Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Cyfarwyddwr Gweithredol newydd y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol

Mae Debbie Eyitayo wedi cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr Gweithredol newydd y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol. Bydd hi'n dechrau yn ei rôl newydd ddechrau mis Chwefror.

Mae Debbie yn ymuno â'r Bwrdd Iechyd o Fwrdd Iechyd Integredig Swydd Gaerhirfryn a De Cumbria lle bu'n Brif Swyddog Pobl. Cyn hynny, mae hi wedi ymgymryd â rolau fel Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyfarwyddwr Gweithredol Pobl yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Epsom a St Helier.

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr: “Rwyf wrth fy modd yn rhannu’r newyddion y bydd Debbie yn ymuno â’n tîm Arweinyddiaeth Weithredol fel Cyfarwyddwr Gweithredol newydd y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol. Bydd Debbie yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i gefnogi a datblygu ein gweithlu, gan helpu'r Bwrdd Iechyd i adeiladu sylfaen gref a chynaliadwy ar gyfer darparu gofal cleifion yn y dyfodol.”

Mae Debbie yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes adnoddau dynol a datblygiad sefydliadol, ar ôl dechrau ei gyrfa yn y 90au cynnar fel gwas sifil yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, cyn ymuno â'r GIG yn 2000.

Yn ystod ei gyrfa yn y GIG, mae Debbie wedi ymgymryd â nifer o rolau o fewn y sector acíwt a chymunedol yn ogystal â sefydliadau gofal integredig ac mae'n Gymrawd o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Mae gan Debbie angerdd dros greu amgylchedd gwaith positif a chefnogol lle gall pawb ffynnu, a sicrhau bod y sefydliad yn lle gall pob llais gael ei glywed a'i werthfawrogi, a bod cydweithwyr iechyd a gofal yn cael eu hysgogi i gyrraedd eu llawn botensial er budd y boblogaeth leol y maent yn ei gwasanaethu.