14 Tachwedd 2025
Mae meddyg yn rhybuddio pobl ifanc a rhieni ynghylch risgiau a allai fod yn angheuol sy’n gysylltiedig â’r hyn a elwir yn "Tap Out Challenge" sy'n cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol, ar ôl i fachgen 16 oed gael ei dderbyn i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol i'w ben.
Cafodd y bachgen, a dreuliodd bum niwrnod ar Ward y Plant, ei dderbyn i'r Adran Achosion Brys ar ôl cymryd rhan yn yr her, sy'n cynnwys unigolion yn cyfyngu ar eu hanadlu'n fwriadol hyd nes iddynt ‘ildio’ neu golli ymwybyddiaeth.
Mae Dr Pete Williams, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys yn Ysbyty Gwynedd, a fu'n gyfrifol am driniaeth yr unigolyn ifanc pan gyrhaeddodd yr ysbyty, wedi rhoi rhybudd llym am y canlyniadau torcalonnus sy'n gallu bod ynghlwm wrth yr her.
"Mae'r her hon yn hynod beryglus a gall arwain at ganlyniadau sy'n newid bywyd neu hyd yn oed ganlyniadau angheuol," meddai Dr Williams.
"Gall diffyg ocsigen i'r ymennydd sydd wedi'i achosi gan fygu arwain at drawiadau, anaf i'r ymennydd, neu farwolaeth - hyd yn oed ar ôl ychydig o eiliadau'n unig. Yn yr achos hwn, roedd yr unigolyn ifanc wedi torri ei benglog a chafodd anafiadau difrifol a allai fod wedi bod yn drychinebus.
"Rydyn ni am annog pobl ifanc i feddwl ddwywaith cyn rhoi cynnig ar heriau o'r fath neu ffilmio'r heriau hyn, ac i gofio y gallai'r hyn sy'n ymddangos fel hwyl ddiniwed arwain at ganlyniadau torcalonnus iddyn nhw a'u teuluoedd."
Gwnaeth mam yr unigolyn ifanc, sy'n dymuno aros yn ddienw, ddisgrifio'r profiad fel y "foment waethaf" yn ei bywyd.
Dywedodd: "Roedd gwylio fy mab yn cael ei ruthro i'r Adran Achosion Brys yn hollol ddychrynllyd.
"Roedd ei anafiadau'n arwyddocaol ac yn ystod ei gyfnod yn Ysbyty Gwynedd, bu hefyd o dan ofal Ysbyty Stoke i fonitro ei gynnydd sy'n dangos pa mor ddifrifol oedd ei anafiadau.
"Dydw i ddim am i riant arall fynd trwy'r un profiad â ni. Efallai ei fod yn ymddangos fel ychydig bach o hwyl, ond mae iddo ganlyniadau difrifol - fel yr ydyn ni wedi'u profi, yn anffodus. Rydyn ni mor ddiolchgar ei fod o'n dal i fod gyda ni a'i fod bellach yn gwella gartref."
Diolchodd hefyd i'r timau yn Ysbyty Gwynedd a fu'n gofalu am ei mab yn ystod ei arhosiad: "Alla' i ddim diolch i'r staff ddigon yn yr Adran Achosion Brys am ba mor gyflym y gwnaethon nhw weithredu pan gyrhaeddodd, a hefyd i'r tîm gwych ar Ward y Plant a fu'n gofalu amdano yn ystod ei adferiad."
Ailadroddodd Dr Williams alwad y fam am ymwybyddiaeth, gan annog rhieni i siarad yn agored â'u plant am y peryglon sy'n gysylltiedig â heriau ar-lein.
"Rydyn ni'n gweld bod mwyfwy o bobl ifanc o dan ddylanwad yr heriau peryglus hyn ar y cyfryngau cymdeithasol ledled y DU, ac mae'n hollbwysig bod teuluoedd yn cael sgyrsiau am yr hyn maen nhw'n ei weld ar-lein," ychwanegodd.