Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys oncoleg 'gwych' yn cael eu canmol am gefnogi merch mewn galar pan fo'i angen fwyaf

10/10/2025

Mae bod yn nyrs oncoleg acíwt yn fwy na dim ond gofalu am gleifion sy'n sâl, ac weithiau fe anghofir am y gefnogaeth y mae’r nyrsys yn ei roi i aelodau'r teulu.

Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Gwasanaethau Oncoleg Acíwt eleni, rydym wedi canolbwyntio ar y gefnogaeth a gafodd un fenyw gan ein tîm ar ôl iddi golli ei mam i ganser. Daw Joanne Alonso o Dreffynnon, a bu farw ei mam, Iris Thomas, ym mis Gorffennaf 2022, yn Ysbyty Cymuned Treffynnon.

Wrth ddisgrifio ei mam, dywedodd Joanne: “O, roedd fy mam yn anhygoel. Roedd hi'n gymdeithasgar, yn gyfeillgar. Roedd hi'n rhan o'r Clwb Bowlio. Roedd hi'n rhan o glwb Bridge yn Nhreffynnon. Roedd hi'n gwneud popeth mewn gwirionedd. Roedd hi'n berson positif iawn, yn allblyg iawn, ac roedd ganddi synnwyr digrifwch anhygoel.”

Er ei bod hi wastad wedi bod yn heini ac yn egnïol, dechreuodd Iris golli pwysau yn 2021. Ar y dechrau, roedd hi'n ymddangos ei bod yn hapus ei bod yn colli pwysau, ond yna dechreuodd Joanne bryderu oherwydd bod nad oedd ei mam yn bwyta cymaint ag arfer.

Darllenwch fwy: Canser - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

“Roedd Mam yn dweud ‘edrychwch arna i rŵan, dyma faint roeddwn i'n ei bwyso pan oeddwn i'n 18',” meddai Joanne. "Ac roedden ni'n dweud 'ond dydych chi ddim yn bwyta', Roedd hi'n dal i drio mynd i chwarae Bridge. Roedd hi'n cael trafferth gyda phopeth, ond roedd hi'n llwyddo rhywsut."

Gan ymladd y dagrau, disgrifiodd Joanne sut y gwaethygodd cyflwr Iris. Tua thri mis cyn iddi farw, roedd Joanne yn Ysbyty Glan Clwyd gyda'i mam.

Dywedodd: “Roedd Mam i fod i fynd am sgan ond roedd hi’n sâl ac ni allai fynd. Roedd ganddi haint. Doedden ni ddim yn gwybod beth oedd o'i le a phwrpas y sgan oedd darganfod hynny. Felly, roedd rhaid trefnu sgan arall. Roedd hwnnw'n ddiwrnod ofnadwy. Roedden ni wedi mynd i mewn i weld a oedd unrhyw driniaeth ar gael.

“Daeth y meddyg draw i siarad â ni ac roedd ei neges yn ddamniol. Roedd y canser ym mhobman. Roedden nhw fwy neu lai yn dweud 'dyna ni'. Roeddwn i wedi amau oherwydd fy mod i'n adnabod fy mam mor dda. Roedd Mam yn gwybod yn gynharach fyth mewn gwirionedd.

“Doedd hi ddim yn berson a oedd yn hoffi llawer o ffwdan, ond pan aeth hi’n sâl, roedd hi’n cofleidio pawb. Ac roeddwn i'n pendroni pam? Ond mewn gwirionedd, gwrthod derbyn pethau oeddwn i.”

Ar ôl iddynt glywed y diagnosis ysgytiol, cyflwynodd Nia Blackborow, uwch-ymarferydd nyrsio'r gwasanaeth canser a Michael Schofiel, uwch-ymarferydd nyrsio oncoleg acíwt, eu hunain i Joanne.

Darllenwch fwy: 'Fe wnaeth y cemotherapi fy helpu i ailafael yn fy mywyd – cefais y gofal gorau posibl' - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Roedden nhw'n realistig ynglŷn â phrognosis Iris, ond mae Joanne yn dweud eu bod nhw'n ofalgar ac wedi rhoi'r gefnogaeth emosiynol yr oedd ei hangen arni, ymhell y tu hwnt i'r hyn yr oedd hi'n ei ddisgwyl.

Dywedodd: “Tra oedd Mam yn dal yn fyw roeddwn i eisiau gweld a oedd rhywbeth y gallen nhw ei roi iddi i atal y canser rhag lledaenu. Ond roedd hi'n rhy hwyr. Rhoddodd Nia rif ffôn i mi er mwyn i mi allu cysylltu â nhw os oedd gen i unrhyw gwestiynau.

“Roedd hi'n amlwg, eu bod yno i roi cefnogaeth emosiynol hefyd ac yna, pan oedd [mam] yn gyfforddus, roedd rhywun yno i allu cyfeirio atynt.”

