Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth newydd i roi cymorth ychwanegol i bobl sydd ar restrau aros

3 Mawrth 2025

Mae pobl sy’n aros am driniaethau a llawdriniaethau yng Ngogledd Cymru bellach yn derbyn cymorth ychwanegol diolch i lansiad gwasanaeth newydd.

Mae’r gwasanaeth Hunanofal Wrth i Chi Baratoi yn darparu un pwynt cyswllt ar gyfer cleifion, ac mae’r tîm yn gwrando ar eu pryderon, yn cynghori ar ymddygiadau iach i reoli eu symptomau’n well ac yn eu cyfeirio at amrywiaeth eang o adnoddau a gwasanaethau.

Maent hefyd yn helpu pobl i baratoi ar gyfer triniaeth i sicrhau eu bod yn cael y canlyniadau gorau. Bydd hyn yn cynnwys mynediad at wasanaethau sy’n cynnig cyrsiau iechyd a lles wyneb yn wyneb neu o bell.

Dywedodd Michelle Rigby, Arweinydd Strategol ar gyfer y gwasanaeth Hunanofal Wrth i Chi Baratoi: “Tua diwedd 2024, fe wnaethom lansio ein gwasanaeth newydd. Er ein bod yn parhau i fod yn dîm bach, byddwn yn ei ddatblygu dros y flwyddyn nesaf.

“Ein nod yw cefnogi’r bobl hynny sydd ar y rhestrau aros a cheisio atal unrhyw ddirywiad yn eu cyflyrau, hyrwyddo penderfyniadau iach a gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod mor iach â phosibl ac yn barod ar gyfer eu triniaeth pan ddaw’r amser.

“Rydym wedi bod yn cysylltu â chleifion sydd ar y rhestrau aros Orthopedig ac Offthalmoleg i gynnig cymorth iddynt, ond byddwn hefyd yn cysylltu â chleifion o bob arbenigedd arall erbyn diwedd mis Mawrth wrth i’n tîm dyfu. Rydym hefyd yn derbyn galwadau ffôn gan unrhyw un a hoffai cymorth pellach tra byddant yn aros.”

Lansiwyd y gwasanaeth o ganlyniad i Bolisi Aros yn Rhagweithiol 3P cenedlaethol Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod i sicrhau bod gan bobl sy’n aros am driniaeth yng Nghymru y cymorth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y gwasanaeth a chymorth a gwybodaeth bellach ar gyfer pobl sy’n aros am apwyntiadau, llawdriniaethau a thriniaethau, yn ogystal â gofalwyr, ar ein gwefan.