Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp o feddygon yn cadw'r curiad o flaen bron i 5,000 o bobl

18.06.2025

Mae grŵp o feddygon yn addo cadw curiad cyson mewn gŵyl gerddoriaeth leol.

Mae The Sirenz, band a ffurfiwyd 13 mlynedd yn ôl i ganu’r hen ffefrynnau, yn cynnwys staff y Bwrdd Iechyd sy'n angerddol am gerddoriaeth. Mae dau ohonyn nhw'n arbenigwyr ar gadw curiad - maen nhw'n gweithio yn ein Huned Hyfforddi Adfywio Cardiaidd.

Un arall sy'n gobeithio y bydd yn gallu cadw rhythm cyson yw Richard Pugh, Anesthetydd Ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd sy'n chwarae'r gitâr flaen. Mae'n edrych ymlaen at berfformiad gwefreiddiol o flaen torf a all fod cymaint â 5,000 yn Rhuddfest ar 22 Mehefin.

The Sirenz sy'n chwarae ar brif lwyfan Fferm Morfa Lodge ar ddiwedd y noson lle bydd Ian van Dahl, arwr yr anthemau dawns hefyd yn ymddangos.

“Dw i'n teimlo ychydig yn nerfus – ond mewn ffordd dda,” datgelodd Richard. "Dydyn ni erioed wedi chwarae yn Rhuddfest o'r blaen. Roedd yn ddigwyddiad pleserus iawn y llynedd ac roedd yn wych cael y gwahoddiad – er i mi gael fy synnu braidd.

Darllenwch fwy: Gwasanaethau Dadebru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

“Mae’n braf iawn cael y cyfle, a phwysleisio'r cysylltiad rhwng yr ardal leol a’r ysbyty."

Mae’r band wedi gweithio'n galed dros y blynyddoedd, yn gigio a chwarae sioeau yng Ngogledd Cymru a Chaer, ac yn cynnal cyngherddau elusennol i godi arian i'r ysbyty. Dyma fydd eu perfformiad mwyaf hyd yma.

Ar y llwyfan gyda Richard, bydd y gitarydd bas Keith McKinlay, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn ein Theatrau, a’r gantores Leah Davies, Uwch Ymarferydd Nyrsio yn Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd. Mae’r gantores Cathy Morris, Swyddog Hyfforddi Adfywio, hefyd yn gobeithio ymuno â’r band ar y diwrnod.

Fel arfer, Tim Gardner, sydd hefyd yn Swyddog Hyfforddi Adfywio sy'n cadw'r curiad ar y drymiau, ond ar gyfer y gig mawr yn Rhuddfest, bydd Nick Lloyd, Dirprwy Reolwr Safle Llif Cleifion Ysbyty Maelor Wrecsam yn cymryd ei le.

Mae’r band yn dweud y byddant yn mynd â’r dorf ar daith â’u cymysgedd eclectig o alawon o’r 60au hyd at heddiw, ac maen nhw’n gobeithio y bydd pawb ar eu traed yn dawnsio.

Darllenwch fwy: Dadorchuddio cerflun newydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bydd tri o Ysgol Ddawns Pearl Shore ym Mae Colwyn, lle mae Leah hefyd yn hyfforddwr, yn ymuno â nhw ar y llwyfan i ganu llais cefndir. 

Mae hyn yn dipyn o newid o'r amser pan gododd Richard y gitâr am y tro cyntaf. Dywedodd: “Mi wnes i ddechrau gyda'r gitâr yn wyth oed a chael gwersi clasurol. Yna cyflwynodd yr athrawes fi i'r 'blues' a dyna ni, roeddwn i wedi cael fy machu.

“Roeddwn i mewn bandiau ysgol a phrifysgol ac mae bob amser wedi bod yn ddihangfa braf – y peth gorau ar gyfer lleddfu straen.”

Dyma obeithio na fydd The Sirenz yn “torri coes” yn Rhuddfest!

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr