17 Mawrth 2025
Mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar strwythur allanol Hwb Orthopedig newydd gwerth £29.4m ar gyfer gofal a gynlluniwyd yn Ysbyty Llandudno.
Bydd yr hwb newydd yn trawsnewid gwasanaethau gofal orthopedig a gynlluniwyd ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Y bwriad yw cynnig 1,900 o driniaethau wedi'u cynllunio bob blwyddyn er budd cleifion, staff a’r gymuned ehangach yng Ngogledd Cymru.
Bydd y ganolfan bwrpasol hon yn arbenigo mewn trin nifer uchel o achosion syml gan gynyddu'r gweithgarwch orthopedig blynyddol a darparu gwasanaethau orthopedig y tu hwnt i’r ysbytai. Bydd yn lleihau effeithiau gofal heb ei drefnu ar driniaethau a gynlluniwyd, ac yn lleihau'r siawns y bydd llawdriniaethau'n cael eu gohirio.
Mae'r camau nesaf yn ymwneud â gwaith mewnol, gydag addurno eisoes ar y gweill yn Ward Aberconwy â'r lloriau a'r drysau yn cael eu gosod yn y mis nesaf.
Mae'r gwaith adfer yn yr Adran Pelydr-X wedi'i gwblhau a'r estyniad i'r uned ar ddechrau.
Bydd y cladin a'r to ar y theatrau newydd yn cael eu cwblhau dros y mis nesaf ac yna bydd y gwaith mewnol yn dechrau.
Dywedodd Nicola Eatherington, Cyfarwyddwr Prosiect yr Hwb Gofal Orthopedig a Gynlluniwyd: “Mae wedi bod yn wych gweld yr Hwb yn datblygu dros y misoedd diwethaf.
“Roeddem yn falch iawn o groesawu ein Prif Weithredwr i’r safle yn ddiweddar. Cafodd daith o amgylch y safle a chyfle i glywed y newyddion diweddaraf am y prosiect.
“Bydd y capasiti llawfeddygol ychwanegol a geir yn yr adeilad yn cael effaith sylweddol ar nifer y cleifion y gallwn eu trin.
“Hoffem hefyd ddiolch i staff Ysbyty Llandudno a’r cymdogion cyfagos am eu hamynedd yn ystod y gwaith hwn.”