Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Therapïau yn cefnogi mwy na 450 o bobl sydd â phroblemau cymalau a chyhyrau trwy ddatrysiad cymunedol arloesol

26 Awst 2025

Mae tîm o staff therapïau, sy’n cynnwys Ffisiotherapyddion, Podiatryddion a Dietegwyr, wedi cefnogi dros 450 o bobl sydd â phroblemau cymalau a chyhyrau, diolch i ddatrysiad arloesol a chymunedol.

Mae cleifion yn Ynys Môn a Gwynedd sy’n aros am asesiad ar gyfer poen cyhyrysgerbydol (poen yn y cyhyrau, esgyrn, cymalau, gewynnau a thendonau) yn cael eu gwahodd i ganolfannau hamdden lleol ar gyfer eu hymgynghoriad lle cynigir triniaeth bellach iddynt, cymorth megis ymarfer corff, neu lle cânt eu rhyddhau o ofal y gwasanaeth.

Mae'r Diwrnodau Asesu Cymunedol (CAD) hyn, sy'n 'siop un stop', hefyd yn cael eu cefnogi gan sefydliadau trydydd sector eraill sy'n rhoi'r cyfle i fynychwyr fynd i'r afael ag unrhyw anghenion eraill sydd ganddynt.

Mae’r adborth gan gleifion wedi bod yn hynod gadarnhaol. Roedd Martin Fell o Benllech yn un o’r cleifion hynny a oedd yn canmol y tîm clinigol am drefnu’r digwyddiad.

Dywedodd: “Rwyf wedi bod yn dioddef gyda phoen yn fy mhen-glin ers tua 4-5 mis. Rwyf wedi darganfod nad oes angen llawdriniaeth i mi gael pen-glin newydd ond wrth ddod yma heddiw, rwyf wedi dod o hyd i ymarferion newydd i'w gwneud i fy helpu gyda'r boen.

“Mae’n wych eu bod wedi cynnal y digwyddiad hwn i gleifion, ac mae’n llawer mwy cyfleus na gorfod gyrru i Ysbyty Gwynedd.

“Rwyf wedi cael llawer mwy o wybodaeth a deunydd darllen – mae wedi bod o gymorth mawr.”

Cafodd Stephen Rowlands, o Lannerchymedd, gynnig apwyntiad ar gyfer poen yn ei ysgwydd y mae wedi bod yn ei brofi ers tua chwe mis.

Dywedodd: “Mae’r boen wedi bod mor ddrwg ar adegau nes ei fod yn fy neffro yn y nos, felly mae’n hynod boenus, ac rwy’n cael trafferth codi pethau penodol.

“Pan gefais yr apwyntiad i ddod i’r digwyddiad hwn, roeddwn yn ansicr o beth i’w ddisgwyl, ond roeddwn yn meddwl y byddwn i'n dod gyda meddwl cadarnhaol ac agored.

“Mae wedi bod yn hollol wych. Rwyf wedi siarad â sawl clinigydd, rwyf wedi cael gwrandawiad, ac rwyf wedi dysgu rhai ymarferion newydd. Gallaf deimlo gwelliant sylweddol yn fy ysgwydd ers i’r ymarferion hyn gael eu dangos i mi, sy'n wych.

“Mae apwyntiad dilynol wedi cael ei drefnu i mi rhywbryd yn y dyfodol i weld sut yr wyf yn ymdopi, ond rwy’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i ddod i’r digwyddiad hwn.”

Nid yn unig y mae’r digwyddiadau hyn o fudd i gleifion, maent hefyd o fudd i’r staff sydd wedi gweithio gyda’i gilydd i’w gwneud yn llwyddiant hyd yma.

Dywedodd Cathy Wynne, Pennaeth Ffisiotherapi ar gyfer Cymuned Iechyd Integredig Ardal y Gorllewin: “I mi, y cyflawniad mwyaf arwyddocaol o’r digwyddiadau hyn hyd yma oedd dod â’r tîm at ei gilydd i gefnogi ein cleifion.

“Mae hefyd wedi creu cyfleoedd ffantastig ar gyfer rhwydweithio â chydweithwyr a phartneriaid trydydd parti, a fydd yn cryfhau ein hymdrechion cydweithredol.”

Ychwanegodd Anna White, Uwch Ymarferydd Ffisiotherapi: “Mae’r Diwrnodau Apwyntiadau Cymunedol wedi rhagori ar ein disgwyliadau hyd yma. Rydym yn gallu cwrdd â chleifion mewn lleoliad cymunedol, gan eu gweld yn gynharach nag y byddem wedi'i wneud fel arall, ond hefyd yn gallu cael y partneriaid cymunedol yn yr un lle, i gefnogi cleifion mewn sefyllfaoedd iechyd a chymdeithasol ehangach.

“Mae wedi bod yn brofiad hynod gadarnhaol hyd yma i’n cleifion ac i’n staff allu gweithio gyda’n gilydd, ac rydym yn gobeithio gallu cynnal y sesiynau hyn yn rheolaidd ar draws Gwynedd ac Ynys Môn.”

Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, maent wedi bod yn cynnal Diwrnodau Asesu Cymunedol bach (“mini-CAD”) wedi’u ffocysu ers tua blwyddyn, gan weld rhwng 80 a 100 o gleifion fesul digwyddiad a gynhelir ar safleoedd y Bwrdd Iechyd. Yng Nghanol Gogledd Cymru, maent yn treialu clinigau pengliniau a thoresgyrn mynediad cyflym, gyda chynlluniau i dreialu gwasanaethau tebyg ar gyfer cwynion ynghylch yr ysgwydd. Mae cynlluniau i gynnal digwyddiadau CAD yn yr ardal hon yn y dyfodol, gan dargedu cleifion cymunedol yn benodol.