Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Aelod Annibynnol Newydd dros Gyllid

Mae'n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi bod Syr Paul Lambert wedi’i benodi yn Aelod Annibynnol dros Gyllid, gan ddechrau ar 13 Hydref 2025.

 

Ymddeolodd Syr Paul Lambert yn 2022 ar ôl treulio dros naw mlynedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol (Prif Swyddog Gweithredol) St John International, y corff cynnal ar gyfer holl sefydliadau Ambiwlans Sant Ioan mewn dros 40 o wledydd ledled y byd. Mae gan y sefydliad hwnnw fwy na 160,000 o wirfoddolwyr sy’n cynnig gwasanaethau sy’n amrywio o Gymorth Cyntaf i Iechyd Mamau.

 

Cyn hynny, roedd Paul wedi ymddeol ar ôl gyrfa yn y Llynges Frenhinol fel Dirprwy Bennaeth Staff Amddiffyn (Galluogrwydd) ar ôl treulio 38 mlynedd yn y Gwasanaeth.  Roedd yn gyfrifol am y Rhaglen Offer Amddiffyn ac yn atebol i weinidogion am arfogi'r Lluoedd Arfog cyfan.

 

Yn ystod ei gyfnod yn y Llynges, bu Paul yn Rheolydd y Llynges; bu’n gyfrifol am Wasanaeth Llongau Tanfor y DU; fe wnaeth redeg holl Weithrediadau'r Llynges ledled y byd; a bu’n Gomander Llongau Tanfor a Llongau ar Wyneb y Môr.

 

Ers deng mlynedd, mae Paul yn byw yng Ngwynedd ac yn ystod mwyafrif y cyfnod hwnnw, mae wedi bod yn Aelod Annibynnol o Brifysgol Bangor.  Mae'n briod ag Enid, Parafeddyg sydd wedi ymddeol ac sydd ar hyn o bryd yn astudio am Radd Nyrsio.

 

Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym yn falch iawn o groesawu Paul Lambert yn aelod o’r Bwrdd. Bydd ei brofiad helaeth ym meysydd cyllid, llywodraethu ac arweinyddiaeth yn cynnig gwerth mawr i'n sefydliad ac i wasanaethau iechyd a lles ledled gogledd Cymru."