Neidio i'r prif gynnwy

Goroeswr strôc yn canmol y timau ysbyty "rhagorol" ar ei thaith i wellhad

29 Hydref 2025

Mae gwraig 79 oed o Ynys Môn wedi rhannu ei stori ysbrydoledig i nodi Diwrnod Strôc y Byd, gan dalu teyrnged i'r timau gofal iechyd a fu’n gefn mawr iddi yn ystod ei hadferiad, ac yn gymorth mawr iddi adennill ei hannibyniaeth.

Ar 9 Medi 2025, deffrodd Alexis Ledingham yn oriau mân y bore yn ei chartref a sylweddoli bod rhywbeth mawr o'i le.

“Roeddwn yn ceisio codi o’r gwely ond nid oedd fy nghoesau’n gweithio o gwbl,” meddai. “Doeddwn i ddim yn gallu sefyll na symud yn iawn. Roeddwn i’n gwybod bod rhywbeth o’i le, felly ffoniais fy mab ar unwaith ac aeth ef â fi yn syth i Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd.”

Cafodd Alexis ei gweld gan feddygon ar unwaith. Gwnaed cyfres o brofion a sganiau a gadarnhaodd ei bod wedi dioddef strôc. Treuliodd bythefnos ar Ward Prysor, ward strôc yr ysbyty, lle cafodd ofal 24 awr y dydd.

“Am y pythefnos cyntaf, doeddwn i ddim yn gallu siarad yn iawn a doeddwn i ddim yn gallu cerdded,” meddai Alexis. “Roedd hyn yn un o gyfnodau anoddaf fy mywyd, ond roedd y staff yn wych.”

Ar ôl pythefnos yn Ysbyty Gwynedd, trosglwyddwyd Alexis i Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon i ddechrau ar ei rhaglen adsefydlu ddwys. Yn ystod y mis diwethaf, mae hi wedi cael sesiynau therapi iaith a lleferydd, therapi galwedigaethol a ffisiotherapi, sydd yn ei helpu i adennill cryfder, symudedd a hyder yn raddol.

“Ar ôl y strôc, doeddwn i ddim yn gallu cerdded ar fy mhen fy hun,” meddai. “Symudais ymlaen i fedru defnyddio ffrâm gerdded, yna baglau ac erbyn hyn rwy’n cerdded ar fy mhen fy hun unwaith eto. Rwy’n cadw’n bositif ac yn benderfynol — byddwn wrth fy modd pe bawn i’n medru gwneud fy hobïau eto rhyw ddiwrnod, fel badminton a nofio.”

Dywedodd Alexis ei bod hi eisiau rhannu ei stori i roi gobaith i eraill sy’n gwella o strôc.

“Mae’n teimlo fel bod pob dim ar ben pan mae hyn yn digwydd, ond nid felly y mae hi — mae’n rhaid i chi gredu y gallwch chi wneud cynnydd. Mae adferiad yn cymryd amser, amynedd a gwaith caled, ond mae pob cam ymlaen yn bwysig. Yr unig beth da am gael strôc yw fy mod wedi cwrdd â phobl mor wych yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Eryri sydd wedi fy nghefnogi bob cam o’r daith. Fe wnaethon nhw ofalu amdanaf yn fy ngwendid— y meddygon a’r nyrsys, y cynorthwywyr gofal iechyd, y ffisiotherapyddion, y dietegwyr, y therapyddion galwedigaethol a’r staff domestig — fe wnaethon nhw i gyd roi gofal heb ei ail i mi.

“Roedd fy ffrindiau o’r eglwys yn gymorth mawr i mi hefyd, oherwydd eu bod wedi ymweld bob dydd i gynnig anogaeth ac i roi hwb i mi.”

Mae’r Meddyg Ymgynghorol Therapi Strôc, Karl Jackson, sy'n goruchwylio adsefydlu Alexis, wedi canmol  ei hymrwymiad i wella.

“Mae Alexis wedi gwneud cynnydd rhagorol ac mae ei phenderfyniad wedi bod yn rhan allweddol o hynny,” meddai.

 “Mae ein tîm yn Ysbyty Eryri yn cynnig gwasanaeth adsefydlu sydd wedi’i deilwra i helpu cleifion i ad-ennill eu hannibyniaeth ar ôl strôc — o ffisiotherapi a therapi lleferydd i gefnogaeth seicolegol a chymdeithasol. Mae taith pob claf yn wahanol, ac mae gweld pobl yn adennill hyder a sgiliau yn raddol yn hynod werthfawr.”

Wrth nodi Diwrnod Strôc y Byd, mae Dr Clara Day, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn talu teyrnged i staff ar draws Gogledd Cymru gyfan am eu gofal a’u hymrwymiad.

“Hoffwn ddiolch i’n holl staff am y tosturi a’r ymroddiad maen nhw’n ei ddangos i gleifion fel Alexis,” meddai, “ac am eu hymdrechion parhaus i godi ymwybyddiaeth o strôc a phwysigrwydd derbyn cymorth yn gyflym.”

Mae Alexis yn parhau i wneud cynnydd cyson ar ei thaith adferiad ac yn gobeithio y bydd ei stori’n ysbrydoli eraill sy’n wynebu heriau tebyg i gadw’n bositif ac i ddal i fynd, waeth pa mor anodd yw bob cam.