Neidio i'r prif gynnwy

Tair menter wedi cyrraedd y rhestr fer yn y rownd derfynol yng Ngwobrau GIG Cymru

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod tair menter gan PBC wedi cyrraedd y rhestr fer yn y rownd derfynol yng Ngwobrau GIG Cymru eleni. 

Mae'r gwobrau hyn yn dathlu rhagoriaeth mewn gwella ansawdd ar draws gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. 

Trwy gydol y dydd, byddwn yn cyflwyno pob un o'r tri phrosiect sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, sy’n dangos arloesi ac ymroddiad ein timau o ran cynnig gofal eithriadol i gleifion. 

Gwasanaeth Mynediad Mewnwythiennol ar y rhestr fer am Wobr Gofal Effeithlon GIG Cymru

Llongyfarchiadau i'n tîm Gwasanaeth Mynediad Mewnwythiennol dan arweiniad Nyrsys (IVAS), y mae eu prosiect trawsnewid Mynediad Mewnwythiennol wedi cael ei enwi fel un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau GIG Cymru, o dan gategori Gofal Effeithlon. 

Cafodd y gwasanaeth arloesol hwn, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Glan Clwyd, ei ddatblygu i gynnig un pwynt mynediad i gleifion sydd ag anghenion mewnwythiennol cymhleth neu hirdymor, gan sicrhau gofal sy'n gyflymach, yn ddiogelach, ac yn fwy cydlynol. 

Mae'r gwasanaeth sy'n cael ei arwain gan dîm o nyrsys hynod fedrus a gweithiwr cymorth clinigol ymroddedig, wedi sicrhau gwelliannau rhagorol, gan gynnwys: 

  • Lleihau amseroedd aros ar gyfer mynediad mewnwythiennol gan nifer o ddiwrnodau neu wythnosau i gael triniaeth ar yr un diwrnod yn y rhan fwyaf o achosion
  • Sefydlu man pwrpasol ar gyfer triniaethau, gan leihau dibyniaeth ar theatrau brys a radioleg ymyriadol 
  • Creu system cyfeirio ac olrhain pwrpasol, gan ddileu'r angen am alwadau ffôn lluosog a gwella effeithlonrwydd o ddydd i ddydd. 
  • Rhoi cymorth i gleifion ar draws lleoliadau cleifion mewnol, cleifion allanol, triniaethau dydd a lleoliadau cymunedol. 

Ychwanegodd Dr Craig Beaton, arweinydd meddygol IVAS a dwysegydd ymgynghorol: "Rydym yn hynod ddiolchgar bod ein gwaith wedi cael ei gydnabod trwy gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Rydym wedi gweithio'n galed i wireddu'r gwasanaeth hwn, er budd ein staff a'r cleifion, ac rwy'n awyddus i ddiolch i'r tîm ac i bob un o'n cydweithwyr sydd wedi rhoi cefnogaeth i ni bob cam o'r ffordd."


Llongyfarchiadau!

 

Gwella mynediad trwy iaith: Yn ail, llongyfarchiadau i'r sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau GIG Cymru - y categori Gofal Teg.

Llongyfarchiadau i'n Tîm Hyfforddiant Cymraeg, y mae eu prosiect; defnyddio Model Hyfforddiant Arloesol a Chynaliadwy i wella Sgiliau Cymraeg Staff, wedi cael ei enwi fel un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau GIG Cymru, 2025, yng nghategori Gofal Teg.

Mae'r prosiect blaengar hwn wedi creu model hyfforddiant strategol, arloesol, a chynaliadwy i roi cymorth i staff o ran gwella hyder a rhuglder yn y Gymraeg, gan sicrhau bod modd i fwy o gleifion dderbyn gofal yn eu dewis iaith.

Trwy'r model hwn, mae staff ar draws adrannau amrywiol wedi cael eu grymuso i ymgorffori sgiliau Cymraeg i'w rolau o ddydd i ddydd, gan atgyfnerthu gofal cynhwysol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae'r model newydd yn gwneud y canlynol:

  • Yn hybu mynediad teg at wasanaethau,
  • Yn rhoi cymorth o ran datblygu iaith yn y tymor hir
  • Yn lleihau rhwystrau, ac yn gwella gofal cleifion

Dywedodd Beth Jones, Rheolwr Hyfforddiant Cymraeg PBC, "Mae'n anrhydedd mawr i'n tîm hyfforddiant Cymraeg gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr GIG Cymru.  Mae cynnig gwasanaethau ar gyfer cleifion yn eu dewis iaith yn ffactor allweddol o ran rhoi gofal o ansawdd uchel, felly mae'r gwaith rydym yn ei wneud i roi cymorth i'n staff o ran dysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg yn hollbwysig. Hoffem ddiolch o waelod calon i'n dysgwyr am eu hymrwymiad, eu hamser a'u hymroddiad i ddysgu'r Gymraeg."

 

 

Yn y rownd derfynol - Gwobrau GIG Cymru 2025: Gwobr Gwybodaeth

Llongyfarchiadau i'r Tîm Trawma ac Orthopedig yn Ysbyty Gwynedd, y mae eu prosiect arloesol "Y LIST” - trawsnewid Dulliau Rheoli Trawma ar draws GIG Cymru, wedi cael ei enwi fel un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau GIG Cymru 2025, yng Nghategori'r Wobr Gwybodaeth.

Gyda chymorth Mr Agustin Soler, sy'n Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol, mae Mr Faisal Mohammed, sy'n Llawfeddyg Orthopedig, wedi creu'r 'LIST', sef offeryn rheoli trawma a throsglwyddo gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Sharepoint, sydd â'r bwriad o wella'r broses o gydlynu gofal cleifion trawma ar draws timau ysbyty.

Mae'r datrysiad digidol dyfeisgar a rhad ac am ddim hwn yn symleiddio cynllunio at drawma, ac yn gwneud y canlynol;

  • Yn gwella cyfathrebu rhwng timau clinigol,
  • Yn gwella diogelwch o ran dulliau rheoli trawma
  • Yn cael ei deilwra'n arbennig i fod yn addas ar gyfer arbenigeddau gwahanol.
  • Yn integreiddio'n ddi-dor â data meistr cleifion

Dywedodd Karen Evans, Rheolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth Llawfeddygaeth, Anestheteg a Gofal Critigol yn Ysbyty Gwynedd: "Mae'r LIST yn arwain at fuddion gwella cyfathrebu, mae'n gynaliadwy, yn arbed arian, ac yn gwella dogfennaeth cofnodion cleifion ac mae'n hygyrch."

Mae'r enwebiad hwn yn tynnu sylw bod arloesi digidol, wedi'i symbylu gan dimau rheng flaen, yn gwella'r ffordd yr ydym yn cynnig gofal.

 

Llongyfarchiadau!