6 Mawrth 2026
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, rydym yn dathlu merched sy'n herio disgwyliadau, yn adeiladu llwybrau cynhwysol, ac yn dangos nad yw rhagoriaeth yn ddibynnol ar rywedd. Yn yr erthygl hon, mae Katarzyna (Kasia) Studnicka-Perkin, Meddyg Ymgynghorol Trawma ac Orthopedig sy'n arbenigo ym maes Llawfeddygaeth y Dwylo a'r Arddyrnau, yn myfyrio ar ei gyrfa, yr heriau a'r boddhad o weithio mewn arbenigedd sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion yn draddodiadol, a'r gwersi y mae'n gobeithio eu rhannu â'r genhedlaeth nesaf.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddilyn gyrfa ym maes llawfeddygaeth orthopedig, gan arbenigo ym maes llawfeddygaeth y dwylo yn benodol?
Denodd llawfeddygaeth trawma orthopedig fi oherwydd cyflymder y gwaith, yr angen am wneud penderfyniadau pendant, a'r effaith bositif uniongyrchol y gall ymyrraeth lawfeddygol ei chael ar adferiad claf. Mae gweld gwelliannau pendant yng ngweithrediad ac ansawdd bywyd cleifion yn dod â boddhad mawr i mi.
Yn benodol, mae llawfeddygaeth y dwylo yn fy swyno oherwydd cymhlethdod anatomegol rhyfeddol y dwylo ac amrywiaeth eang y cyflyrau a'r triniaethau. Mae adfer swyddogaeth y dwylo yn caniatáu i gleifion ddychwelyd i'w gwaith, i'w hannibyniaeth a'u diddordebau sy'n ganlyniad ystyrlon ac ysgogol.
Mae orthopedeg yn dal i fod yn arbenigedd sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion. Fel merch, sut brofiad yw gweithio yn y maes hwn?
Rwyf i bob amser wedi ffynnu mewn amgylcheddau lle mae dynion yn dominyddu. Mae llawfeddygaeth orthopedig yn aml yn gofyn am gyfathrebu clir ac uniongyrchol, ac rwyf wedi canfod bod yr arddull hon yn gweithio i mi. Rwy'n ffodus i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr Ymgynghorol cefnogol a pharchus yn Ysbyty Gwynedd.
Wedi dweud hynny, byddai'n afrealistig anwybyddu'r heriau. Yn gynharach yn fy ngyrfa, roedd yn rhaid i mi weithio'n sylweddol galetach na fy nghyd-aelodau gwrywaidd i ennill yr un lefel o barch. Er ei fod yn heriol, lluniodd y profiad hwn fy agwedd tuag at waith a'm gwydnwch. Mae wedi atgyfnerthu fy ymrwymiad i droedio'r ail filltir—nid yn unig er mwyn fy nghleifion, ond er mwyn yr hyfforddeion a'r timau amlddisgyblaethol rwy'n gweithio gyda nhw bob dydd.
Ochr yn ochr â'ch gyrfa lawfeddygol, rydych chi'n cyflawni pethau rhyfeddol ym maes mynydda. Sut mae hyn wedi llunio eich dulliau proffesiynol?
Rwyf wedi ymddiddori yn y mynyddoedd erioed, a thros amser rwyf i wedi dod i werthfawrogi'r tebygrwydd rhwng mynydda a llawfeddygaeth.
Un o'r gwersi pwysicaf yw gwerth gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr y gallwch ymddiried ynddynt—pobl a fydd yn eich cefnogi mewn cyfnodau anodd. Yn y theatr llawdriniaethau ac yn y mynyddoedd, mae gwaith tîm, parch at eich gilydd, a dibynadwyedd yn hanfodol.
Mae paratoi yn allweddol yn y ddwy ddisgyblaeth. Gyda llawfeddygaeth, mae hyn yn golygu deall anghenion cleifion a dewis y driniaeth fwyaf priodol; yn y mynyddoedd, mae'n golygu asesu amodau a dewis y llwybr mwyaf diogel. Pan na roddir digon o ystyriaeth i baratoi, gall canlyniadau—boed yn glinigol neu'n bersonol—fod yn siomedig.
Prin yw cynnydd sy'n hollol ddirwystr. Cawn gymryd seibiant, ond mae cysondeb a momentwm yn bwysig. Yn debyg iawn i droedio'r mynyddoedd, mae gyrfa lawfeddygol yn cynnwys cyfnodau hir o ymdrech gyson, gan gynnwys adegau sy'n profi eich penderfynoldeb.
Gyda'r ddau, rhaid defnyddio offer arbenigol yn ddiogel ac yn effeithiol, ac mae'r gallu i addasu a meddwl yn greadigol yn dod yn hanfodol pan nad yw dulliau safonol yn ddigonol mwyach.
Yn ystod y cyfnod hwn o fy mywyd, mae cyfrifoldebau proffesiynol yn golygu fy mod i'n treulio tipyn mwy o amser yn y gwaith nag yn y mynyddoedd. Rwy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb i ddarparu'r gofal gorau posibl i'm cleifion. Yn ffodus, mae byw yng Ngogledd Cymru yn golygu nad yw'r mynyddoedd byth ymhell o'r golwg, ac maent yn cynnig ysbaid o bersbectif a chydbwysedd pryd bynnag y bydd amser yn caniatáu.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, pa gyngor fyddech chi'n ei roi i ferched ifanc sy'n ystyried gyrfaoedd mewn llawfeddygaeth, meddygaeth, neu feysydd eraill sy'n draddodiadol yn cael eu dominyddu gan ddynion?
Mae meddygaeth a llawfeddygaeth yn yrfaoedd gwerth chweil. Mae deall sut mae'r corff dynol wedi'i adeiladu, sut mae'n gweithredu, beth all fynd o'i le, a sut i'w drwsio yn bŵer heb ei ail. Hyd yn oed mewn oes o wybodaeth ar flaenau ein bysedd a deallusrwydd artiffisial, ni ellir disodli profiad clinigol a thrugaredd ddynol.
Mae llawer o ferched yn dod ag empathi, mewnwelediadau a sgiliau cyfathrebu cryf i ymarfer clinigol. Dyma rinweddau sy'n gwella gofal a chanlyniadau cleifion. Dylid cydnabod y cryfderau hyn a'u gwerthfawrogi, nid eu diystyru.
Mae fy nghyngor yn syml: ymdrechwch i fod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun. Mae pobl yn sylwi ar waith caled cyson, a thros dreigl amser, fe welwch y canlyniadau. Mae adeiladu teulu a bywyd personol boddhaus ochr yn ochr â gyrfa lawfeddygol heriol yn bosibl, ond mae'n gofyn am sgiliau rheoli amser rhagorol a phartneriaeth gefnogol.
I bob merch sy'n dechrau ar ei gyrfa —ymddiriedwch ynoch chi'ch hun, ymddiriedwch yn eich profiad, a pheidiwch â bychanu eich potensial. Rydych chi'n perthyn yma, a gallwch chi lwyddo.
Newyddion cysylltiedig: Diweddariad gan Nia Boughton, Arweinydd Clinigol