11.06.2025
Mae mam a thad a ddioddefodd y galar o golli plentyn wedi siarad am bwysigrwydd y gwasanaeth coffa blynyddol i blant.
Mae Jen Sansom a Dewi Wilson o Dreffynnon, a ganwyd eu mab, Owain yn farw-anedig ar 29 Tachwedd, 2014. Fe wnaethon nhw gytuno i rannu eu stori hynod bersonol yn y gobaith y byddai rhieni eraill sydd wedi wynebu profedigaeth o’r fath yn ymuno â nhw, a llawer o rai eraill yng Ngwasanaeth Coffa’r Sêr Bach, a gynhelir yn flynyddol yng Nghadeirlan Llanelwy. Dywedodd Jen a Dewi bod y gwasanaeth yn rhoi cyfle iddyn nhw, ynghyd â’u dau o blant, i dreulio awr gyda'i gilydd yn meddwl am Owain a neb arall.
Dywedodd Jen: “Rydym yn siarad am Owain gyda’r plant. Maen nhw’n siarad amdano yn gyson. Mae’r gwasanaeth yn para awr, ar un diwrnod penodol, lle gallwn ni i gyd feddwl amdano. Gyda'n gilydd, bob un ohonom ar yr un pryd. Mae’n ennyd i ni fel teulu i feddwl amdano.”
Yn ogystal, mae’r pâr yn ystyried y gwasanaeth fel ffordd o ddiolch a dangos parch i’r staff hynny a ofalodd amdanynt tra roeddent yn cael eu plant. Datgelodd Jen bod ei beichiogrwydd ag Owain wedi bod anodd. Cafodd ei hystyried yn glaf risg uchel o gael plentyn â Syndrom Down, ond daeth y profion yn ôl yn negyddol. Yn ogystal, roedd hi’n dioddef â phwysedd gwaed uchel a oedd yn gysylltiedig â'i beichiogrwydd.
Yna, ychydig cyn y geni, ymddengys fod popeth yn dechrau disgyn i’w le ac roedd Jen yn teimlo bod y gwaethaf drosodd. Eglurodd Dewi fod rhywbeth bob amser wedi peri pryder yn ystod y beichiogrwydd, ond yn ystod yr ychydig wythnosau cyn genedigaeth Owain, tawelwyd eu meddyliau.
“Efallai fy mod wedi dechrau ymlacio bryd hynny”, dywedodd. “Pan rydych yn tybio bod y pryder parhaus wedi dod i ben, yna ychydig o wythnosau’n ddiweddarach...”
Darllenwch fwy: Cydnabod cyfraniad hanfodol ein cydweithwyr nyrsio a'u dathlu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dechreuodd Jen deimlo’n sâl ac roedden nhw ar fin clywed y newyddion mwyaf torcalonnus y gallai unrhyw riant ei glywed.
“Ffoniais yr ysbyty oherwydd nid oeddwn yn teimlo’n dda ac roeddwn yn taflyd i fyny,” eglurodd Jen. “Roeddwn wedi mynd adref o’r gwaith ac mi gysgais y rhan fwyaf o’r diwrnod. Roeddwn yn ymwybodol bryd hynny nad oeddwn wedi teimlo’r babi’n symud.”
Ffoniodd yr ysbyty a chafodd ei gwahodd i mewn er mwyn iddyn nhw allu cymryd golwg arni hi ac ar Owain. Ar ôl iddi gael ei harchwilio gan y staff mamolaeth, gan gynnwys meddyg ymgynghorol, cawsant y newyddion hunllefus bod curiad calon eu babi wedi stopio.
Dewisodd Jen aros yn yr ysbyty ac fe gyrhaeddodd Owain y byd yn dilyn genedigaeth naturiol fore trannoeth. Roedd yn pwyso 3 pwys, 10 owns.
Esboniodd sut y gwnaeth hi baratoi ei hun i wynebu’r enedigaeth, ac wedi’r profiad, teimlodd bron yn ddatgysylltiedig ac yn ddiemosiwn - fel pe na bai’r cyfan wedi digwydd.
Dywedodd Dewi: “Rwy’n meddwl ei fod wedi fy nharo’n galetach i ddechrau o’i gymharu â Jen.”
Ychwanegodd Jen sut iddi deimlo’n “ddiemosiwn bron”, ond newidiodd hynny pan roedd yn rhaid iddi gofrestru genedigaeth a marwolaeth Owain. Dywedodd mai ar yr adeg hon y bu iddi ddechrau teimlo’r cyfan a Dewi oedd ei hangor.
