Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys arbenigol newydd wedi'u penodi i wella profiadau a chanlyniadau ar gyfer gofal diwedd oes a gofal profedigaeth

28.08.2025

Mae dwy Nyrs Arbenigol Profedigaeth SWAN wedi’u penodi i helpu i wella profiadau ar gyfer cleifion sy’n derbyn gofal diwedd oes a phrofedigaeth, yn ogystal â’u hanwyliaid, yng Ngogledd Cymru.

Mae Kathi Ellis a Gemma Sweetman wedi camu i’w rolau newydd i weithredu Model SWAN ar gyfer Gofal Diwedd Oes a Phrofedigaeth, sy’n arwain gofal cleifion a’u hanwyliaid yn ystod diwedd oes ac ar ôl iddynt farw. Nod y model yw grymuso staff i fynd yr ail filltir er mwyn bodloni anghenion personol cleifion a theuluoedd yn ystod y cyfnodau anodd hyn.

Mae Kathi yn dod â chyfoeth o brofiad o’i hamser fel Uwch Ymarferydd Nyrsio yn y tîm brysbennu oncoleg yn Ysbyty Glan Clwyd, ac mae’n awyddus i groesawu ei chyfrifoldebau newydd.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd o gael ymgymryd â’r rôl newydd hon a hyrwyddo’r model SWAN. Mae’n gyfle i lunio dull gofal mwy tosturiol sy’n canolbwyntio ar y claf a’r teulu.

“Mae fy mhrofiad yn gweithio ar draws hosbisau amrywiol wedi rhoi mewnwelediad dwfn i mi o anghenion teuluoedd yn ystod gofal diwedd oes. Rwyf wedi ymrwymo i helpu i bontio bylchau o fewn gwasanaethau i wella’r profiad cyffredinol i'r rhai sy'n derbyn gofal.”

Mae Gemma, a fu’n Brif Nyrs Ward yn Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt, yr un mor frwdfrydig am y llwybr o'i blaen. Ei nod yw dod â dull cyson i wasanaethau gofal diwedd oes a phrofedigaeth ar draws y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd: “Byddwn yn gweithio’n agos gyda staff ar draws gwahanol adrannau ac arbenigeddau i ymgorffori egwyddorion model SWAN. Byddwn yn edrych ar addysgu a hyfforddi ein staff i wella’r profiad i gleifion a’u teuluoedd yn ystod y cyfnodau sensitif hyn.

“Rydym yn ymwybodol bod llawer o adrannau a wardiau eisoes yn gwneud pethau gwych ac yn mynd y filltir ychwanegol, gan gynnwys darparu blychau atgofion neu gymorth lliniarol ychwanegol, ond rydym eisiau i bob claf a’u teuluoedd dderbyn gofal o’r ansawdd uchaf, beth bynnag fo’r ward neu’r adran.

“Ein nod yw arfogi ein staff clinigol ac anghlinigol gyda’r wybodaeth, yr offer a’r adnoddau cywir fel y gallant gefnogi cleifion a’u teuluoedd yn hyderus pan fo’r angen mwyaf amdano.”

Mae’r model SWAN yn tynnu sylw at y “pethau bychain” sy’n creu cysur parhaol. Fel rhan o'u gwaith, mae'r nyrsys yn bwriadu cyflwyno dangosyddion gweledol megis symbol SWAN wrth ochr gwelyâu cleifion, gan helpu staff i adnabod ac ymateb gyda sensitifrwydd cynyddol.

Mae mentrau eraill yn cynnwys rhoi pecynnau cysur i deuluoedd sy’n aros gydag anwyliaid a blychau atgofion a allai gynnwys llythyrau neu eitemau personol i gadw atgofion gwerthfawr, gan gynnwys gwybodaeth am gymorth mewn galar.

Yn y lle cyntaf, mae’r nyrsys yn cael eu hariannu gan Gymorth Canser Macmillan i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Fframwaith Profedigaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a Llwybrau Profedigaeth. Gyda gofal diwedd oes yn cael ei gydnabod fel blaenoriaeth weinidogol, mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i ymgorffori’r model hwn i sicrhau gofal cyson a thosturiol ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: "Rydym yn hynod falch o fod wedi recriwtio’r rolau hyn i’r sefydliad. Mae’r Model SWAN yn arfer da mewn gofal profedigaeth Diwedd Oes, ac rwy’n edrych ymlaen at y gofal a fydd yn cael ei ddarparu gan y nyrsys hyn i wella profiadau cleifion, staff a pherthnasau. Bydd addysgu a hyfforddi yn arfogi staff i ddarparu’r gofal mwyaf priodol yn ystod y cyfnodau mwyaf anodd."