Daeth Gogledd Cymru at ei gilydd i ddathlu Wythnos Ymwybyddiaeth o Anableddau Dysgu (16-22 Mehefin 2025) gyda her heicio a beicio hwyliog ac egnïol.
Gwnaeth pobl o bob rhan o'r rhanbarth gymryd rhan - gwnaeth unigolion, gwasanaethau cymorth, ac elusennau gymryd rhan. Cafodd yr wythnos ei harwain gan Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd, ac roedd yn cynnwys grwpiau gwych fel Cyswllt Conwy, Llwybrau Llesiant, Dal Dwylo, Outside Lives, Mencap Môn, STAND Gogledd Cymru CBS, Cynnig a grŵp SWS yn Wrecsam. Mae'r holl grwpiau a oedd yn rhan o'r cyfan wedi derbyn cymorth gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a chyllid gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF). Mae'r cymorth hwn wedi helpu i sicrhau bod prosiectau cyffrous fel hwn yn bosibl.
Roedd thema eleni, sef "Ydych chi'n fy ngweld i?", yn ymwneud â sicrhau bod pobl sydd ag anableddau dysgu'n cael eu gweld, eu gwerthfawrogi, a'u cynnwys. Felly, aeth y grwpiau ati i drefnu ystod o ddigwyddiadau cerdded a beicio ym mhob un o'r chwe sir yng Ngogledd Cymru.
Gwnaeth llawer o bobl ymuno â grŵp Strava arbennig i gofnodi pa mor bell y gwnaethant gerdded neu feicio. Dangosodd pa mor bell y gallai pawb fynd gyda'i gilydd fel cymuned.
Cyn i'r wythnos ddechrau, dywedodd Michelle Williams, Cyd-gadeirydd Bwrdd Gogledd Cymru gyda'n Gilydd ac arweinydd The Flyers (grŵp cyfranogiad i bobl ag anableddau dysgu):
"Mae'r Flyers wedi cyffroi'n lân a byddwn yn cerdded nerth ein traed i godi ymwybyddiaeth. Rydym yn lwcus i fod â chynifer o sefydliadau gwych yn cydweithio yng Ngogledd Cymru er mwyn gwella pethau i bobl sydd ag anableddau dysgu."
Bu'r wythnos yn llawn egni a gwaith tîm. O deithiau cerdded tawel ym myd natur i deithiau beicio hirach, roedd y gweithgareddau ar agor i bawb, ac roeddent yn canolbwyntio ar fod yn hygyrch, yn rymusol ac yn hwyliog - gan greu atgofion bythgofiadwy i bawb a fu'n rhan o'r cyfan.
Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd: Gwasanaethau Di-dor ar gyfer Pobl sydd ag Anableddau Dysgu - mae hwn yn un o nifer o brosiectau rhanbarthol a ariennir gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Enw arall arno yw Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu. Ei nod yw helpu plant, pobl ifanc, ac oedolion sydd ag anableddau dysgu i fyw bywydau hapus, iach, ac annibynnol.
Mae'r prosiect yn gweithio trwy gydol y flwyddyn. Mae'n rhoi cymorth o ran tai gwell, gweithgareddau mwy ystyrlon, technoleg ddefnyddiol, a gwasanaethau Cymraeg. Mae'n dod â chynghorau lleol, gwasanaethau iechyd, elusennau, a phobl sydd â phrofiad byw at ei gilydd i helpu i sicrhau bod gwasanaethau'n cydweithio'n rhwydd a'u bod yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
Ydych chi am wybod mwy?
Cysylltwch â ldtransformation@flintshire.gov.uk neu cysylltwch ag unrhyw rai o'r grwpiau perthnasol.