17 Rhagfyr, 2025
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r sefydliad diweddaraf yng Ngogledd Cymru i ymrwymo i archwilio teithio iachach a mwy cynaliadwy trwy lofnodi Siarter Teithio Iach y rhanbarth
Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn yn asesu ein perfformiad yn erbyn y siarter – ac yn archwilio sut y gallwn ei gwneud hi'n haws i staff, cleifion ac ymwelwyr ddefnyddio ffyrdd amgen o ymweld â'n safleoedd.
Mae'r ddogfen 15 pwynt yn annog pob sefydliad yng Ngogledd Cymru i ystyried ffyrdd o hyrwyddo teithio actif, annog defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, a darparu cyfleusterau ar gyfer beicio a cherdded.
Llofnododd y Cadeirydd Dyfed Edwards a'r prif weithredwr Carol Shillabeer y siarter yn dilyn ei chymeradwyo yng nghyfarfod diweddaraf y bwrdd iechyd fis diwethaf.
"Mae llofnodi'r siarter yn golygu ein bod yn ymuno â chynghorau, sefydliadau iechyd eraill a phartneriaid ledled Cymru trwy wneud ymrwymiad i archwilio sut y gallwn helpu pobl i ddewis ffyrdd iachach o deithio," meddai Dyfed.
"Rydyn ni i gyd yn gwybod bod symud mwy yn dda i ni - a gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i'n hiechyd corfforol a meddyliol. Mae'r bwrdd iechyd eisiau gwneud popeth y gallwn i annog mwy o bobl i fod yn actif ac aros felly, a lleihau allyriadau niweidiol lle bynnag y bo modd.
"Rydym yn gwybod bod dewis ffyrdd iachach o deithio yn arbennig o heriol mewn ardaloedd mwy gwledig fel Gogledd Cymru, ond gan weithio gyda'n partneriaid byddwn yn ceisio dylanwadu ar y seilwaith teithio a'r cyfleusterau sydd ar gael yn ein rhanbarth i alluogi mwy o bobl i wneud y dewis hwnnw lle gallant."
Dywedodd Carol: "Rydym yn falch o ymuno â sefydliadau'r sector cyhoeddus ledled Gogledd Cymru i lofnodi'r siarter, ochr yn ochr â'n partneriaid yn y byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
"Rydym nawr yn canolbwyntio ar y camau ymarferol y gallwn eu cymryd i gefnogi ac annog staff ac ymwelwyr sy'n defnyddio ein safleoedd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded, beicio, a chynyddu eu defnydd o gerbydau allyriadau is lle gallant.”
Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio neu dilynwch ni ar Whatsapp.