Neidio i'r prif gynnwy

Taith cadair olwyn 12km Gianni i wneud bywyd yn fwy disglair i bobl ifanc

20.08.2025

Mae seicolegydd cynorthwyol yn ein gwasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) yn gwneud taith ‘gerdded’ noddedig 12km i wneud bywyd yn fwy disglair i bobl ifanc.

Y peth gwirioneddol drawiadol am daith Gianni Frary o Hen Golwyn i Fae Penrhyn yn ystod y mis nesaf, yw ei fod yn gwneud hyn yn ei gadair olwyn.

Trefnwyd y Daith Arfordirol Cam wrth Gam gan CAMHS ac mae wedi bod yn mynd ymlaen trwy gydol Awst. Y nod yw codi arian fel y gall mannau clinigol a ddefnyddir gan y tîm gael eu hadnewyddu a’u gwneud yn fwy croesawgar ar gyfer pobl ifanc sydd angen cymorth.

Penderfynodd Gianni, a barlyswyd yn dilyn damwain bum mlynedd yn ôl, ei fod eisiau bod yn rhan ac i helpu i wneud y mannau a ddefnyddir ar gyfer cynorthwyo pobl ifanc yn fwy disglair.

Darllenwch fwy: Un o Brif Nyrsys Gogledd Cymru yn dweud wrth garfan myfyrwyr nyrsio 'hanesyddol' – 'Rydym yn barod amdanoch chi' - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dywedodd: “Mae angen diweddaru’r ystafelloedd rydym yn ymgynghori ynddynt a dyna pam dw i’n gwneud hyn.  Mae pobl ifanc yn rhan o sut rydym yn gwella’r ystafelloedd ac rydym wedi gofyn iddyn nhw am syniadau. Rydym eisiau creu thema ar gyfer pob ystafell.

“Roeddwn hefyd eisiau cydnabod pobl yng Nghymru sydd wedi gwneud i mi deimlo mor groesawgar. Mynd i Fae Colwyn oedd y tro cyntaf i mi deimlo bod croeso i mi ar lan y môr ers i mi gael fy namwain. Rwy’n teimlo fy mod i’n rhan o Gymru.”

Canmolodd Gianni sylw i fanylder y gyrchfan wrth wneud y llwybr arfordirol a’r ardal gyfagos yn addas i gadeiriau olwyn. Ar ôl symud i weithio yng Ngogledd Cymru o Swydd Amwythig, roedd eisiau mynd allan ac archwilio ac ni allai gredu pa mor hygyrch oedd Bae Colwyn. Dyna pam y dewisodd y darn llwybr arfordirol o Bwynt y Pysgotwr, Hen Golwyn, i Fae Penrhyn i gwblhau ei her.

Os ydych eisiau cynorthwyo Gianni a’i gydweithwyr a helpu i wella mannau ymgynghori ar gyfer pobl ifanc, ewch i’w tudalen JustGiving yma: CAMHS Programme is fundraising for Awyr Las Gogledd Cymru - Blue Sky North Wales

Dywedodd Jane Berry, sy’n arwain ar brofiad cleifion ar gyfer CAMHS, fod y cymorth maent wedi ei dderbyn ar gyfer y daith gan fusnesau a sefydliadau lleol wedi bod yn “anhygoel”. Mae’r tîm wedi annog pobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth a’u teuluoedd i ymuno â nhw ar y teithiau, i rannu eu profiadau a helpu i sicrhau newid.

Dywedodd hi: “Rydym yn clywed adborth gan deuluoedd ac yn aml mae’n wirioneddol gadarnhaol am ein gwasanaethau. Fodd bynnag, pan ddaw hi at fannau clinigol rydym yn eu defnyddio mae llawer o deuluoedd yn dweud wrthym nad ydyn nhw’n groesawgar iawn, yn therapiwtig neu hyd yn oed yn gyfforddus.

“Daeth y syniad ar gyfer codi arian yn wreiddiol gan unigolyn ifanc arall a oedd wedi gwneud gweithgaredd bach codi arian i wella un o’r ystafelloedd clinig sydd gennym. Ysbrydolodd hyn ni. Gyda chymorth Awyr Las, fe wnaethom hi’n genhadaeth i wneud popeth o fewn ein gallu i geisio codi’r arian.”

Mae taith Gianni ei hun i weithio o fewn y gwasanaeth hefyd wedi bod yn ysbrydoledig. Yn wreiddiol yn athro gwyddoniaeth ac ymarfer corff, roedd wedi gweithio gyda phobl ifanc gydag anawsterau cymdeithasol ac emosiynol, yn ogystal ag anghenion addysgol arbennig.

Roedd yn chwaraewr rygbi brwd a chynrychiolodd Loegr ar lefel o dan 21, fel chwaraewr hoci – hyd yn oed yn teithio gyda thîm cenedlaethol y Dynion i Kuala Lumpur, Malaysia, ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 1998. Roedd Gianni yn dal i chwarae hoci rhanbarthol hyd at ei ddamwain.

Darllenwch fwy: Techneg arloesol yn defnyddio uwchsain yn trawsnewid gofal twnnel y carpws ac yn rhyddhau amser theatrau llawdriniaethau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Nid oes dim o hyn wedi ei atal rhag gwneud y mwyaf o fywyd, er gwaethaf cyfnod anodd yn ystod Covid, fel yr eglurodd.

“Cefais fy namwain yn 2020,” meddai. “Fe’m rhyddhawyd o’r Ysbyty ond digwyddodd Covid, felly chefais i ddim ôl-ofal yng ngwir ystyr y gair. Roedd dod yn anactif yn sioc.

“Ond ddiwedd 2022 cefais sylw gan Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt yng Ngobowen. Canolfan y Canolbarth ar gyfer Anafiadau i’r Asgwrn Cefn oedd hyn. Newidiodd hynny bethau i mi. Cyn hynny, roeddwn wedi bod yn gweithio o gartref. Rhoddodd gweithio gyda’r ganolfan yr hyder i mi fynd allan i’r byd.

“F’athroniaeth yw, trwy gydol bywyd rydych ar lwybr. Mae hyn yn newid bywyd ond ddim ond yn droad arall yn y ffordd. Nid yw’n ddelfrydol ond mae ond yn ffordd arall i mi. Rwyf eisiau dangos i blant fod goleuni ym mhen draw’r twnnel.”

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr