28.10.25
Mae Tîm Diabetes Oedolion Ifanc Wrecsam wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Rhagoriaeth mewn Gofal yng Ngwobrau Gofal Cymru eleni. Mae hwn yn ddathlu eu dull arloesol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o gefnogi pobl ifanc sy'n byw gyda diabetes.
Daw’r cyfnod fel oedolyn ifanc â heriau unigryw wrth reoli diabetes - o gyfnodau o newid mawr yn eu bywyd a chynnydd yn eu hannibyniaeth i faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl a niwroamrywiaeth. Gall y ffactorau hyn ei gwneud hi'n anoddach sicrhau rheolaeth dda ar ddiabetes a chynyddu'r risg o gymhlethdodau difrifol. Gan gydnabod hyn, mae Tîm Diabetes Oedolion Ifanc Wrecsam wedi treulio'r ddau ddegawd diwethaf yn datblygu gwasanaeth sy'n darparu gofal gwirioneddol gyfannol, integredig, sydd wedi'i deilwra i'r grŵp oedran penodol hwn, sy’n agored i niwed.
Sefydlwyd y clinig Oedolion Ifanc yn 2005 gyda'r arwyddair syml ond pwerus - "Dewch yn llu". Y nod oedd sicrhau bod oedolion ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u cynnwys, gan symud oddi wrth fodelau gofal traddodiadol trwy gynnig ymgynghoriadau ar y cyd â diabetolegydd ymgynghorol a nyrs arbenigol diabetes. Tyfodd y clinig yn gyflym i fod yn lle diogel lle gallai oedolion ifanc greu perthnasoedd hirdymor gyda'u tîm gofal.
Yn 2016, cymerodd y gwasanaeth gam arloesol ymlaen drwy sicrhau bod seicolegydd clinigol yn bresennol yn yr ystafell ymgynghori. Roedd hyn yn creu model cwbl integredig i drin anghenion iechyd corfforol ac emosiynol. Chwalodd y dull arloesol hwn unrhyw stigma a allai fod yn gysylltiedig â chymorth iechyd meddwl gan helpu’r tîm i ddarparu gofal mwy personol ac ystyrlon.
Erbyn hyn mae Gwasanaeth Diabetes Oedolion Ifanc Wrecsam wedi’i gydnabod fel y model safon aur ar gyfer Cymru, ac mae’n cynnal clinigau arbenigol ar gyfer oedolion ifanc sy'n trosglwyddo i therapi pwmp inswlin a hefyd yn ehangu i ddiwallu anghenion y rhai sy'n byw gyda diabetes math 2. Mae eu ffocws cryf ar gyfathrebu, ymddiriedaeth a pharhad wedi arwain at lefelau ymgysylltu uchel a rhai o'r cyfraddau isaf o dderbyniadau cetoasidosis diabetig (DKA) yn y rhanbarth.
Yn ôl Dr Steve Stanaway, Meddyg Ymgynghorol mewn Diabetes ac Endocrinoleg:
“Rydym yn falch iawn o dderbyn y gydnabyddiaeth hon. Mae gofalu am oedolion ifanc yn rhoi boddhad mawr, ond hefyd yn heriol — mae eu bywydau’n newid mor gyflym, a gall y diabetes weithiau gael ei anwybyddu i raddau. Rydym wedi dilyn yr egwyddor o gwrdd â nhw yn y lle maen nhw o’r cychwyn, gan wrando ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, a gweithio gyda’n gilydd fel pobl gyfartal. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth o ymroddiad ein tîm cyfan a’r bobl ifanc anhygoel rydyn ni’n eu cefnogi.”
“Mae integreiddio gofal seicolegol i bob ymgynghoriad wedi trawsnewid yr hyn yr ydym yn gallu ei gyflawni gyda’n gilydd” ychwanegodd Dr Rose Stewart, Seicolegydd Ymgynghorol Clinigol mewn Diabetes ac Endocrinoleg, “Mae’n ein galluogi i fynd i’r afael â’r pwysau a’r emosiynau yn eu bywyd sy’n dylanwadu ar eu rheolaeth diabetes. Rydym yn falch bod ein gwasanaeth wedi helpu i lunio safonau cenedlaethol ac, yn bwysicaf oll, yn parhau i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl ifanc.”
Wrth i’r tîm edrych i’r dyfodol, mae eu hymroddiad i ddatblygu’r gwasanaeth yn parhau — drwy archwilio ffyrdd newydd o wella gofal i oedolion ifanc sy’n byw gyda diabetes math 1 a math 2, a pharhau i hyrwyddo gofal iechyd cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ledled Cymru.