06/05/25
Mae cynlluniau datblygu ar waith i sefydlu Coleg Adfer yng Ngogledd Cymru, sef gofod pwrpasol lle gall unigolion ddod ynghyd i ddysgu am adferiad iechyd meddwl a lles. Mae’r fenter yn ceisio darparu amgylchedd diogel a chynhwysol ar gyfer pobl sydd â phrofiad byw o heriau iechyd meddwl, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol ac aelodau’r cyhoedd i rannu profiadau iechyd meddwl ac adeiladu gwydnwch.
Dywedodd Hannah Mart, Arweinydd Cymheiriaid y Coleg Adfer: “Mae Colegau Adfer yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sy’n trafod pynciau iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles. Mae’r cyrsiau hyn wedi cael eu cyd-gynhyrchu a’u harwain gan unigolion sydd â phrofiad byw o heriau iechyd meddwl, gan feithrin gobaith, dulliau grymuso, a chysylltiadau ystyrlon.
“Mae pawb sy’n mynychu Coleg Adfer yn cael eu trin yn gyfartal. Rydym yn credu bod dysgu gwirioneddol am adferiad iechyd meddwl a lles yn dod o wrando ar y rhai sydd â phrofiad bywyd o heriau iechyd meddwl”.
Fel rhan o raglen genedlaethol a arweinir gan Gwella Addysg Iechyd Cymru, mae cyllid wedi'i sicrhau i gyd-gynhyrchu achos busnes ar gyfer datblygu Coleg Adfer yng Ngogledd Cymru. Er ein bod yn parhau i fod yn y camau cynllunio cynnar, mae’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i rannu eu syniadau a’u mewnwelediadau i helpu i lunio cyfeiriad y coleg yn y dyfodol.
Trwy gydol mis Mai 2025, cynhelir arolwg a sesiynau ymgysylltu i gasglu mewnbwn gan y cyhoedd i ffurfio achos busnes. Bydd y cyfraniadau hyn yn chwarae rhan allweddol wrth lunio datblygiad y Coleg Adfer yng Ngogledd Cymru.
Gellir dod o hyd i fanylion am yr arolwg a’r sesiynau ymgysylltu ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dywedodd Hannah: “Mae’r arolwg a’r sesiynau ymgysylltu yn gyfle i gymunedau yng Ngogledd Cymru lunio’r Coleg Adfer yn rhywbeth sy’n wirioneddol yn adlewyrchu eu hanghenion.
“P’un a yw’n ymwneud â phenderfynu ar y mathau o gyrsiau yr ydym yn eu cynnig, dewis rhwng sesiynau ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb neu archwilio elfennau pwysig eraill, bydd eich llais yn helpu i adeiladu gofod lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso.”
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)