Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen newydd i gynnig mwy o gefnogaeth i rieni i ymdopi â babi sy'n crio

14 Tachwedd, 2025

Bydd mwy o gymorth ar gael i rieni ymdopi â chrio eu babi yn dilyn lansio cynllun newydd yng Ngogledd Cymru.

Mae rhaglen ICON yn helpu mamau, tadau a gofalwyr eraill i ddeall patrymau crio arferol babanod sydd newydd gael eu geni, ac yn annog teuluoedd i ddefnyddio dulliau syml i'w cysuro.

Mae hefyd yn ei gwneud hi'n glir ei bod hi'n iawn gadael babi yn rhywle diogel a cherdded i ffwrdd am ychydig funudau os yw crio eu babi’n mynd yn ormod iddyn nhw, ac yn annog rhieni a gofalwyr i beidio byth ag ysgwyd babi – dim ots pa mor rhwystredig neu dan straen y maen nhw'n ei deimlo. 

Datblygwyd ICON i helpu atal trawma i'r pen o ganlyniad i gamdriniaeth, rhywbeth a all achosi cyflyrau niwrolegol gydol oes. Dyma'r achos mwyaf cyffredin o farwolaethau ymysg plant sy'n cael eu cam-drin yn y DU.

Y bwrdd iechyd yw'r cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu’r rhaglen ICON. Mae wedi gweithio gydag arweinwyr y rhaglen i wneud yn siŵr bod deunyddiau cymorth yn y Gymraeg ar gael i rieni a gofalwyr am y tro cyntaf. 

Mae aelodau o'n timau bydwreigiaeth, newyddenedigol, ymwelwyr iechyd ac iechyd meddwl amenedigol wedi cael eu hyfforddi i gyflwyno ymyrraeth ICON mewn pum pwynt cyswllt allweddol yn ystod ychydig wythnosau cyntaf bywyd babi. Rhannwyd y wybodaeth gyda'n cydweithwyr mewn meddygfeydd teulu a gyda thimau eraill y bwrdd iechyd hefyd. 

Mae dolenni at ddeunyddiau ICON – sy’n cynnwys y slogan cadarnhaol ‘Mae babanod yn crio: fe allwch chi ymdopi’ – ar gael o’n hwb Dechrau Gorau sy’n cynnwys gwybodaeth ac adnoddau ar-lein i rieni a theuluoedd. Byddant hefyd yn cael eu cynnwys yn y Cofnod Iechyd Plant neu’r ‘llyfr coch’ a roddir i bob rhiant ar ôl i fabi gael ei eni.
 

Cymorth i deuluoedd

Ariannwyd y rhaglen gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru, a bydd yn cael ei chyflwyno i sefydliadau eraill yn y rhanbarth dros y misoedd nesaf. 

Dywedodd Michelle Denwood, Cyfarwyddwr Diogelu ac Amddiffyn y Cyhoedd y bwrdd iechyd, fod gan y rhaglen y potensial i gyflawni newid gwirioneddol.

“Mae ICON yn rhannu’r neges bwerus bod babanod yn crio, bod hyn yn normal – ac y gallwn ni i gyd helpu mamau, tadau a gofalwyr eraill yn y cartref i ymdopi â chrio,” meddai. 

“Mae’n dangos bod gan y bwrdd iechyd ymrwymiad i helpu i atal trawma i’r pen yn sgil cam-drin babanod, ac i gefnogi teuluoedd yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf bregus yn eu bywyd.”

Fel arfer, mae babanod yn dechrau crio mwy pan fyddant tua phythefnos oed, gan gyrraedd uchafbwynt o grio hyd at bump neu chwe awr y dydd pan fyddant tua chwech i wyth wythnos oed.

Mae pob babi yn wahanol, ond fel arfer byddant yn dechrau crio llai ar ôl tua dau i dri mis ac yn dechrau crio am reswm clir o tua phum mis ymlaen.

Dywedodd sylfaenydd ICON, Dr Sue Smith, ei bod wrth ei bodd yn ymuno â'r digwyddiad ac yn gweld y rhaglen yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru. 

Dywedodd: “Hoffwn ganmol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid ym Mwrdd Diogelu Gogledd Cymru am fod yr ardal gyntaf yng Nghymru i gyflwyno ICON – ac am wneud hynny mewn partneriaeth ag eraill trwy ddulliau amlasiantaeth.

“Mae’n dangos angerdd a phenderfyniad clir i amddiffyn babanod a chefnogi rhieni a gofalwyr. Edrychwn ymlaen at weld y rhaglen yn datblygu yma yng Ngogledd Cymru.”

Lansiwyd y rhaglen yng nghynhadledd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i nodi Wythnos Genedlaethol Diogelu.

 

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio neu dilynwch ni ar Whatsapp.