Neidio i'r prif gynnwy

Unedau Mân Anafiadau – yn eich helpu i gael y gofal priodol, yn gyflym ac yn agos at eich cartref

4 Rhagfyr 2025

Mae timau gofal iechyd ledled Gogledd Cymru yn annog pobl i fanteisio i'r eithaf ar ein Hunedau Mân Anafiadau (UMA) lleol - gwasanaethau cyflym a chyfleus sydd wedi'u llunio i drin ystod eang o anafiadau nad ydynt yn bygwth bywyd heb orfod aros yn hir mewn Adran Achosion Brys.

Caiff UMA eu rhedeg gan Ymarferwyr Nyrsio Meddygaeth Frys medrus iawn sy'n gallu asesu, diagnosio a thrin llawer o anafiadau cyffredin yn y fan a'r lle. Maent yn cynnig gofal arbenigol i oedolion a phlant i ymdrin â chyflyrau megis:

• Mân doriadau, ysigiadau a chleisiau
•  Anafiadau i'r aelodau corfforol
• Mân losgiadau a sgaldiadau
• Mân anafiadau i'r pen ac archollion ar groen y pen
• Brathiadau (pobol neu anifeiliaid)
• Mân anafiadau i'r llygaid
•  Corffynnau estron yn y clust a’r trwyn
• Pigiadau pryfed a mân glwyfau eraill

Mae UMA yn cynnig amseroedd aros byrrach a lleoliadau hygyrch iawn,  felly maent yn ddewis rhagorol yn lle Adrannau Achosion Brys at ddibenion trin y mathau hyn o anafiadau – gan helpu cleifion i gael y gofal priodol yn gyflymach gan sicrhau bod gwasanaethau brys ar gael i’r bobl y bydd arnynt eu hangen yn fwy na neb.

Dywedodd Elen Jones, Ymarferydd Nyrsio Meddygaeth Frys yn Ysbyty Cymuned Dinbych: "Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli cymaint y gallwn ei wneud yn ein Hunedau Mân Anafiadau. Gallwn asesu, trin a hyd yn oed ofyn am archwiliadau pelydr-x mewn rhai achosion. Os bydd unrhyw un yn ansicr, byddwn bob amser yn fodlon ateb galwad a dweud a allwn gynorthwyo ai peidio. Yn aml, bydd cleifion wedi’u rhyfeddu yn sgil cael eu gweld a’u trin mor gyflym."

Fodd bynnag, dymuna staff atgoffa pobl mai diben UMA yw trin mân anafiadau nad ydynt yn bygwth bywyd yn unig. Dylai unrhyw un sy'n profi symptomau megis poen yn y frest, anawsterau anadlu, symptomau strôc, gwaedu sylweddol, neu amheuaeth o sepsis fynd yn syth i’r Adran Achosion Brys neu ffonio 999. Mae’r timau a’r offer arbenigol priodol ar gael yn y gwasanaethau hynny.

Dywedodd Sue Morris, Rheolwr Uned Mân Anafiadau Ysbyty Llandudno: "Mae gan ein timau brofiad helaeth o drin ystod eang o fân anafiadau ac maent yn credu’n gryf mewn cynnig gofal rhagorol yn agos at gartrefi cleifion. Ond yn achos cyflyrau sy'n bygwth bywyd neu gyflyrau difrifol, bydd angen i gleifion ymweld ag Adran Achosion Brys lle gallant gael eu hasesu ar frys a chael triniaeth arbenigol."

Ychwanegodd Tracy Lewis, Metron yn Ysbyty Llandudno: "Trwy ddewis UMA i drin mân anafiadau, yn aml iawn, gellir gweld pobl a'u trin yn llawer cyflymach. Bydd hynny hefyd yn helpu i sicrhau bod Adrannau Achosion Brys ar gael i'r bobl hynny y bydd arnynt eu hangen mewn gwirionedd – ac mae hynny’n fuddiol i bawb."

Os na fyddwch chi’n gwybod a ellir trin eich anaf mewn Uned Mân Anafiadau, gallwch gysylltu â'ch UMA leol yn uniongyrchol neu ffonio GIG 111 i gael cyngor cyn teithio.

Mae manylion yr holl Unedau Mân Anafiadau ledled Gogledd Cymru – gan gynnwys oriau agor, lleoliadau a'r pethau y gallent eu trin – ar gael ar ein gwefan