Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Radiotherapi yn dod yn un o ddim ond tri yng Nghymru i ddarparu triniaeth ganser arloesol

03.12.2025

Mae tîm radiotherapi ysbyty wedi cael ei gomisiynu i ddarparu triniaeth arloesol, wedi'i thargedu, ar gyfer canser yr ysgyfaint – un o ddim ond tair canolfan o'r fath ledled Cymru.

Yn ddiweddar, croesawodd staff yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru (NWCTC) Ysbyty Glan Clwyd eu claf cyntaf i dderbyn Radiotherapi Abladol Stereotactig yr Ysgyfaint (SABR). Mae'n driniaeth hynod fanwl gywir ac wedi’i thargedu a all daro ardaloedd bach iawn o gelloedd canser mewn canserau'r ysgyfaint yn ystod y cyfnod cynnar, lle gwrthodir llawdriniaeth neu nad yw'n opsiwn oherwydd cyflyrau iechyd eraill.

Yn y gorffennol, dim ond i gleifion o Ogledd Cymru yr oedd y driniaeth ar gael, a hynny os oeddent yn gallu teithio i Lerpwl i’w derbyn. Yr unigolyn cyntaf i fanteisio ar y gwasanaeth newydd yn Ysbyty Glan Clwyd yw Eileen Gerrity, o Ronant.

Cafodd Eileen, claf canser yr ysgyfaint yn ystod y cyfnod cynnar, gynnig y driniaeth a manteisiodd ar y cyfle i’w derbyn yn lleol wrth ymyl ei chartref yng Ngogledd Cymru. Mae’n mynychu pum sesiwn o radiotherapi dros gyfnod o bythefnos, ac mae’n ei ganmol yn fawr.

Darllenwch fwy: Canser - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dywedodd: “Mae'r ffaith y gallaf gael y driniaeth hon yn lleol, yn hytrach na theithio i Lerpwl, yn wych. Mae pawb mor garedig yma.

“Nid wyf wedi cael unrhyw ôl-effeithiau o gwbl. Mae’r staff yn hyfryd. Maent yn eich cysylltu â pheiriant. Nid yw’n unrhyw beth anodd. Mae’n wych.”

Fel arfer, darperir SABR fel apwyntiad cleifion allanol sydd angen nifer llai o driniaethau o'i gymharu â radiotherapi confensiynol i'r cleifion hynny sy'n addas. Y nod yw darparu dos uchel o ymbelydredd i'r tiwmor gan arbed cymaint o feinwe iach â phosibl er mwyn lleihau sgil effeithiau. Gyda'r ychwanegiad o Radiotherapi dan Arweiniad Arwyneb (SGRT), gall tîm Gogledd Cymru fonitro safle'r claf yn fanwl gywir, gan sicrhau bod y driniaeth yn cyrraedd y man rhagnodedig.

Datblygwyd y gwasanaeth drwy gydweithio agos rhwng Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (NWJCC), BIP Betsi Cadwaladr, yr Is-bwyllgor Oncoleg Glinigol, ac arweinwyr clinigol SABR o Abertawe a Felindre. Darparodd Canolfan Ganser Clatterbridge, yn Lerpwl, gyngor clinigol arbenigol a chymorth mentora ar gyfer y gwasanaeth newydd.

Dywedodd Dr Mazin Sirelkhatim, arweinydd rhaglen SABR ac oncolegydd yr ysgyfaint: “Rwyf wrth fy modd yn gallu cynnig y driniaeth hon i gleifion sydd â chanser yr ysgyfaint. Mae hon yn ymdrech tîm, ac rwy’n ddiolchgar iawn i fy nghydweithwyr, sef y clinigwyr, y  ffisegwyr a’r radiograffwyr, am eu holl gymorth i wneud hyn i ddigwydd.

“Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i’n cydweithwyr yn Clatterbridge ac yn Ne Cymru am eu cymorth parhaus. Rwy’n gobeithio y byddwn yn cydweithio ar fwy o brosiectau yn fuan.”

Darllenwch fwy: Llongyfarchiadau: Enillwyr Gwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Brenhinol Nyrsio (RCN) Cymru 2025 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Canmolodd y cyn-frocer stoc Eileen y gofal cyffredinol y mae wedi'i dderbyn gan Ganolfan Trin Canser Gogledd Cymru, sy'n dathlu 25 mlynedd o wasanaeth eleni.

“Rwy’n eithaf hapus i ddod i’r ganolfan”, datgelodd. “Rwyf wedi gweld rhai meddygon, nyrsys a radiotherapyddion gwych. Pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, byddant yn ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon. Mae’n wych bod gennych chi’r gefnogaeth honno.”

“Mae hon yn garreg filltir bwysig gyda’r ganolfan yn agor 25 mlynedd yn ôl, yn bennaf i ddarparu radiotherapi i boblogaeth Gogledd Cymru,” meddai pennaeth y gwasanaeth, Dr Christopher Scrase. “Rwy’n edrych ymlaen at ehangu rhaglen SABR ymhellach yn ystod y blynyddoedd nesaf.”

Dywedodd Melanie Wilkey, cyfarwyddwr comisiynu gwasanaethau arbenigol NWJCC: “Mae gallu cynnig SABR yn lleol yng Ngogledd Cymru yn gamp sylweddol i wasanaethau canser yng Nghymru, mae’n gwella mynediad, mae’n cefnogi tegwch, ac mae’n darparu canlyniadau gwell i gleifion.

“Cyn 2022, dim ond yng Nghanolfan Canser Felindre yr oedd triniaeth SABR ar gael. Y flwyddyn honno, daeth BIP Bae Abertawe’r ail ddarparwr. Bellach, mae BIP Betsi Cadwaladr wedi ymuno fel y trydydd. Mae hyn yn golygu bod pob un o'r tair canolfan canser trydyddol yng Nghymru bellach yn darparu SABR.”

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr