Neidio i'r prif gynnwy

Hywel Dda: Digwyddiadau newid iechyd yn lleol i chi

17 Mehefin 2025

Digwyddiadau newid iechyd yn lleol i chi

Mae cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar gyfer y cyhoedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i ateb cwestiynau a allai fod gan bobl am newidiadau arfaethedig i rai gwasanaethau gofal iechyd lleol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi lansio ymgynghoriad ar naw gwasanaeth gofal iechyd gyda'r nod o fynd i'r afael â breuderau, gwella safonau, neu leihau amseroedd aros i bobl sydd angen diagnosis a thriniaeth.

Y gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yw gofal critigol, dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopedeg, radioleg, strôc ac wroleg.

Gallai cynigion newid y ffordd y darperir y gwasanaethau hyn mewn ysbytai a rhai cyfleusterau cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn y dyfodol.

Nod y digwyddiadau yw rhoi gwybodaeth i bobl am yr ymgynghoriad a'r opsiynau ar gyfer newid, a rhoi cyfle iddynt siarad â staff y Bwrdd Iechyd a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.

P'un a ydych chi'n glaf, yn aelod o'r gymuned, yn aelod o staff neu'n rhywun sydd â diddordeb mewn iechyd a lles, gallwch alw heibio i ddigwyddiad unrhyw bryd.

Mae digwyddiadau galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal:

•    17 Mehefin 2025, Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli, SA15 3AE, 2pm-7pm

•    20 Mehefin 2025, Neuadd Pensiynwyr Rhydaman, Rhydaman, SA18 3EN, 2pm-7pm

•    25 Mehefin 2025, Ivy Bush Royal Hotel, Caerfyrddin, SA31 1LG, 2pm-7pm

•    27 Mehefin 2025, HaverHub, Hwlffordd, SA61 1BG, 2pm-7pm

•    30 Mehefin 2025, Canolfan y Morlan, Aberystwyth, SY23 2HH, 2pm-7pm

•    4 Gorffennaf 2025, Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod, Dinbych-y-pysgod, SA70             8DU, 2pm-7pm

•    7 Gorffennaf 2025, Y Plas, Machynlleth, SY20 8ER, 2pm-7pm 

•    8 Gorffennaf 2025, Neuadd y Dref, Aberteifi, SA43 1JL, 2pm-7pm

•    10 Gorffennaf 2025, Pater Hall, Doc Penfro, SA72 6DD, 3pm-6pm

•    14 Gorffennaf 2025, Neuadd Goffa Aberaeron, Aberaeron, SA46 0DP, 3pm-6pm

•    17 Gorffennaf 2025, Gwesty’r Castell, Llanymddyfri, SA20 0AP, 3pm-6pm 

 

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein. Bydd pob digwyddiad ar-lein yn canolbwyntio ar dri maes o wasanaeth clinigol:

•    Dydd Llun 16 Mehefin 2025, 6.30pm - 8.30pm yn canolbwyntio ar ofal critigol, ar gyfer cleifion sy'n ddifrifol wael, llawfeddygaeth gyffredinol frys, trin achosion brys yn yr abdomen yn benna, a strôk, cyflwr sy'n bygwth bywyd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o'r ymennydd yn cael ei dorri i ffwrdd

•    Dydd Iau 19 Mehefin 2025, 6.30pm - 8.30pm - yn canolbwyntio ar wroleg, arennau/pledren ac organau atgenhedlu, endosgopi, archwiliadau corff mewnol, a radioleg: delweddu i wneud diagnosis/trin

•    Dydd Mawrth 15 Gorffennaf 2025, 6.30pm -8.30pm yn canolbwyntio ar orthopaedeg, esgryn, cymalau a meinwe medal, offthalmoleg, llygaid, a dermatoleg, yn cynnwys croen, gwallt, ewinedd

Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio: “Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ar yr opsiynau a gyflwynwyd, ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw atebion a ffefrir. Mae'r hyn rydych chi'n ei feddwl, eich profiadau o iechyd a gofal, a'ch syniadau am ddyfodol y gwasanaethau hyn yn hynod bwysig. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn yn cael eu siapio gan y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu. Ym mhob digwyddiad cewch gyfle i siarad ag uwch staff Hywel Dda am ddyfodol y gwasanaethau clinigol yn yr ymgynghoriad.”

Gall pobl rannu eu barn drwy lenwi holiadur neu fynychu digwyddiadau cyhoeddus, yn bersonol, neu ar-lein.

Mae gwybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys manylion y digwyddiad, yr holiadur a dogfennau mewn fformatau ac ieithoedd hygyrch, ar gael ar dudalennau gwe ymgynghoriad penodol y Bwrdd Iechyd: https://biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-gwasanaethau-clinigol

Ewch i’r adran ‘Digwyddiadau Ymgynghori’ os hoffech gofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein.