Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Gynaecoleg yn codi arian i sicrhau lle gwell i gynnig cymorth i ferched

18 Medi 2025

Bydd nyrsys o'n Tîm Nyrsio Gynae-oncoleg yn Ysbyty Gwynedd yn gwisgo eu hesgidiau rhedeg i roi cynnig ar Hanner Marathon Bangor ym mis Hydref 2025, i godi arian ar gyfer trawsnewid ystafell yn eu hadran.

Nid yw’r tîm – Christine, Caryl a Lia – yn rhedeg ond maent yn cefnogi’n frwd ac yn rhan fawr o’r ymdrechion codi arian. – yn gobeithio codi £1,500 i gyfrannu at y gost o greu lle hamddenol a chroesawgar yn Adran Cleifion Allanol y Gwasanaethau Gynaecoleg, ble gall merched a'u teuluoedd gael gwybodaeth sensitif a chymorth ar ôl diagnosis o ganser.

Mae'r tîm yn gobeithio y bydd yr arian a godir yn caniatáu iddynt droi'r ystafell yn lle cynnes, cyfforddus a lleddfol, gan helpu merched i deimlo’u bod yn cael mwy o gymorth ac yn dawelach eu meddwl yn ystod un o gyfnodau mwyaf heriol eu bywydau.

Dywedodd Caryl Butterworth, Nyrs Arbenigol ym maes Gynae-oncoleg: "Mae cael gwybod bod gennych ganser yn brofiad sy’n newid eich bywyd, ac mae'r amgylchedd ble byddwch chi’n clywed y newyddion hynny yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Rydyn ni eisiau creu gofod sy'n teimlo'n breifat, yn lleddfol ac yn gefnogol, rhywle ble gall merched siarad yn agored a theimlo bod eu lles yn wirioneddol bwysig."

Ychwanegodd Christine Plant, Nyrs Arbenigol ym maes Gyna-oncoleg: "Rydyn ni’n gweld bod dydd bod y daith hon yn hynod o lethol i ferched a’u teuluoedd. Trwy wella'r lle hwn, gallwn sicrhau bod profiad anodd rhyw fymryn yn haws a chynnig y tosturi a'r urddas y mae ein cleifion yn eu haeddu."

Mae'r tîm yn galw ar y cyhoedd i gefnogi eu hymdrechion a helpu i wella'r amgylchedd gofal i ferched sy'n cael diagnosis yn cadarnhau canser gynaecolegol .

Gellir cyfrannu arian trwy dudalen JustGiving y tîm. Bydd yr holl arian a godir yn cael ei gyfrannu’n uniongyrchol at y prosiect.