23.07.2025
Bydd mwy o bobl yn derbyn triniaeth radiotherapi wrth i Ysbyty Glan Clwyd dderbyn peiriannau trin canser newydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £9.49m mewn dau gyflymydd llinol newydd yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru fydd yn cymryd lle offer sydd wedi heneiddio. Bydd y peiriannau newydd yn cynnig triniaeth radiotherapi sydd yn fwy penodol ac yn fwy effeithlon.
Gall y peiriannau Linac diweddaraf dargedu a dinistrio celloedd canser yn fwy cywir, gan leihau'r risg o achosi niwed i feinwe iach o gwmpas safle'r tiwmor. Bydd yr offer newydd yn fwy dibynadwy na'r peiriannau hŷn, sy’n tueddu i dorri lawr gan achosi oedi. Maen nhw’n gweithio'n gyflymach, gan sicrhau bod mwy o bobl yn derbyn triniaeth bob wythnos.
Dywedodd Pennaeth Ffiseg Radiotherapi yn Ysbyty Glan Clwyd, Jaap Vaarkamp: “Bydd yr offer newydd hwn yn ein helpu i gynnig gofal arloesol, sy'n canolbwyntio ar y claf, trwy gynnig triniaethau symlach, mewn llai o amser a gwell delweddu o lawer. Bydd yn helpu i sicrhau ein bod yn darparu triniaeth sydd wedi'i thargedu, pryd bynnag mae ei hangen.”
Yn ôl Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Bydd yr offer newydd hwn, sydd o'r radd flaenaf, yn cynnig triniaeth fwy penodol a chyflymach i bobl â chanser, gan wella mynediad at wasanaethau radiotherapi a lleihau amseroedd aros.
“Mae'n enghraifft arall o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau i bobl ac mae'n dilyn buddsoddiadau tebyg mewn offer newydd yng nghanolfannau canser eraill ar hyd a lled Cymru.”
Dilynwch ni ar WhatsApp - Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol.