Awst 7, 2025
Mae tair ardal arall yng Ngogledd Cymru wedi cael eu cydnabod am y croeso a’r anogaeth y maent yn eu rhoi i famau sy’n bwydo ar y fron
Mae’r Rhyl, Treffynnon a Llangefni wedi cael eu henwi’n Gymunedau Croesawu Bwydo ar y Fron oherwydd y gefnogaeth eang sydd ar gael i famau, babanod a'u teuluoedd.
Mae gan y tri lleoliad rwydweithiau cymorth cymheiriaid a chydfuddiannol effeithiol, grwpiau cymunedol ymroddedig dan arweiniad ymwelwyr iechyd sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, a chefnogaeth gref i fwydo ar y fron yn y gymuned fusnes leol. Mae mwy na hanner y busnesau annibynnol ym mhob ardal wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron y Bwrdd Iechyd, sy'n annog lleoliadau a'u staff i greu awyrgylch cadarnhaol ar gyfer bwydo ar y fron.
Maent yn ymuno ag Abergele, Llanberis a Pharc Caia yn Wrecsam, a gafodd y statws gan y bwrdd iechyd yn Haf 2023.
Mae bwydo ar y fron yn cynnig llawer o fanteision iechyd a lles hirdymor ar gyfer mamau a’u babanod. Mae’n amddiffyn yn erbyn heintiau cyffredin, ac mae’n helpu i leihau’r risg o rai afiechydon difrifol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Betsi Cadwaladr, Dr Jane Moore: “Mae mor galonogol gweld cefnogaeth mor gref i fwydo ar y fron yn y gymuned ledled Gogledd Cymru, ac yn enwedig yn ein Cymunedau Croesawu Bwydo ar y Fron newydd yn Y Rhyl, Treffynnon a Llangefni.
“Mae ein hymwelwyr iechyd, ein harbenigwyr bwydo babanod a’n cefnogwyr cymheiriaid yn cynnig llawer o gymorth i deuluoedd ym mhob rhan o Ogledd Cymru, ac mae’n wirioneddol galonogol ac yn bwysig gweld y fenter hon yn cael cymaint o gefnogaeth gyson gan y gymuned fusnes hefyd.
“Mae lleoliadau sy’n rhan o’r cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yn cefnogi iechyd a lles ein cenhedlaeth nesaf o bobl ifanc yn uniongyrchol ac yn rhannu ein hymrwymiad i’w gwneud hi mor hawdd a chyfforddus â phosibl i famau a babanod fwydo tra byddant allan.”
Yr wythnos hon, rydym yn nodi Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd Sefydliad Iechyd y Byd, a gynhelir o 1 Awst i 7 Awst ac sy’n hyrwyddo manteision bwydo ar y fron.
Gall teuluoedd wirio map ar-lein hawdd ei ddefnyddio i ddod o hyd i fusnesau cyfagos sy'n aelodau o'r cynllun, neu gallant chwilio am y bathodyn Croesawu Bwydo ar y Fron yn y ffenestr.
Mae’r hawl i fwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus wedi’i amddiffyn gan y gyfraith o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae ein Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron wedi’i ddylunio i gefnogi a rhoi sicrwydd i deuluoedd a helpu mamau a babanod i barhau i fwydo ar y fron tra byddant allan.
Mae pob lleoliad sy’n arddangos y logo wedi cofrestru ar gyfer ein polisi Croesawu Bwydo ar y Fron, sy’n annog busnesau a sefydliadau i helpu mamau sy’n bwydo ar y fron i deimlo’n gyfforddus, a hyfforddi staff i gynyddu eu hymwybyddiaeth o fwydo ar y fron a’i fanteision. Bellach, mae mwy na 450 o fusnesau ar draws Gogledd Cymru yn aelodau o’r cynllun.
Mae’r rhaglen, a ddatblygwyd gyntaf yma yng Ngogledd Cymru, bellach yn cael ei harchwilio a’i mabwysiadu yn ardaloedd eraill Cymru, ac mae eisoes wedi cael ei lansio gan ein cydweithwyr ym Mhowys.
🔵 Mae rhagor o wybodaeth am gymorth bwydo ar y fron yn eich ardal chi ar gael gan eich ymwelydd iechyd neu ein grwpiau Facebook Cyfeillion Bwydo ar y Fron.
Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio.