Rydym wedi cael ein cydnabod yng Ngwobrau Rheoli Risg CIR 2025. Cawsom ein henwebu mewn pum categori cenedlaethol ac fe enillon ni wobr Tîm Rheoli Risg y Flwyddyn.
Bu Nesta Collingridge, Pennaeth Rheoli Risg, yn y seremoni yn Llundain ddydd Gwener i dderbyn y wobr ar ran y sefydliad.
Mae Gwobrau CIR yn un o'r digwyddiadau rheoli risg traws-sector mwyaf uchel eu parch yn y DU. Roedd enillwyr eleni yn cynnwys sefydliadau byd-eang mawr fel Saudi Aramco, EDF Energy – Hinkley Point C, Aviva, KAEA (Jet Decommissioning), Rolls-Royce, Banc Monzo, a Chymdeithas Adeiladu Nationwide. BIPBC oedd yr unig sefydliad gofal iechyd a gydnabuwyd ymhlith y sectorau hyn. Mae'r wobr felly yn arbennig o arwyddocaol, ac yn adlewyrchu ymrwymiad y Bwrdd i atgyfnerthu llywodraethu, sicrwydd a rheoli risg yn y sefydliad.
Mae ennill Tîm Rheoli Risg y Flwyddyn yn cydnabod effeithiolrwydd y tîm wrth atgyfnerthu gwydnwch sefydliadol, a gwneud penderfyniadau gwybodus.
Wrth drafod y wobr, dywedodd Nesta: “Yn gyntaf, mae’r wobr hon i Huw Williams, Jody Evans, Linda Dyson, ein Rheolwyr Risg Rhanbarthol; Danielle Hunt ac Anthony Hughes Rheolwyr Sicrwydd Risg. Mae'n cydnabod eich ymrwymiad i gryfhau ein seilwaith risg, yr oriau di-rif o gyngor, a'r gefnogaeth rydych chi wedi'i rhoi i'n gwasanaethau.
“Diolch yn fawr hefyd i Pam Wenger, ein Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol, a’n Prif Weithredwr, Carol Shillabeer, am eu harweinyddiaeth, eu cefnogaeth a’u harweiniad drwy gydol y newid hwn. Ac i aelodau ein Bwrdd — diolch i chi gyd am yr holl gefnogaeth ac amynedd yn ystod y trawsnewidiad.
“Ond yn fwy na dim, mae’r wobr hon i'r 500 o arweinwyr a rheolwyr risg ar draws y sefydliad - y rhai ohonoch sydd wedi cymryd yr amser i ysgrifennu am risgiau, wedi mynychu ein hyfforddiant, wedi diweddaru risgiau, ac yn bwysicaf oll wedi ysgogi camau gweithredu sy’n gwneud gofal i gleifion yn fwy diogel. Diolch am bopeth rydych chi'n ei wneud."