Neidio i'r prif gynnwy

Llongyfarchiadau: Enillwyr Gwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Brenhinol Nyrsio (RCN) Cymru 2025

28.11.2025

Unwaith eto, roedd digon i'r Bwrdd Iechyd lawenhau yn ei gylch yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn RNC Cymru eleni yng Nghaerdydd.

Enillodd pedwar o’n cydweithwyr wobrau am eu gwaith yn gofalu am gleifion yng Ngogledd Cymru.

Llongyfarchiadau i bawb a gynrychiolodd y Bwrdd Iechyd drwy ymgeisio ar gyfer y gwobrau mawreddog hyn.

Dywedodd Angela Wood, ein Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Mae Gwobrau RNC eleni wedi dangos cryfder nyrsio ar draws Gogledd Cymru unwaith eto. Llongyfarchiadau i bob enillydd ac enwebai – mae eich gwaith yn adlewyrchu’r gwerthoedd a’r safonau yr ydym yn anelu atynt bob dydd.

“Mae myfyrwyr nyrsio yn chwarae rhan allweddol yn ein gwasanaethau a gweithlu ein dyfodol. Diolch am eich uchelgais, eich proffesiynoldeb a’ch ymrwymiad i gleifion. Rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â chi, ac rydym yn llongyfarch pawb a enillodd wobrau ar draws ein bwrdd iechyd eleni.”

Isod mae crynodeb o waith y rhai a gafodd eu cydnabod yn noson ddathlu eleni.

Cindy Courtney: Enillydd Gwobr Gwella Iechyd Unigolion a'r Boblogaeth

Mae Cindy yn HoN ar gyfer gwasanaethau iechyd plant a phobl ifanc rhanbarthol ac arbenigol. Dywedodd y beirniaid ei bod wedi “dangos rhinweddau arweinyddiaeth eithriadol” drwy’r gwaith a wnaeth i ailgynllunio gwasanaethau argyfwng CAMHS er mwyn gwella canlyniadau a phrofiadau i blant a phobl ifanc.

Defnyddiodd hi a’i thîm leisiau’r plant a’r bobl ifanc y maent yn eu gwasanaethu i helpu i ddylunio Gwasanaeth Dewis Arall yn lle Derbyn (A2A) mwy diogel ac effeithiol.

Ei gweledigaeth ar gyfer A2A oedd mynd i’r afael â heriau a phrofiadau plant a phobl ifanc a rhieni/gofalwyr pan fydd angen cymorth brys arnynt yn ystod argyfyngau iechyd meddwl. Er enghraifft, trwy osgoi amgylcheddau megis adrannau achosion brys, a all gynyddu lefelau gofid ymhellach.

Yn dilyn cynnig llwyddiannus i Lywodraeth Cymru, dyfarnwyd arian i Cindy i ddatblygu a chyflwyno’r hwb argyfwng cymunedol arfaethedig, fel y gallai plant a phobl ifanc gael mynediad at ymyriadau mewn gofod mwy prydlon, diogel a chyfforddus.

Roedd amodau'r cyllid yn golygu bod yn rhaid iddo fod yn weithredol o fewn y flwyddyn ariannol. Aeth Cindy y filltir ychwanegol i ddatblygu’r prosiect, tra’n sicrhau bod ansawdd a safonau’n cael eu cynnal.

Aeth yr hwb A2A yn fwy ar ddiwedd mis Rhagfyr 2024, ac mae dadansoddiad data ac adborth wedi dangos bod y llwybrau gofal newydd yn cyflawni eu nodau. Maent yn lleihau derbyniadau diangen a gorchmynion adran 136 yn sylweddol.

Llongyfarchiadau i Cindy, sydd wedi arwain ei thîm at drawsnewidiad rhyfeddol yn y ffordd y mae plant a phobl ifanc mewn argyfwng yn cael eu trin.

Dr Sheila Shepley: Nyrs Gofrestredig – Gwobr Plant

Mae Sheila, ymgynghorydd nyrsio mewn epilepsi, wedi ymroi'r rhan fwyaf o'i gyrfa 25 mlynedd i wasanaethau epilepsi ledled Gogledd Cymru.