Dywedodd Joanne fod y gefnogaeth a'r gallu i rannu synnwyr digrifwch yn hanfodol. Wrth i gyflwr Iris ddirywio dros yr ychydig fisoedd canlynol, trefnodd Nia a Michael iddi gael ei throsglwyddo i Ysbyty Cymuned Treffynnon, er mwyn bod yn agosach at ei theulu.

Dywedodd Joanne: “Fe wnaethon nhw drefnu hynny i ni fel nad oedd yn rhaid i ni ei wneud. Dydych chi ddim eisiau delio â'r pethau hynny. Roedden nhw'n hyfryd gyda mam a byth yn nawddoglyd. Fe wnaethon nhw egluro popeth i mi. Roedd yn wirioneddol anodd iddyn nhw hefyd.

“Fe wnaethon nhw ein helpu ni gyda’r gweithiwr cymdeithasol hefyd oherwydd roedden ni’n ystyried a fyddai mam yn mynd i gartref.”

Darllenwch fwy: Enillwyr: Gwobrau Cyrhaeddiad GIG Gogledd Cymru 2025 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bu farw Iris ar 27 Gorffennaf, 2022, gan adael Joanne mewn galar mawr. Eto i gyd, ni ddaeth y gefnogaeth gan Nia a Michael i ben. A dweud y gwir, bu mwy o gefnogaeth a hynny mewn ffyrdd nad oedd Joanne wedi eu disgwyl.

“Dywedais wrth Nia fy mod i’n cael trafferth,” eglurodd Joanne. “A does gen i unman i fynd gyda hyn. Does dim cymorth. Doedd dim help o gwbl i mi. Roedd pethau'n ofnadwy ac roedd rhaid delio â'r angladd a phopeth fel yna.

“Fe wnaethon nhw ddweud, ‘Fe gewch chi ddod i’n gweld ni os ydych chi eisiau. Gallwch ddod yma i siarad ac fe wnawn ni drio helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn ni’. Fe wnaethon nhw fy ngweld am wythnosau. Dywedodd yr elusen galar yr es i ati na fydden nhw’n gallu fy ngweld nes bod chwe mis wedi mynd heibio.

“Roedden nhw yno i ateb cwestiynau am yr ochr glinigol, yr ochr feddygol ac i’m helpu’n seicolegol. Fe helpodd hynny fi i wneud synnwyr o bethau. Fe wnaethon nhw roi'r adnoddau i mi i ymdopi â fy ngalar. Roedden nhw'n dal i fy ngweld. Fe wnaethon nhw dynnu fy sylw i ryw ychydig gyda hiwmor a siarad am fy mam oherwydd eu bod nhw'n ei hadnabod hi. Roedd hynny'n beth enfawr i mi allu siarad amdani.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl y lefel honno o gefnogaeth o gwbl. Ond roedd yn amhrisiadwy, mewn gwirionedd, oherwydd roeddwn i mor flin.”

Mae Joanne yn dweud eu bod nhw wedi rhoi rhywfaint o bositifrwydd iddi a'i helpu i ennill y sgiliau i lywio ei thristwch. Fe wnaethon nhw hefyd roi manylion am sefydliadau a allai ei helpu. Erbyn hyn mae bywyd yn gwella.

Darllenwch fwy: Ffrindiau a gyfarfu mewn adfyd yn rhoi neges o obaith i rieni sy'n galaru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

“Fe wnaethon nhw lenwi’r bwlch pan oedd ei angen arna i. Dw i'n dal i gael trafferth. Dydy'r cwmwl tywyll ddim yno bellach, ond dw i'n dal i deimlo'n emosiynol. Dw i'n berson emosiynol. Dw i eisiau dweud diolch wrth Nia a Michael Roedden nhw'n wych, yn wirioneddol wych.”

Dywedodd Nia Blackborow, uwch-ymarferydd nyrsio'r gwasanaeth canser: “Roedd Joanne a’i mam dan ofal tîm canser sylfaenol anhysbys yn ystod yr amser anodd iawn hwn. Roedd yn amlwg eu bod nhw'n anhygoel o agos.

“Wrth i’r sefyllfa newid, roedd Joanne yn amlwg yn ofidus iawn. Fe wnaethon ni gynnig cefnogaeth ychwanegol iddi ar ffurf clust i wrando, yn wythnosol, i bontio'r bwlch rhwng marwolaeth ei mam a'r cwnsela profedigaeth swyddogol. Rydyn ni mor falch ein bod ni wedi gallu ei helpu hi.”

*Mae'r gwasanaeth canser sylfaenol anhysbys (CUP) yn cael ei arwain gan nyrsys yng Ngogledd Cymru, sy'n unigryw i unrhyw ardal arall, gan ganiatáu'r hyblygrwydd i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i gleifion a theuluoedd yn ystod cyfnodau anodd. Dyma hefyd fydd y gwasanaeth CUP cyntaf i gael uwch ymarferydd nyrsio yn arweinydd clinigol i yrru'r gwasanaeth ymlaen a rhoi gofal gwirioneddol gyfannol.

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr