Neidio i'r prif gynnwy

Gweledigaeth newydd ar gyfer llawdriniaeth Orthopedig yng Ngogledd Cymru

6 Chwefror 2025

Mae llawfeddygon yng Ngogledd Cymru yn treialu technoleg realiti estynedig i wella cywirdeb a chanlyniadau cleifion sy’n derbyn llawdriniaethau i osod pen-gliniau cyfan newydd.

Mr Madhusudhan Raghavendra, sy’n Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol a arweiniodd y tîm llawfeddygol yn ystod y driniaeth gyntaf yn Ysbyty Abergele yn ddiweddar gan ddefnyddio technoleg Knee⁺.

Cyn y driniaeth, defnyddiodd Mr Raghavendra feddalwedd delweddu uwch i ddelweddu cymal pen-glin y claf mewn 3D a phennu lleoliad delfrydol y mewnblaniad ar gyfer y claf, yn ôl ei anatomeg. Mae'r model rhithwir 3D o ben-glin y claf yn helpu'r tîm llawfeddygol i asesu’r difrod i’r asgwrn a chartilag er mwyn cynllunio ar gyfer y llawdriniaeth a chanfod y lleoliad gorau posibl ar gyfer gosod y mewnblaniad.

“Dyma’r tro cyntaf i’r math hwn o dechnoleg gael ei ddefnyddio o fewn y GIG yng Nghymru” meddai Mr Raghavendra.

“Mae realiti estynedig yn rhoi delwedd fwy deinamig o’r cymal gan ei fod ar ffurf tri dimensiwn. Mae’r dechnoleg uwch yn helpu i gynllunio’r driniaeth ac yn caniatáu gosod y mewnblaniad yn y ffordd orau i bob claf yn ystod y driniaeth.”

Yn ystod y driniaeth, mae'r llawfeddyg yn gwisgo pâr o sbectol realiti estynedig i weld anatomeg benodol pen-glin y claf mewn 3D. Mae'r platfform sy'n seiliedig ar Realiti Estynedig yn galluogi'r tîm llawfeddygol i addasu'n hawdd, i ddelweddu'n well a phennu lleoliad cywir y mewnblaniad, sy'n allweddol i sicrhau triniaeth lwyddiannus wrth ailosod pen-glin.

Yn ddiweddar, cafodd Sam Loughran, 65 oed, ei ben-glin newydd gan ddefnyddio'r dechnoleg ac roedd yn falch bod ffyrdd newydd o gynnal triniaethau yn cael eu cyflwyno yng Ngogledd Cymru.

“Pan gefais gynnig y driniaeth hon gan ddefnyddio technoleg Knee⁺, dechreuais wneud ychydig o ymchwil ar-lein ac roedd nifer fawr yn canmol y system hon” meddai.

“Mae fy nhaith at wellhad yn un bositif hyd yn hyn ac rydw i wir yn credu fy mod wedi elwa o’r dull hwn o gynnal y llawdriniaeth ac rwyf am ganmol gwaith a chefnogaeth y tîm llawfeddygol a meddygol yn Ysbyty Abergele, yn ogystal â’r tîm Ffisiotherapi yn Ysbyty Bae Colwyn.”

Mae disgwyl y bydd mwy o lawfeddygon yn treialu’r dechnoleg hon  dros y misoedd nesaf a gobeithio gwelir mwy o ganlyniadau da i gleifion.

“Fel llawfeddyg bydd y dechnoleg hon yn gwella cywirdeb wrth gynnal y math hwn o lawdriniaethau ac rwy’n falch iawn gyda’r canlyniadau hyd yn hyn.

“Mi fydd nid yn unig o fudd i’n cleifion ond bydd ein llawfeddygon iau hefyd yn gallu profi’r dechnoleg hon, fydd yn rhoi profiad rhagorol iddynt,” ychwanegodd Mr Raghavendra.

Un o flaenoriaethau allweddol y Bwrdd Iechyd yw gwella amseroedd aros am driniaethau ac apwyntiadau ar draws Gogledd Cymru. Tra bod y defnydd o dechnegau newydd i wella canlyniadau ein llawdriniaethau yn ddatblygiad cadarnhaol i'r Bwrdd Iechyd, mae ffocws mawr yn parhau ar leihau rhestrau aros o fewn Orthopedeg.

Mae gwaith ar yr Hwb Orthopedig Dewisol newydd yn Ysbyty Llandudno yn mynd yn ei flaen yn dda a phan fydd hwn wedi agor disgwylir iddo drawsnewid gwasanaethau orthopedig dewisol a sicrhau budd i gleifion, staff a chymuned ehangach Gogledd Cymru, drwy gynnal 1,900 o driniaethau'r flwyddyn.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiect yma