Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs arbenigol Carly yn ôl adref yng Ngogledd Cymru ar gyfer Diwrnod Clefyd Parkinson y Byd

11.04.2025

Mae nyrs wedi troi cefn ar fywyd yn y ddinas fawr i symud ymlaen gyda’i gyrfa yng Ngogledd Cymru, trwy fynd i'r afael â rôl nyrsio arbenigol gyffrous.

Daw Carly Griffiths o Sir y Fflint ond mae hi wedi treulio'r 13 mlynedd diwethaf yn gweithio ar uned niwroleg acíwt yn Salford. Roedd hynny tan yn ddiweddar, ond ddaeth yn nyrs arbenigol gyntaf Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer cleifion mewnol sydd â Chlefyd Parkinson.

Achubodd ar y cyfle i ddod adref ac i helpu cleifion mewnol sydd â'r salwch. Mae Carly wedi cael gwaith parhaol, ac mae ei dwy flynedd gyntaf wedi cael ei hariannu gan elusen Parkinson's UK, ac mae hi wrth ei bodd o fod yn ei swydd ar gyfer Diwrnod Clefyd Parkinson y Byd.

Dywedodd Carly: "Roedd gennym ni gleifion â chlefyd Parkinson ar ein ward yn Salford. Felly, pan welais i'r swydd hon, roedd gen i ddiddordeb mawr mewn dychwelyd a helpu i atal rhag aildderbyn cleifion i'r ysbyty yma.

"Mae Diwrnod Clefyd Parkinson y Byd yn hynod bwysig o ran codi ymwybyddiaeth o'r clefyd, sy'n rhan o'r hyn rwy'n anelu i'w wneud yn fy rôl arbenigol newydd."

Darllenwch fwy: Peiriant meddyginiaeth robotig yn cael ei dreialu yn Nolgellau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ymysg ei thasgau yn y swydd arbenigol hon, bydd yn darparu adolygiadau ar gyfer cleifion mewnol sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty gyda chlefyd Parkinson, gan sicrhau bod meddyginiaethau'n cael eu presgripsiynu'n briodol ac ar amser. Bydd hyn yn helpu i osgoi problemau gyda meddyginiaeth ar gyfer cleifion - a thrwy arwain gofal a chlinigau adolygu, bydd Carly hefyd yn rhyddhau amser meddygon ymgynghorol.

Gall adolygiadau meddyginiaeth rheolaidd helpu i ganfod sgil-effeithiau cylchredol a niwrolegol rhai cyffuriau a lleihau problemau ychwanegol i gleifion sydd â chlefyd Parkinson.

Mae Carly yn gobeithio y bydd hi hefyd yn gallu lleihau nifer y derbyniadau brys ar gyfer pobl sydd â chlefyd Parkinson trwy gynllunio gofal ymlaen llaw. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle iddi feithrin perthnasau yn y tymor hwy gyda chleifion a'u gofalwyr, gan roi dilyniant a dod yn bwynt cyswllt iddynt mewn achosion brys.

Bydd rhan o'i rôl yn cynnwys addysgu a hyfforddi staff iechyd a gofal cymdeithasol ynghylch anghenion pobl sydd â chlefyd Parkinson, yn yr ysbytai cymunedol ac acíwt. Mae hynny'n cynnwys cynorthwyo nyrsys clefyd Parkinson eraill yn y gymuned er mwyn helpu i atal derbyniadau i Ysbyty Glan Clwyd a gwella canlyniadau clinigol cleifion yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

Ychwanegodd: "Mae'n gyfle hynod gyffrous a'r cyfan rydw i am ei wneud yw helpu i gael y canlyniadau gorau i bobl sydd â chlefyd Parkinson. Yna, gallan nhw dreulio mwy o amser gartref, a dyna ble maen nhw am fod."

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)