Ionawr 16, 2025
Mae arbenigwyr y GIG yn darparu hyfforddiant newydd i datŵwyr, tyllwyr corff ac aciwbigwyr i helpu i sicrhau safonau uchel o hylendid
Mae staff o'n gwasanaeth diogelu iechyd yn cynnig cymwysterau atal heintiau i helpu parlyrau tatŵ a chlinigau harddwch i gynnal y safonau uchaf ar gyfer eu cleientiaid.
Bydd pob ymarferydd llwyddiannus yn derbyn tystysgrif Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau gan Gymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus.
Mae angen y cymhwyster yma ar unrhyw un sy’n tatŵio, tyllu, yn gwneud electrolysis neu aciwbigo – gan gynnwys defnyddio nodwyddau sych, tyllu clustiau, colur lled-barhaol a microlafnu – fel rhan o gynllun trwyddedu newydd Llywodraeth Cymru. Bydd angen i ymarferwyr fodloni meini prawf penodol cyn cael trwydded gan eu cyngor lleol, gan gynnwys cwblhau cwrs atal heintiau Lefel 2 achrededig.
Bydd ein tîm yn cynnal sesiynau hyfforddi undydd, sydd yn cynnwys asesiad ffurfiol, mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru. Codir tâl bychan ar gyfer costau cynnal y cwrs.
Bwriad y rheolau trwyddedu newydd yw helpu i wella safonau hylendid a diogelwch yn y diwydiant, a diogelu iechyd cleientiaid. Bydd aelodau'r cyhoedd sy'n dewis tatŵydd, tyllwr neu ymarferydd triniaethau arbennig arall yn gallu gofyn am gael gweld eu trwydded neu wirio eu tystlythyrau ar gofrestr ar-lein.
Dywedodd Sam Lauder, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Diogelu Iechyd yn nhîm iechyd cyhoeddus y bwrdd iechyd, fod y bwrdd iechyd yn gweithio i atal salwch y gellir ei osgoi.
“Mae fy nghydweithwyr yn defnyddio eu harbenigedd i wella profiad defnyddwyr sy’n cael tatŵ, tylliad neu aciwbigo, neu’n ystyried triniaethau eraill sydd wedi’u cynnwys yn y gyfraith newydd hon”.
“Bydd ein hyfforddiant atal a rheoli heintiau yn helpu ymarferwyr i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’w cleientiaid, yn helpu i roi hyder i’w cwsmeriaid ac yn helpu i atal heintiau yn y gymuned.”
Rhaid i ymarferwyr wneud cais i’w cyngor lleol, a bydd y trwyddedau cyntaf yn cael eu rhoi yn ystod 2025.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno trwyddedu gorfodol ar gyfer artistiaid tatŵ, tyllwyr corff, aciwbigwyr, ymarferwyr electrolysis a chlinigau cosmetig.