Neidio i'r prif gynnwy

"Gwnaethon nhw achub fy mywyd": Nyrsys atal strôc yn canfod cyflwr sy'n bygwth bywyd yn ystod archwiliad iechyd yn y coleg

29.07.2025

Mae archwiliad pwysedd gwaed mater o drefn a gynhaliwyd gan nyrs atal strôc yng Ngholeg Llandrillo, Y Rhyl y llynedd, wedi bod yn fodd o achub bywyd darlithydd ym maes gwasanaethau cyhoeddus ac arweinydd rhaglen o Grŵp Llandrillo Menai - ar ôl i ddarlleniadau peryglus o uchel ddatgelu ei bod hi'n byw gyda chlefyd yr arennau heb ei ddiagnosio.

Bu Cara Baker, 38 oed, o Sir y Fflint, yn mynychu digwyddiad lles yn y coleg y llynedd pan aeth Nyrs Atal Strôc ati i siarad â hi, fel rhan o raglen addysg ac ymwybyddiaeth ehangach sy'n cael ei chyflwyno ar draws Gogledd Cymru. Er nad oedd yn fwriad ganddi dderbyn gwiriad pwysedd gwaed, cytunodd i eistedd i lawr i gael darlleniad gwaed sydyn.

Bu'r hyn a ddigwyddodd ar ôl hynny'n fodd o newid ei bywyd.

"Roeddwn i'n teimlo'n iawn - wedi blino ryw ychydig ac o dan straen, ond gwnaeth y nyrs gymryd tri darlleniad, ac yna gwnaeth ei wirio eto â llaw. Gofynnodd p'un a oeddwn yn profi cur pen neu olwg aneglur, ac roeddwn i wedi cael hynny, ond tybiais mai lludded o ganlyniad i flwyddyn brysur yn y gwaith oedd yn gyfrifol," esboniodd.

Mae Emma Davies, nyrs atal Strôc Cymunedol, yn cofio bod yn bryderus yn syth, a chynghorodd Cara i fynd i'r Adran Achosion Brys. A hithau'n dal yn ansicr, gwnaeth Cara ffonio ei meddyg teulu am ail farn. Cadarnhaodd y natur frys a dywedodd wrthi am fynd i'r ysbyty'n ddi-oed.

"Rydw i'n cofio'r cyfan mor glir. Roedd ei phwysedd gwaed yn 228/147. Roedd yn rhaid i mi ei wirio sawl gwaith gan ei fod mor uchel. Nid yw rhywun yn disgwyl gweld rhifau fel hynny yn achos rhywun sy'n edrych yn ifanc, yn heini, ac yn iach. Nid oedd ganddi unrhyw symptomau amlwg ar wahân i deimlo ychydig bach yn llesg, ond roedd y darlleniad yn rhoi gwybod i ni fod rhywbeth mawr o'i le. Roeddwn i'n gwybod bod angen cymorth brys a diymdroi arni", meddai Emma.

Cafodd Cara ei derbyn i'r ysbyty a chafodd gyfres o brofion dros nifer o ddiwrnodau, lle cafodd ddiagnosis clefyd yr arennau wedi'i achosi gan bwysedd gwaed uchel heb ei ddiagnosio dros gyfnod hirfaith.

"Cefais wybod heb ymyrraeth frys, fod gen i debygolrwydd o 80% o farw ymhen blwyddyn.

"Roeddwn i wedi fy llorio. Nid oedd gen i unrhyw syniad bod fy mwysedd gwaed yn beryglus o uchel. Nid yn unig y gwnaeth y nyrs gynnal archwiliad - gwnaeth hi hefyd achub fy mywyd.

"Eleni, pan welais i'r un nyrs unwaith eto yn y digwyddiad lles eleni, roedd yn emosiynol. Roeddwn i'n awyddus i roi gwybod iddi am ganlyniad archwiliad pum munud, sef; diagnosis, triniaeth, ac yn bwysicaf oll, ail gyfle."

Mae allgymorth gan Nyrsys Atal Strôc yn rhan o raglen addysg ac ymwybyddiaeth ehangach sy'n cael ei chyflwyno ar draws Gogledd Cymru. Mae'r rhaglen yn targedu gweithleoedd, colegau, a lleoliadau cymunedol, gan gynnig archwiliadau iechyd yn rhad ac am ddim, asesiadau risg strôc, a gwybodaeth sy'n gallu achub bywydau.

Ychwanegodd y Rheolwr Prosiect Gwella Strôc, Janet Michell: "Mae pwysedd gwaed uchel yn adnabyddus fel cyflwr sy'n lladd yn dawel, oherwydd nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n sâl. Mae'r stori hon yn dangos yn union pam mae'n rhaid i ni gyfarfod pobl mewn lleoliadau ble maen nhw o ddydd i ddydd. Gall yr archwiliad syml hwnnw achub bywydau.

"Nid ydym ni yma i ddychryn pobl, rydym ni yma i roi gwybodaeth, offer, a chymorth er mwyn gwarchod eu hiechyd. Mae ymyrraeth gynnar yn gwneud byd o wahaniaeth."

Ffeithiau allweddol:

  • Mae pwysedd gwaed uchel yn un o brif achosion strôc, methiant y galon, a chlefyd yr arennau.
  • Yn aml, nid oes iddo unrhyw symptomau - ond pan fo'n bresennol, gallai arwyddion gynnwys cur pen, lludded, neu olwg aneglur.
  • 120/80 mm Hg yn fras yw darlleniad pwysedd gwaed normal
  • Gall archwiliadau rheolaidd a thriniaeth gynnar atal cyflyrau sy'n bygwth bywyd.