Nodwyd ei hangerdd a'i hymroddiad i ddarparu gofal nyrsio o ansawdd uchel, yn enwedig i bobl ifanc sy'n trosglwyddo i wasanaethau oedolion a mamau beichiog â'r cyflwr, gan y beirniaid ac mae ei chydweithwyr yn tystio i hynny.

Ymhlith llawer o’i chyflawniadau, mae wedi gweithio gyda niwrolegwyr i sefydlu clinigau arbennig ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau sy'n symud o wasanaethau pediatrig. Mae wedi datblygu rôl y nyrs arbenigol epilepsi, mae wedi cyflwyno siart llif 'first-fit' i'w ddefnyddio mewn adrannau brys, ac mae wedi cynnal clinig epilepsi a beichiogrwydd ar y cyd yn Ysbyty Glan Clwyd i ferched beichiog gael dull cyson o ofal epilepsi drwy gydol beichiogrwydd ac ar ôl enedigaeth.

Mae angerdd Sheila dros godi ymwybyddiaeth i’w weld drwy ei gwaith cyhoeddedig, gan gynnwys dau lyfr, cyhoeddiadau, podlediad ac amryw o gyflwyniadau mewn cynadleddau.

Gan ganolbwyntio ar deuluoedd bob amser, roedd ei hymchwil PhD yn seiliedig ar gyfweld â rhieni a phlant trwy gydol eu cyfnod trawsnewid i wasanaethau oedolion.

Mae Sheila wedi datblygu rôl y nyrs arbenigol epilepsi yn sylweddol dros y blynyddoedd, gan feithrin perthynas gref â chleifion ledled Gogledd Cymru a chan ymdrechu i ddarparu gwasanaethau hygyrch i gleifion epilepsi fyw bywyd iach.

Mae wedi dangos hyn drwy ei rôl fel addysgwr/mentor, gan ddatblygu gwasanaethau gan ddilyn llwybrau cenedlaethol a gan weithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill, yn ogystal â chleifion a theuluoedd.

Da iawn, Dr Sheila Shepley, a diolch yn fawr am yr holl waith arloesol yr wyt ti wedi’i wneud ar gyfer pobl ifanc a mamau beichiog.

Zoe Dolman: Gwobr Anableddau Dysgu

Dywedodd y beirniaid fod Zoe, uwch nyrs arbenigol ymddygiad, yn “arwain gydag uniondeb ac arloesedd” yn ei rôl wrth gefnogi pobl sydd ag anghenion ymddygiadol cymhleth. Trwy ganolbwyntio ar yr unigolyn, nid y broblem, mae’n trawsnewid gwasanaethau, gan rymuso timau a chyfoethogi bywydau.

Mae Zoe wedi pontio gwasanaethau cymunedol a chleifion mewnol, mae wedi cryfhau cydweithio ar draws timau, mae wedi gwella gofal parhaus, ac mae wedi gwella canlyniadau i gleifion. Mae ei gallu i adeiladu ymddiriedaeth a meithrin perthnasau proffesiynol yn dystiolaeth i’w harweinyddiaeth a’i charedigrwydd.

Mae ei gwaith presennol yn cynnwys integreiddio’r model Cymorth Ymddygiadol Cadarnhaol (PBS) ar draws gwasanaethau – dull trawsnewidiol sy’n gwella ansawdd bywyd ar gyfer unigolion sydd ag anableddau dysgu.

Mewn un achos diweddar, ataliodd ymyriad Zoe ddyn ifanc a oedd gan hanes o drawma a heriau ymddygiadol cymhleth rhag cael ei symud i fodel gofal mwy diogel, gan newid trywydd ei fywyd. Trwy egwyddorion PBC, arweiniodd Zoe’r tîm wrth ddynodi rhwystrau i gymorth effeithiol, gan fynd i’r afael ag ofnau staff a meithrin diwylliant o empathi a hyder.

Galluogodd ei charedigrwydd greddfol, ynghyd ag arbenigedd clinigol, y tîm i ail-ymgysylltu’r unigolyn â gweithgareddau cymunedol ystyrlon.

