Neidio i'r prif gynnwy

Hwb iechyd a gofal cymdeithasol newydd ar ei ffordd i Ddinbych

21.01.2025

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 19 Tachwedd 2024, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i werthu adeilad swyddfa’r awdurdod yn Ninbych i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn amodol ar gytuno telerau rhwng y ddwy ochr.

Golyga hyn gall y bwrdd iechyd ddatblygu canolfan iechyd a gofal cymdeithasol sydd wir ei angen yn y dref ac a fydd o fantais i drigolion Dinbych a’r cyffiniau.

Mae cynlluniau ar gyfer y safle dan ddatblygiad ar hyn o bryd, ond mae’n debyg bydd yr Hwb newydd yn cynnwys gwasanaethau gofal cychwynnol, iechyd meddwl i oedolion, hwb amenedigol, gwasanaeth bydwreigiaeth a lle ar gyfer y Tîm Adnoddau Cymunedol.

Yn ogystal â chynnig gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwerthfawr yn y dref, bydd yr hwb lles newydd hwn yn cynnig ystod o fanteision lles cymdeithasol ac economaidd i’r ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y Cyngor: “Yn dilyn proses dendro anffurfiol gwnaed penderfyniad i waredu adeilad Caledfryn i’r bwrdd iechyd, yn amodol ar delerau sy’n cael eu cytuno rhwng y ddwy ochr. Mae’n wych gallu cadw’r adeilad hwn mewn perchnogaeth gyhoeddus ac yn well fyth y bydd yn dod â gwasanaethau hanfodol i gymuned leol.

“Fel rhan o’r gwaith yn y Cyngor i ddod o hyd i arbedion, gwnaed y penderfyniad i gau Caledfryn fis Rhagfyr 2023. Ers hynny, mae’r holl staff wedi symud i swyddfeydd eraill y Cyngor, sydd eisoes wedi arwain at arbedion. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld dyfodol newydd i Caledfryn fel canolbwynt i’r gymuned yn Ninbych a’r cyffiniau.”

Darllenwch fwy: Rydym yn gofyn am eich cymorth i helpu i gyfyngu ar ledaeniad feirysau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych: “Mae galw cynyddol a chyson ar dimau iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn y gymuned yn amhrisiadwy. Bydd yr hwb newydd hwn yn gaffaeliad gwirioneddol i dref Dinbych.”

Dywedodd Gareth Evans, cyfarwyddwr Cymunedau Iechyd Integredig (Canolog) gyda BIPBC: “Rwy’n falch iawn o allu datgelu’r newyddion hyn, sydd yn fy marn i, yn hynod gadarnhaol i drigolion Dinbych a’r cyffiniau.

“Mae’r rhan helaeth o’n gwaith yn digwydd yn y gymuned, felly rwy’n credu bod bachu ar y cyfle i symud o eiddo hen ffasiwn i leoliad gwell yn dangos ein hymrwymiad hirdymor i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl, yn nes at ble maen nhw’n byw.

“Bydd y  datblygiad yn golygu y gallwn adleoli ein timau yn Nhrefeirian a Noddfa, sy’n gartref i Dîm Dyffryn Clwyd, i lety pwrpasol gwell unwaith caiff addasiadau eu cwblhau.

“Rydym yn ymwybodol iawn y golyga hyn y bydd angen i Sied Dynion Dinbych ddod o hyd i lety arall. Rydym wedi cysylltu â’r sefydliad cyn y cyhoeddiad hwn ac wedi ymrwymo i gynnig unrhyw gymorth ymarferol wrth iddynt chwilio am leoliad arall.

“Byddwn yn diweddaru’n holl gydweithwyr, partneriaid a’r cyhoedd am y camau nesaf gyda’r datblygiad. Yn dilyn cytundeb gan y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru’n ariannu’r pryniant, ac yn amodol ar gais cynllunio llwyddiannus i Gyngor Sir Ddinbych, disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yn y flwyddyn ariannol nesaf.”

Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ceisio dilysu'r cais cynllunio a gyflwynwyd yn ddiweddar ac yna'n cynnal proses ymgynghori statudol.

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)