13 Awst 2025
Mae cleifion bellach yn elwa ar arloesiad llawfeddygol chwyldroadol sy'n trawsnewid y ffordd y caiff syndrom twnnel y carpws ei drin - gan gynnig adferiad cynt, costau is, a dim creithiau gweladwy.
Mae'r Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol y Dwylo, Mr Preetham Kodumuri, wedi cyflwyno techneg Rhyddhau Twnnel y Carpws gan Ddefnyddio Uwchsain (UGCTR) yn Ysbyty Maelor Wrecsam, y gwasanaeth cyntaf o'i fath yn GIG Cymru. Mae'r dechneg hon, sy'n cael ei chyflawni o dan anesthetig lleol mewn ystafell mân lawdriniaethau, yn dileu'r angen am theatr llawdriniaethau traddodiadol ac mae'n lleihau'r baich ar dimau llawfeddygol yn sylweddol.
Cafodd y gwasanaeth ei lansio ym mis Chwefror 2023 ac mae cynlluniau ar y gweill i ehangu'r gwasanaeth ar draws y Bwrdd Iechyd fel rhan o ymdrech ehangach i foderneiddio a symleiddio gofal llawfeddygol.
Dywedodd Mr Kodumuri: "Trwy symud y llawdriniaeth gyfaint mawr yma allan o theatrau ac i mewn i leoliadau symlach ar gyfer cleifion allanol, nid yn unig rydym yn gwella adferiad cleifion - rydym hefyd yn rhyddhau lle hollbwysig yn y theatr ar gyfer llawdriniaethau mwy cymhleth.
"Rydym hefyd yn gweld nifer o fuddion trwy gynnal y gwasanaeth fel hyn fel y gost fesul achos yn gostwng o £2,100 i £760 yn ogystal â gwella profiad cleifion - nid oes unrhyw endoriad, dim pwythau, dim craith - mae cleifion yn gallu dychwelyd at weithgarwch normal yn gynt, gyda llai o gymhlethdodau."
Mae cyflwyno gwasanaeth UGCTR yn rhan o strategaeth ehangach i foderneiddio gofal llawfeddygol ar draws y Bwrdd Iechyd, gyda ffocws ar gynaliadwyedd, mynediad ac arloesi. Mae'r gwasanaeth yn ategu at ehangu'r Ystafelloedd Mân Lawdriniaethau yn llwyddiannus ar draws Gogledd Cymru.
"Mae hyn yn ymwneud â chyflwyno llawdriniaeth yn graffach. Rydym yn defnyddio technoleg i wella canlyniadau, lleihau costau ac i roi profiad gwell i gleifion. Mae pawb ar eu hennill."