A ydych chi'n weithiwr cyllid proffesiynol sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth i ofal iechyd yng Ngogledd Cymru?
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i benodi Aelod Annibynnol (Cyllid) i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal ar draws ein rhanbarth yma yng Ngogledd Cymru.
Bydd ein Haelod Annibynnol (Cyllid) yn defnyddio manwl-gywirdeb ariannol ar gyfer y penderfyniadau hynny, mewn perthynas â gosod cyllideb, perfformiad, a rhoi sicrwydd ar gynllunio ac adrodd ariannol. Bydd ganddo graffter ariannol hynod ddatblygedig a phrofiad sylweddol o reoli cyllidebau, gyda phrofiad ariannol berthnasol ddiweddar a / neu gymhwyster cyfrifyddu cydnabyddedig. Bydd hefyd yn gyfrifol am gadeirio Pwyllgor Archwilio’r Bwrdd Iechyd.
Mae hwn yn gyfle unigryw i ddod â'ch arbenigedd ariannol i'r Bwrdd yn y sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru. Fel Aelod Annibynnol, byddwch yn cyflawni rôl hollbwysig o ran galw'r Bwrdd Iechyd i gyfrif, gan roi cymorth gyda llywodraethu da, a sicrhau stiwardiaeth ariannol ar ran y bobl rydym yn rhoi cymorth iddynt.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â chefndir cadarn ym maes cyllid, sgiliau dadansoddi ardderchog, ac angerdd dros wasanaeth cyhoeddus.
Gwnewch gais erbyn: Dydd Gwener, 1 Awst 2025
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a gwnewch gais yma