoriaethau.

Ar hyn o bryd, rwy'n canolbwyntio llawer ar ddatblygu peilot ein Hwb Iechyd Merched cyntaf yn Ysbyty Llandudno. Dyma gam cyffrous ymlaen, ac mae llawer o waith yn mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni. Dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, byddwn yn rhannu mwy am beth mae hyn yn ei olygu i ferched yn lleol a sut y bydd yr hwb yn gwella mynediad, profiad a chanlyniadau.

Ond, mae'r agenda iechyd merched yn llawer ehangach na un hwb.

Rydym yn mabwysiadu dull gydol oes o ymdrin ag iechyd merched, gan gydnabod bod anghenion merched yn newid ar wahanol gyfnodau o'u bywydau, a bod yn rhaid i wasanaethau ymateb yn unol â hynny. Ochr yn ochr â hynny, rydym yn mabwysiadu dull iechyd y boblogaeth, gan edrych nid yn unig ar ofal clinigol ond ar y penderfynyddion ehangach sy'n dylanwadu ar iechyd a lles merched.

Mae hynny'n golygu mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n llunio bywydau merched, o ddylanwadau cymdeithasol ac economaidd i fynediad at wasanaethau, a herio'r anghydraddoldebau rhywedd sy'n parhau i effeithio ar ganlyniadau iechyd. Mae hefyd yn golygu canolbwyntio ar iechyd cynhwysol: sicrhau ein bod yn cyrraedd merched sy'n cael eu tangynrychioli, eu hanwybyddu neu'r rhai nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol, yn enwedig y rhai a allai fod yn agored i niwed.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn gyfle i ddathlu cynnydd, ond hefyd i gydnabod y gwaith sydd angen ei gyflawni o hyd. Nid yw gwella iechyd merched yn canolbwyntio ar drin cyflyrau yn unig, mae'n ymwneud â thegwch, mynediad a sicrhau y gall pob merch, ym mhob cyfnod o'i bywyd, gael mynediad at y gofal cywir ar yr amser cywir.

Mae llawer o waith cyffrous o’n blaenau, ac rwy'n edrych ymlaen at rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi wrth i’n cynlluniau ddatblygu.

Newyddion cysylltiedig: C&A hefo Katarzyna (Kasia) Studnicka-Perkin, Meddyg Ymgynhorol Trawma ac Orthopedig