Neidio i'r prif gynnwy

'Gosod carreg gopa' yng nghanolfan cymorth canser newydd Gogledd Cymru

21.03.2025

Mae canolfan cymorth canser newydd yng Ngogledd Cymru wedi dathlu 'gosod carreg gopa' - seremoni draddodiadol i nodi cwblhau rhan uchaf yr adeilad

Mae canolfan Maggie’s yn cael ei  chomisiynu, ei dylunio a'i hariannu'n llwyr gan Sefydliad Steve Morgan. Adeiladir y ganolfan gymorth ar dir Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, a nodwyd y garreg filltir trwy hoelio cangen seremonïol ar y to

Dywedodd y Fonesig Laura Lee, Prif Weithredwr Maggie’s: “Rydym wrth ein bod fod ein canolfan ganser yng Ngogledd Cymru wedi 'dathlu cyrraedd y brig', sy'n golygu ein bod gam yn nes at gynnig cymorth i bobl sy'n byw gyda chanser yng Ngogledd Cymru.

“Heb gefnogaeth hynod hael Sefydliad Steve Morgan i gomisiynu, dylunio, adeiladu ac ariannu'r prosiect, ni fyddem wedi gallu dod â Maggie’s i Ogledd Cymru. Rwy'n hynod o ddiolchgar am hynny.

Darllenwch fwy: Updates: Maggie's Centre - Betsi Cadwaladr University Health Board

“Mae Sefydliad Steve Morgan wedi ymrwymo i adeiladu tair canolfan Maggie’s newydd – gan gynnwys yr un yng Ngogledd Cymru – sy’n weithred ryfeddol o ddyngarwch.

“Rwy'n edrych ymlaen yn arw at barhau i gydweithio â Sefydliad Steve Morgan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i allu agor ein canolfan newydd yn ddiweddarach eleni.

“Mae canolfannau Maggie’s ar gael i bawb sydd angen eu cymorth ac rydym yn cynnig gwasanaethau am ddim ac nid oes angen i neb drefnu apwyntiad na chael eu cyfeirio atom ni.  Rydym yn gwybod fod hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran helpu pobl i ymdopi â'u diagnosis -  yn cynnwys paratoi at y driniaeth, cymorth a sgil effeithiau posibl, cymorth wedi'r driniaeth, cyngor ynghylch budd-daliadau neu ymdopi â chanser sydd wedi ymledu.”

Mae Sefydliad Steve Morgan wedi rhoddi £4 miliwn i dalu am adeiladu’r ganolfan yng Ngogledd Cymru ac mae eisoes wedi comisiynu, dylunio, adeiladu ac ariannu canolfan Maggie’s yng Nghilgwri a agorwyd yn swyddogol ar dir Canolfan Ganser Clatterbridge yng Nghilgwri ym mis Medi 2021.  Yn ystod 2024, fe wnaeth y ganolfan gynorthwyo pobl fwy na 18,000 o weithiau.

Mae trydedd ganolfan Maggie’s yn Lerpwl (sydd i’w hadeiladu ar dir Ysbyty Brenhinol Newydd Lerpwl wrth ymyl Canolfan Ganser newydd Clatterbridge, Lerpwl) hefyd yn cael ei datblygu, diolch i Sefydliad Steve Morgan.

Darllenwch fyw: Maggie's, North Wales | Maggie's

Dywedodd Steve Morgan, Cadeirydd Sefydliad Steve Morgan: “Mae hon yn garreg filltir gyffrous yn y gwaith o adeiladu canolfan newydd Maggie's ac rydym wrth ein bodd â chynnydd y gwaith, sy'n golygu y dylem allu agor y ganolfan yn unol â'r bwriad yn yr hydref.

“Bydd y ganolfan newydd yn sicrhau y gall pobl Gogledd Cymru ddefnyddio gwasanaethau cymorth canser hanfodol Maggie's yn rhwydd, ac rydym yn falch o allu gwireddu hynny. Mae ethos y Sefydliad yn rhoi pwyslais ar 'roddi arian yn dda' ac mae ein partneriaeth â Maggie's yn enghraifft wych o sut gallwn ddefnyddio ein harbenigedd, ein cymorth ymarferol a'n profiad masnachol i fwyafu dylanwad ein cymorth ariannol.

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld Canolfan Maggie's Gogledd Cymru yn agor ei drysau.”

Mae Ysbyty Glan Clwyd yn cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a lleolir Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yno.

Dywedodd Gareth Williams, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae heddiw yn ddiwrnod arwyddocaol iawn i Maggie’s, Gogledd Cymru, ein Bwrdd Iechyd a Sefydliad Steve Morgan.

Darllenwch fwy: Steve Morgan Foundation - Charitable Foundation Providing Funding, Support and Advice

“Rydym yn falch iawn o gael cydweithio â phartneriaid mor nodedig i ddatblygu cyfleuster a wnaiff ategu gwaith yr elusennau yr ydym eisoes yn cydweithio â hwy – ac a fydd yn sicr o wella gofal, cymorth a lles emosiynol cleifion canser, eu teuluoedd a’u ffrindiau. Mae gallu manteisio ar arbenigedd a gwybodaeth Maggie's er budd ein poblogaeth yn rhywbeth y dylem ei ddathlu. Heddiw, rydym gam yn nes at wireddu canolfan Maggie's yng Ngogledd Cymru.

“Wrth gwrs, ni fyddai hyn yn bosibl heb haelioni, adnoddau a phrofiad Sefydliad Steve Morgan. Heb os, y weithred fwyaf dyngarol yw cynnig lle diogel, cymorth a chysur i bobl sy'n aml yn profi heriau mwyaf eu bywyd.

“Rwyf i a fy nghyd-aelodau o'r Bwrdd a'n cydweithwyr ledled y sefydliad yn edrych ymlaen at weld drysau'r ganolfan yn agor i bawb yn ddiweddarach eleni.

Disgwylir y gwnaiff drysau Maggie’s, Gogledd Cymru, agor yn 2025, a hon fydd trydedd ganolfan Maggie’s yng Nghymru; fe wnaeth Maggie’s, Abertawe agor yn 2011 ac fe wnaeth Maggie's, Caerdydd agor yn 2019.  Fe wnaeth y ddwy ganolfan yn Ne Cymru gynorthwyo pobl oedd â chanser, yn ogystal â'u teuluoedd a'u ffrindiau, fwy na 18,500 o weithiau yn 2024.

Rydym yn obeithiol y bydd cymorth hael Sefydliad Steve Morgan yn denu rhoddwyr eraill a chymorth gan y gymuned leol i’n helpu i godi’r £1miliwn sydd ei angen arnom i agor y ganolfan newydd.

Ers bron i 30 mlynedd, mae Maggie's yn arbenigo mewn darparu cymorth a gwybodaeth ynghylch canser yn rhad ac am ddim mewn canolfannau ledled y DU.  Mae'r canolfannau wedi'u hadeiladu ar dir ysbytai trin canser y GIG,  ac maent yn gynnes ac yn groesawgar, ac yn cael eu rhedeg gan staff arbenigol sy'n helpu pobl i fyw'n dda gyda chanser.

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)