Mae Zoe yn hyrwyddo cymryd risgiau cadarnhaol, mae’n cefnogi datblygiad staff, ac mae’n sicrhau bod yr holl ymyriadau’n cael eu gwreiddio mewn tystiolaeth, diogelwch a pharch.

Am dystiolaeth hyfryd i waith Zoe a chydnabyddiaeth haeddiannol gan banel beirniadu’r RCN.

Alwen Sayer: Gwobr Myfyriwr Nyrsio

Mae Alwen, myfyrwraig ym Mhrifysgol Wrecsam, yn rhagori ar ddisgwyliadau yn gyson, nid yn unig drwy sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal priodol, diogel ac urddasol, ond hefyd drwy sicrhau bod ei chyd-fyfyrwyr nyrsio yn cael eu cefnogi.

Yn oedolyn sy’n fyfyrwraig nyrsio ar y cwrs Baglor Nyrsio rhan amser ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd, mae hi'n cael ei chydnabod am ei huniondeb, ei phroffesiynoldeb, a'i hangerdd dwfn dros nyrsio.

Mae cleifion a theuluoedd yn canmol ei gallu i wrando'n astud, rhoi tawelwch meddwl, ac eirioli dros eu hanghenion, gan ymgorffori ei sgiliau Cymraeg rhagorol pan fo'n briodol. Mae ei meddwl beirniadol, ei gwybodaeth, ei harbenigedd a’i dylanwad a’i chyngor clinigol parchus hefyd wedi ennill canmoliaeth gan feddygon yn ogystal â nyrsys.

Fel aelod brwdfrydig o’r tîm ac yn esiampl naturiol, mae cyfoedion Alwen yn gwerthfawrogi ei harweiniad a’i chymorth. Yn academaidd, mae hi wedi cynnal safon uchel, gan gydbwyso gofynion lleoliadau clinigol, y byd academaidd, a'i hymrwymiadau swydd sylweddol.

Yn ystod lleoliad gwaith diweddar yn yr uned gofal coronaidd, dangosodd flaengarwch eithriadol gyda’i dealltwriaeth a’i gwybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth i atal anaf sylweddol i glaf.

Mae Alwen wedi bod yn esiampl naturiol i gyd-fyfyrwyr nyrsio sydd bob amser yn barod i gynnig arweiniad, rhannu gwybodaeth a chefnogi cydweithwyr dan bwysau. Ar ben hynny, mae hi'n cymryd rhan weithredol mewn mentrau i wella arferion nyrsio, megis cyfrannu at sesiynau arweinyddiaeth myfyrwyr.

Llongyfarchiadau, Alwen, a phob lwc yn dy yrfa yn y dyfodol.

Yn ail yn y categori hwn oedd myfyrwraig arall o Brifysgol Wrecsam, Abbie Sanders. Yn fyfyrwraig nyrsio pediatrig, cafodd argraff ar y beirniaid gyda'i gallu i feithrin perthnasau therapiwtig cryf, trwy ei charedigrwydd, ei thosturi, ei gwydnwch, ei phenderfynolrwydd a’i phroffesiynoldeb, a hyn i gyd er gwaethaf goresgyn rhai heriau personol sylweddol.

Archwiliodd adolygiad llenyddiaeth terfynol Abbie fentrau ar gyfer cefnogi iechyd emosiynol nyrsys – darn o waith trawiadol, meddylgar ac wedi’i ymchwilio’n dda a gyflawnodd farc o 82%. Da iawn, Abbie, ac edrychwn ymlaen at gael dy weld yn y dyfodol.

Mae canmoliaeth yn mynd i'r nyrs rheoli meddygaeth arbenigol, Ffion Pursglove. Daeth yn ail yn y categori Gwobr Ymchwil, Arloesi a Digideiddio am ei gwaith wrth helpu i arwain ein platfform rheoli meddyginiaethau digidol.

Trwy ei hysgogiad i sicrhau ein bod yn arwain y ffordd ar hyn, mae byrddau iechyd eraill, ynghyd ag AaGIC, yn bwriadu gweithredu datrysiadau tebyg. Da iawn, Ffion a’i chydweithwyr, am yr holl waith a wnaed wrth arwain yr ymgyrch ddigidol ym maes rheoli meddyginiaethau.

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr