02.10.2025
Mae canolfan newydd i gynnig gofal i gleifion canser yng Ngogledd Cymru wedi’i hagor gan y dyngarwr Steve Morgan CBE.
Mae Canolfan Maggie’s Gogledd Cymru yn Adeilad Sefydliad Steve Morgan, a adeiladwyd ar dir Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, wedi'i chomisiynu, ei dylunio a'i hariannu'n llwyr gan Sefydliad Steve Morgan. Bydd y ganolfan newydd yn cynorthwyo ardal gyfan Gogledd Cymru ble bydd 4800 o bobl yn cael diagnosis newydd yn cadarnhau canser bob blwyddyn.
Dywedodd y Fonesig Laura Lee, DBE, Prif Weithredwr Maggie's: “Rydym wrth ein bodd fod ein canolfan newydd yn Sir Ddinbych ar agor a’n bod bellach yn gallu cynorthwyo pobl sy’n byw gyda chanser, gan gynnwys perthnasau a ffrindiau, o bob cwr o Ogledd Cymru.
“Rydym wedi gallu cynnig gwasanaethau Maggie's yng Ngogledd Cymru diolch i gymorth rhyfeddol o hael Sefydliad Steve Morgan i gomisiynu, dylunio, adeiladu ac ariannu ein canolfan, ac rwy’n hynod o ddiolchgar am hynny.
“Mae Sefydliad Steve Morgan wedi ymrwymo i adeiladu tair canolfan Maggie's newydd yn y Gogledd Orllewin - gan gynnwys yr un yng Ngogledd Cymru - ac mae hynny’n weithred ddyngarol wirioneddol ryfeddol.
“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at barhau i gydweithio â Sefydliad Steve Morgan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sicrhau ein bod yn cynorthwyo cymaint â phosibl o bobl o bob cwr o'r ardal.
“Mae gwasanaethau Maggie's ar gael i bawb y mae arnynt eu hangen, ac rydym yn eu cynnig yn rhad ac am ddim ac nid oes angen i neb drefnu apwyntiad na chael eu cyfeirio. Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i helpu pobl i ymdopi â'u diagnosis: yn cynnwys paratoi at driniaeth canser, cymorth â’r sgil-effeithiau posibl, cymorth ar ôl triniaeth, cynnig cyngor ynghylch budd-daliadau, neu ymdopi â chanser sydd wedi lledaenu.
“Rwyf wrth fy modd bod Maggie's Gogledd Cymru bellach ar agor, a bod cymorth elusen Maggie’s ar gael ym mhob un o dair canolfan canser y GIG yng Nghymru”.
Fe wnaeth Sefydliad Steve Morgan ddarparu £4 miliwn i adeiladu'r ganolfan yng Ngogledd Cymru, ac mae eisoes wedi comisiynu, dylunio, adeiladu ac ariannu Canolfan Maggie's Cilgwri a agorwyd ar dir Canolfan Ganser Clatterbridge yng Nghilgwri ym mis Medi 2021. Yn 2024, fe wnaeth y ganolfan gynorthwyo pobl bron i 20,000 o weithiau.
Bydd trydedd Ganolfan Maggie's yn Lerpwl yn cael ei hadeiladu o fewn tiroedd Ysbyty Brenhinol Newydd Lerpwl wrth ymyl Canolfan Ganser Clatterbridge newydd yn Lerpwl - cafwyd caniatâd cynllunio yr wythnos diwethaf a bydd hefyd yn cael ei hadeiladu diolch i Sefydliad Steve Morgan.
Dywedodd Steve Morgan CBE, Cadeirydd Sefydliad Steve Morgan: “Mae’n wych fod canolfan newydd Maggie’s yng Ngogledd Cymru wedi agor.
“Bydd y ganolfan newydd yn sicrhau bod gan bobl Gogledd Cymru fynediad hawdd at y cymorth hanfodol ynghylch canser y mae Maggie’s yn ei gynnig ac rydym yn falch o allu galluogi hynny. Ethos y Sefydliad yw 'rhoddi arian yn dda' ac mae ein partneriaeth ag elusen Maggie's yn enghraifft berffaith o sut y gallwn harneisio ein harbenigedd, ein cymorth ymarferol a'n profiad masnachol i fanteisio’n llawn ar ddylanwad ein cymorth ariannol.
“Testun cyffro i ni yw gweld y ganolfan hon yn gwneud yr hyn y bwriedir iddi ei wneud - cynorthwyo pobl â chanser yn ystod y cyfnod anoddaf yn eu bywydau o bosibl - a pharhau â’n partneriaeth ag elusen Maggie’s drwy ddatblygu’r ganolfan yn Lerpwl.”
Darllenwch fwy: Canolfan Maggie's yng Ngogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Roedd Jules Peters, gwraig y diweddar Mike Peters o'r band roc Cymreig The Alarm, hefyd yn bresennol yn yr agoriad swyddogol.
Bu farw Mike yn gynharach eleni ar ôl byw gyda chanser am 30 mlynedd. Canodd eu mab Evan gyda Rhys Meirion, y canwr opera o Gymru, i helpu i ddathlu'r agoriad swyddogol.
Dywedodd Jules: “Mae’n hyfryd bod yma heddiw i weld Canolfan Maggie’s yng Ngogledd Cymru yn agor. Mae angen mawr am gymorth arbenigol a rhad ac am ddim elusen Maggie’s i bobl sy'n byw gyda chanser, a bydd y ganolfan yn helpu nifer fawr o bobl yn ystod cyfnod y gwn ei fod yn anodd. Byddai Mike wedi bod wrth ei fodd yn gweld y ganolfan yn agor, ac rwy'n siŵr y byddem wedi ymweld â’r ganolfan.”
Cafodd Kevin Owen, 61 oed, ddiagnosis yn cadarnhau canser yn 2021 ac mae wedi cael cymorth gan Ganolfan Maggie's Cilgwri ac roedd hefyd yn bresennol yn agoriad swyddogol y ganolfan.
Dywedodd: “Roeddwn i’n ffodus yn ystod ac ar ôl fy nhriniaeth canser fod Canolfan Maggie's yng Nghanolfan Canser Clatterbridge, Cilgwri, yn agos at fy nghartref. Mae'r cymorth a gefais gan Maggie's wedi helpu i sicrhau bod taith anodd ychydig yn haws. Fel Cymro Cymraeg yn hanu o Fethesda, roeddwn yn cysylltu â phobl eraill o'r ardal honno yr oedd canser yn effeithio arnynt a sylweddolais pa mor ffodus oeddwn i i fod yn agos at Ganolfan Maggie's.
“Bydd y Ganolfan Maggie's newydd yng Nglan Clwyd yn ei gwneud hi'n llawer haws i bobl ledled Gogledd Cymru gael y cymorth gwych a gynigir. Mae’n wasanaeth cymorth mawr ei angen ar gyfer pobl y maes canser yn effeithio arnynt yng Ngogledd Cymru.”
Caiff Ysbyty Glan Clwyd ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a lleolir Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yno.
Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym wrth ein bodd bod Gogledd Cymru bellach yn gartref i ganolfan Maggie's newydd, sy’n cynnig cymorth amhrisiadwy i bobl sy'n byw gyda chanser ledled Gogledd Cymru. Mae’r ffaith fod y ganolfan wedi’i sefydlu yn Ysbyty Glan Clwyd, ble cafodd ein Canolfan Trin Canser yng Ngogledd Cymru ei hail-ddynodi'n ddiweddar yn Ganolfan Ragoriaeth Tessa Jowell ar gyfer niwro-oncoleg, yn cryfhau ein gallu rhanbarthol. Mae'n sicrhau bod gofal arbenigol a thosturiol ychwanegol ar gael yn nes at gartrefi cleifion. Rydym yn ddiolchgar i Sefydliad Steve Morgan a Maggie's am wireddu’r ganolfan angenrheidiol hon."
Maggie's Gogledd Cymru yw'r drydedd Ganolfan Maggie's yng Nghymru; agorwyd Canolfan Maggie's Abertawe yn 2011 a Chanolfan Maggie's Caerdydd yn 2019. Yn ystod 2024, fe wnaeth y ddwy ganolfan yn Ne Cymru gynorthwyo pobl â chanser, yn ogystal â pherthnasau a ffrindiau, fwy na 18,500 o weithiau.
Mae gan Maggie's 30 mlynedd o brofiad ac arbenigedd yn cynnig cymorth a gwybodaeth am ganser am ddim mewn canolfannau ledled y DU. Adeiladwyd y canolfannau ar dir ysbytai trin canser y GIG, ac maent yn fannau cynnes a chroesawgar sy’n cael eu rhedeg gan staff arbenigol, sy'n helpu pobl i fyw'n dda gyda chanser.
Mae elusen Maggie's yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar roddion gwirfoddol i gynorthwyo a thyfu ei rhwydwaith o ganolfannau ac i ddatblygu ei rhaglen gymorth unigryw o ansawdd uchel. Nod yr elusen yw gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl er gwell i bobl sy'n byw gyda chanser a'u perthnasau a'u ffrindiau.
Rydym am i'n canolfannau gynorthwyo cymaint â phosibl o’r bobl hyn a’u perthnasau ac rydym yn dibynnu ar haelioni cymunedau o amgylch y canolfannau i wireddu hynny.
I gael rhagor o wybodaeth am Maggie's yng Ngogledd Cymru a sut allwch chi gynorthwyo'r ganolfan, trowch at: https://www.maggies.org/our-centres/maggies-north-wales/
Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr