Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth newydd yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru i gefnogi pobl sydd â ME/CFS

Amcangyfrifir bod hyd at 1 miliwn o bobl yn y DU bellach yn byw ag Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig (ME/CFS). Mae’n gyflwr cymhleth sy’n effeithio ar nifer o systemau’r corff.

Bellach, mae gwasanaeth integredig newydd ar gael yng Ngogledd Cymru ar gyfer pobl sy’n byw â ME/CFS. Mae’r gwasanaeth yn dod â thîm o weithwyr proffesiynol iechyd ynghyd i ddarparu asesiadau a thriniaethau arbenigol a chymorth personol. Gall pobl hunangyfeirio ar-lein neu gallant ofyn i weithiwr proffesiynol iechyd eu cyfeirio.

Beth yw’r gwasanaeth newydd?

Mae’r Gwasanaeth Byw’n Dda newydd yn rhoi mynediad at ystod eang o gymorth a gweithwyr proffesiynol iechyd, tra hefyd yn cynnal cymorth pwrpasol i bobl sydd â ME/CFS. Mae’r gwasanaeth hwn yn estyniad o’r gwasanaeth COVID Hir, trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Gwasanaeth ME/CFS a’r Gwasanaeth Byw’n Dda yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaeth integredig. Bydd hyn yn sicrhau y gall pobl sydd â ME/CFS gael mynediad at yr ystod ehangach o gymorth a’r gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sydd ar gael drwy’r Gwasanaeth Byw’n Dda, tra hefyd yn cynnal cymorth pwrpasol i bobl sydd â ME/CFS.

Mae’r gwasanaeth newydd bellach yn darparu’r canlynol:

  • Asesiadau
  • Diagnosis
  • Ystod o driniaethau a chymorth
  • Cymorth i ddatblygu cynllun gofal a chymorth personol

Beth yw ME/CFS?

Mae ME/CFS yn gyflwr cymhleth a hirdymor a all effeithio ar lawer o rannau o’r corff. Amcangyfrifir bod hyd at filiwn o bobl yn y DU yn byw â ME/CFS. Mae symptomau cyffredin yn cynnwys:

  • Blinder eithriadol nad yw’n gwella gyda gorffwys
  • Problemau gyda chof neu ganolbwyntio
  • Cwsg gwael neu gwsg nad yw’n orffwysol
  • Symptomau sy’n gwaethygu ar ôl ymdrech gorfforol, wybyddol, gymdeithasol a/neu emosiynol (anghysur ôl-ymdrech)

Mae ME/CFS yn aml yn datblygu ar ôl salwch feirysol neu heintus.

Wedi’i ddylunio â phobl mewn golwg

“Fel gwasanaeth, ac mewn cydweithrediad â phobl sydd â phrofiad byw, rydym wedi rhoi llawer o feddwl i sut y gallwn wella cymorth ar gyfer pobl sydd â ME/CFS yng Ngogledd Cymru. Rydym yn deall yr heriau a wynebir gan bobl sydd â ME/CFS, a bydd y gwasanaeth newydd yn sicrhau bod pobl yn derbyn cymorth priodol ac arbenigol, sy’n unol â’r canllawiau arfer gorau cenedlaethol diweddaraf.

Mae pobl sydd â ME/CFS yn aml yn cael trafferth llywio drwy’r system gofal iechyd, felly mae cydlynu a chefnogi gofal yn hanfodol. Mae’r gwasanaeth yn cynnig ystod ehangach o opsiynau cymorth gan gynnwys asesiad meddygol fel rhan o asesiad cyfannol, diagnosis a thriniaeth gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gofal iechyd yn y gymuned. Mae cymorth hefyd ar gael i'r rhai sydd â symptomau difrifol gan gynnwys apwyntiadau cartref. Mae cymorth pwrpasol ar gyfer ME/CFS yn parhau, ond gyda mynediad at ystod ehangach o gymorth.”

Claire Jones, Therapydd Ymgynghorol ar gyfer y Gwasanaeth Byw’n Dda

 

Cymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru (WAMES)

Mae Cymdeithas Cefnogi ME A CFS CYMRU (WAMES) wedi croesawu model newydd.

"Mae’n dda gan WAMES glywed y bydd pob oedolyn sydd â ME/CFS yng Ngogledd Cymru yn cael cynnig gwasanaeth sy'n cael ei lunio gan ganllaw ME/CFS NICE (2021). Edrychwn ymlaen at gael parhau i weithio â’r Bwrdd Iechyd a defnyddwyr gwasanaeth i alluogi’r gwasanaeth i dyfu a gwella a bod yn ffynhonnell gadarnhaol o wybodaeth a chymorth yn yr ardal."

Jan Russell, WAMES

 Gwefan: www.wames.org.uk

 

Sut i gael mynediad at y cymorth hwn

Gall pobl sydd â diagnosis o ME/CFS, neu yr amheuir bod ganddynt ME/CFS, hunangyfeirio at y gwasanaeth newydd, neu gall gweithwyr proffesiynol iechyd wneud cyfeiriad ar eu rhan.

Hunangyfeirio ar-lein: Hunangyfeirio at y Gwasanaeth Byw’n Dda

Gwybodaeth bellach am y gwasanaeth: Gwasanaeth Byw'n Dda

I’r rhai sy’n dymuno hunangyfeirio ac sydd angen cymorth gyda hyn, gallant gysylltu â’r Gwasanaeth Byw’n Dda ar 03000 840007 neu gallant anfon e-bost at BCU.LWSQueriesPanBCU@wales.nhs.uk.