1 Medi 2025
Mae cleifion arennol yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen ar fin elwa o beiriannau arbenigol newydd sy'n mesur cyfansoddiad y corff, diolch i gyfraniadau ariannol caredig gan grŵp Beicwyr Llŷn a Chymdeithas Cleifion yr Arennau.
Cododd Feicwyr Llŷn dros £9,000 i brynu’r offer, a chyfrannodd Cymdeithas Cleifion yr Arennau fwy na £5,000 at y gost.
Bydd y monitorau’n chwarae rhan hanfodol wrth helpu’r timau clinigol i fesur ac asesu lefelau hylif a chyfansoddiad o gorff y claf yn fwy manwl. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol wrth deilwra cynlluniau triniaeth ar gyfer pobl sy’n cael dialysis, gan wella cyfforddusrwydd, diogelwch a chanlyniadau iechyd hirdymor.
Mae Monitorau Cyfansoddiad y Corff yn defnyddio technoleg anfewnwthiol i roi golwg manwl ar statws hydradiad a maethol y claf. Drwy ganfod y newidiadau'n gynnar, gall y tîm arennol weithredu'n gyflym er mwyn atal cymhlethdodau ac addasu’r driniaeth, gan helpu’r claf i deimlo'n well ac aros yn iachach am fwy o amser.
Dywedodd Sarah Hirst-Williams, Nyrs Arweiniol Arennol ar gyfer Unedau Arennol Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen; “Rydym mor ddiolchgar i Feicwyr Llŷn am eu haelioni anhygoel yn ariannu'r ddau Fonitor Cyfansoddiad y Corff. Bydd yr offer yn gwneud byd o wahaniaeth i'r gofal rydym yn ei ddarparu, gan ein galluogi i fonitro iechyd ein cleifion yn fwy manwl ac ymateb i newidiadau'n gyflym. Ni ellir rhoi gormod o bwyslais ar ei effaith o ran cyfforddusrwydd, diogelwch ac ansawdd bywyd ein cleifion. Ar ran y timau arennol yn y ddau ysbyty, a'r bobl rydym yn gofalu amdanyn nhw, diolch i chi am wneud hyn yn bosibl."
Dywedodd Eifion Roberts, o Feicwyr Llŷn: “Mae ein grŵp wedi teimlo’n angerddol erioed am gefnogi achosion lleol, ac ar ôl dysgu pa mor bwysig yw'r offer hwn i gleifion, roeddem yn gwybod ei fod yn rhywbeth yr oeddem yn awyddus i'w ariannu. Roedd cyfarfod â'r staff a chlywed sut y byddai'r monitorau'n cael eu defnyddio wedi dangos i ni faint o wahaniaeth y byddan nhw’n eu gwneud."
Ychwanegodd David Austin o Gymdeithas Cleifion yr Arennau: “Fel elusen leol sy’n cefnogi unedau Arennol Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen, mae cyfraniad ariannol o’r maint hwn yn arwyddocaol ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Mae’r arian hwn wedi ein galluogi i brynu’r offer a bydd, heb os, yn gwella’r gofal a’r driniaeth rhagorol y mae ein cleifion yn eu derbyn.”
Bellach mae’r ddau fonitor yn cael eu defnyddio yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac yn Ysbyty Alltwen yn Nhremadog, yn cefnogi cleifion ar draws Gwynedd ac Ynys Môn sydd angen triniaeth dialysis rheolaidd.