“Meddyliais, mae’n rhaid i mi fod yn gryf os yw Jen yn teimlo fel hyn, mae’n rhaid mi fod yn gryf i ni’n dau,” dywedodd.
Ni lwyddodd y post-mortem i ddatgelu beth oedd achos marw-enedigaeth Owain. Siaradodd Jen a Dewi yn agored â'i gilydd a dod o hyd i ffordd i ymdopi wrth iddynt ddelio â galar eu trasiedi bersonol eu hunain.
Rhywbeth a ddaeth â chysur i’r ddau oedd Blwch Joshua a roddwyd iddynt wedi genedigaeth Owain. Roedd yn cynnwys dillad, olion traed, tedi, potyn ar gyfer cudyn o wallt a darn o bapur yn hysbysebu Gwasanaeth Coffa Sêr Bach, a gynhaliwyd bryd hynny yn yr Eglwys Farmor ym Modelwyddan. Dyma rywbeth a fyddai’n rhoi cysur a chefnogaeth iddyn nhw.
Dros y blynyddoedd mae pethau wedi’u hychwanegu at Flwch Joshua Owain ac mae hyd yn oed atgofion o'u teithiau i'r gwasanaethau.
Dywedodd Jen: “Mae'n rhywbeth corfforol. Mae'n rhywbeth cyffyrddadwy. Nid yw’n cael ei arddangos ond rydym yn gwybod ei fod yno ac mae’n cynnwys popeth i'w wneud gydag Owain, i gydnabod ei fod yn unigolyn yn ei rinwedd ei hun. Cafodd ei amlosgi felly mae ei ludw yno hefyd.”
Mae’r ymweliadau blynyddol hyn i gofio a dathlu Owain yn ddigwyddiad parhaol yng nghalendr y teulu, ond nid dyma yw diweddglo stori'r teulu hwn.
Croesawon nhw fachgen bach ddau ddiwrnod yn brin o flwyddyn ers colli Owain, yna merch ddwy flynedd yn ddiweddarach, a aned ar 30 Tachwedd. Ganwyd y tri o fewn pedwar diwrnod i'w gilydd mewn gwahanol flynyddoedd.
Mae’r profiad wedi ein gwneud ni’n deulu agos, lle mae Owain yn parhau i fod yn rhan enfawr o’r teulu ac mae'n cael ei ddathlu yng Ngwasanaeth Coffa'r Sêr Bach bob blwyddyn. Maen nhw hefyd yn cwrdd â theuluoedd eraill sydd wedi colli plant – a'r gweithwyr proffesiynol sy'n eu helpu.
Darllenwch fwy: A2A - Y straeon rhieni - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dywedodd Jen: “Yn ogystal â chydnabod colled Dewi a minnau, rhan o’r rheswm pam ein bod yn mynd i’r gwasanaeth yw er mwyn ein teulu a’n ffrindiau, ond hefyd, er mwyn y gweithwyr proffesiynol hynny sy’n delio â sefyllfaoedd fel hyn. Mae’n anodd iddyn nhw hefyd.
“Mae'n cymryd math arbennig o unigolyn sydd nid yn unig wedi cofrestru i fod yn fydwraig ac sy’n barod i wneud yr holl bethau hyfryd – mae angen rhywun sy’n gallu mynd i’r afael â’r pethau erchyll hynny sydd ar ben arall y sbectrwm.”
Adroddodd Dewi sut roedd bydwraig a oedd wedi eu helpu gydag Owain, yn rhoi genedigaeth ei hun wrth iddyn nhw gael eu hail fab flwyddyn yn ddiweddarach.
Dywedodd: “Daeth nyrs arall i mewn a dywedodd bod y nyrs dan sylw wedi ein hadnabod a’i bod eisiau ein llongyfarch ar enedigaeth ein mab. Ond nid oedd eisiau tarfu pan roedd y teulu gyda ni. Hoffwn pe bai hi wedi dod i mewn.”
Ychwanegodd Jen: “Pan rydych yn mynd i’r gwasanaeth coffa, mae llawer o fydwragedd yn bresennol. Teimlaf ei bod yn bwysig eu bod nhw'n cael eu cydnabod hefyd, nid dim ond ni fel rhieni.”
* Cynhelir Gwasanaeth Coffa Sêr Bach am 5pm ar Dydd Sul, Gorfennaf 6, yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Mae croeso cynnes i’r holl rieni, y teulu a ffrindiau'r rhai hynny sy’n byw â’r galar o golli plentyn.
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)