Neidio i'r prif gynnwy

Un o Brif Nyrsys Gogledd Cymru yn dweud wrth garfan myfyrwyr nyrsio 'hanesyddol' – 'Rydym yn barod amdanoch chi'

15.08.2025

Dywedodd pennaeth nyrsio’r Bwrdd Iechyd ei bod yn anrhydedd sefyll o flaen y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio i gwblhau cwrs yn Ardal y Canol Gogledd Cymru ers tair degawd.

Cyfaddefodd Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth BIPBC, Angela Wood, ei bod yn genfigennus o’r grŵp wrth iddynt ddechrau eu gyrfaoedd ar adeg o “gyfle anhygoel”. Nododd ei hareithiau yn Llanelwy a Wrecsam ddiwedd y cwrs cyntaf o dan gontract comisiynu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), ym Mhrifysgol Wrecsam.

Astudiodd rhywfaint o’r garfan yn safle Plas Coch y Brifysgol, tra bod eraill wedi cael eu haddysgu ar gampws Llanelwy. Yn arwyddocaol i Lanelwy, dyma’r garfan gyntaf o fyfyrwyr i astudio yn Ardal y Canol Gogledd Cymru ers 30 mlynedd, a byddant wedi cymhwyso cyn bo hir.

Gan annerch y myfyrwyr, sydd wedi astudio ar y cyrsiau nyrsio oedolion, nyrsio plant neu nyrsio iechyd meddwl, cyfeiriodd Angela at ei thaith ei hun fel nyrs a ddechreuodd 35 mlynedd yn ôl. Anogodd nhw i ddathlu'r foment – a breuddwydio'n fawr.

Darllenwch fwy: Techneg arloesol yn defnyddio uwchsain yn trawsnewid gofal twnnel y carpws ac yn rhyddhau amser theatrau llawdriniaethau

Dywedodd: “35 mlynedd yn ôl, roeddwn i yn eich sefyllfa chi. Rwy’n cofio’r nerfau, y cyffro, a’r ymdeimlad llethol o bosibilrwydd. Roeddwn yn gwybod fy mod yn camu i rywbeth mwy na fy hun, a gallaf ddweud wrthych nawr, mai dewis dod yn nyrs oedd y penderfyniad gorau a wnes i erioed.

“Rwyf hefyd ychydig yn genfigennus oherwydd rydych yn dechrau eich taith ar adeg o gyfle anhygoel. Rydych yn dechrau proffesiwn sy'n esblygu, yn ehangu, ac yn fwy hanfodol nag erioed. Chi fydd y rhai a fydd yn llunio dyfodol gofal yng Ngogledd Cymru. Byddwch yn arloesi, yn eirioli ac yn arwain.

“A nawr, wrth i chi baratoi i ymuno â’n gweithlu, rwyf eisiau i chi wybod: rydym yn barod amdanoch chi. Rydym yn eich croesawu, nid yn unig fel graddedigion, ond fel cydweithwyr. Rydych yn dod â safbwyntiau ffres, egni newydd, ac ymdeimlad dwfn o bwrpas a fydd yn cyfoethogi ein timau a'n cymunedau.

"Felly, manteisiwch ar y foment hon. Dathlwch hi. Myfyriwch ar ba mor bell yr ydych wedi dod, a breuddwydiwch yn feiddgar am ble y byddwch yn mynd nesaf. Nid gyrfa yn unig yw nyrsio; mae'n alwedigaeth. Mae'n fraint. Rwy’n eich llongyfarch o waelod fy nghalon. Rwyf mor falch ohonoch chi. Ni allaf aros i weld yr effaith y byddwch yn ei chael."

Darllenwch fwy: Mae'r Rhyl, Treffynnon a Llangefni wedi cael eu henwi'n Gymunedau sy'n Croesawu Bwydo ar y Fron

Dywedodd Alison Lester-Owen, prif ddarlithydd ac arweinydd proffesiynol ar gyfer nyrsio yng nghampws Llanelwy ym Mhrifysgol Wrecsam: “I’n myfyrwyr sydd wedi’u lleoli yn Llanelwy, mae’r foment hon yn fwy hanesyddol gan mai nhw yw'r cyntaf i hyfforddi yn Ardal y Canol Gogledd Cymru ers dros 30 mlynedd. Nid ystadegyn yn unig yw hynny, mae'n atgof pwerus o sut y gall mynediad at addysg, yn agos at adref, fod yn drawsnewidiol i unigolion a chymunedau.”

Dywedodd Yr Athro Paul Davies, dirprwy is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn hynod falch o’r hyn y mae ein myfyrwyr wedi’i gyflawni, nid yn unig yn academaidd, ond yn y ffordd y maent wedi croesawu gofynion y rhaglen, cefnogi ei gilydd a pharatoi eu hunain i gamu i rolau hanfodol yn ein system iechyd a gofal.

“Nhw yw’r union fath o raddedigion sydd eu hangen ar y rhanbarth hwn a’r proffesiwn nyrsio: gwydn, tosturiol, medrus ac wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn y cymunedau y maent yn mynd i fod yn eu gwasanaethu.”

*Y myfyrwyr yw’r garfan gyntaf i gwblhau eu graddau ar gontract comisiynu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn dilyn tendr llwyddiannus am gyllid yn ôl yn 2022, a arweiniodd at drefniant gweithio mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Wrecsam, AaGIC a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr