Mae Uwch Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd sy'n arbenigo mewn gweithio gyda phlant ag anghenion cymhleth wedi’i henwi’n enillydd yng Ngwobrau cenedlaethol mawreddog WellChild 2025.
Dewiswyd Jackie Sumner o blith cannoedd o enwebiadau ledled y DU i ennill y Wobr Gweithiwr Proffesiynol Eithriadol, a siaradodd am ei balchder a'i huchelgeisiau gyda'r Tywysog Harry ar ôl derbyn y wobr.
Mae Jackie wedi bod yn rhan o'r Tîm Plant Cymunedol yn Sir y Fflint ers 19 mlynedd ac mae'n credu bod y wobr yn adlewyrchiad gwirioneddol o'r effaith y mae'r tîm yn ei gael ar fywydau llawer o bobl ifanc a'u teuluoedd.
Cyflwynwyd y wobr mewn seremoni arbennig llawn sêr yn Llundain, lle cyfarfu Jackie â Noddwr WellChild, y Tywysog Harry mewn derbyniad preifat cyn y digwyddiad.
Dywedodd Jackie: "Mae wedi bod yn anrhydedd enfawr derbyn y wobr hon ac yn wych gweld y gwaith y mae'r tîm hwn yn ei wneud yn cael ei gydnabod. Dim ond tîm bach ydym ni ac mae'n fy ngwneud mor falch bod y cymorth rydyn ni'n ei ddarparu wedi'i rannu i eraill ei weld.
"Rwy'n gweithio gyda phlant sydd ag anghenion cymhleth a'u teuluoedd ac mae'n fath fraint i fod yn rhan o'u taith. Mae'n rôl werth chweil iawn ac rwy'n cael gweithio gyda phobl ifanc mor ysbrydoledig.
"Roedd yn anhygoel cwrdd â'r Tywysog Harry, er ei fod yn brofiad eithaf swreal. Roedd yn hyfryd ac yn gadarnhaol iawn ynghylch y gwaith rydyn ni'n ei wneud. Rhannodd hefyd ei uchelgeisiau ei hun i helpu i gynorthwyo pobl ifanc ac roedd yn anhygoel cael achos cyffredin y gallem siarad amdano."
Fel rhan o'i rôl, mae Jackie yn darparu gofal mewn cartrefi, ysgolion ac ar draws y gymuned. Cafodd ei hnwebu am y wobr gan ei chydweithiwr, Amanda D'Arcy, am fynd y tu hwnt bob amser i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo'n ddiogel, wedi’u cefnogi ac yn cael eu cydnabod.
Dywedodd Amanda: "Mae Jackie yn gweithio y tu hwnt i rôl ei swydd ac mae'n haeddu ei chydnabod am ei gwaith caled, ei gofal, ei thosturi a'i hymroddiad. Nid yw Jackie yn un i dynnu sylw ati’i hun; fodd bynnag, rwy'n teimlo y bydd Gwobr Wellchild yn dangos iddi y fath effaith gadarnhaol y mae hi wedi'i chael, ac yn parhau i'w gael, ar y plant a'r bobl ifanc y mae'n eu cynorthwyo, yn ogystal â'u teuluoedd a'r tîm y mae'n gweithio ynddo."
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y gwobrau ar wefan WellChild website.