Neidio i'r prif gynnwy

Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd: Digwyddiadau cerdded a beicio i ddathlu'r Wythnos Ymwybyddiaeth o Anableddau Dysgu

13.06.2025

Mae pobl ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i gyfranogi yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Anableddau Dysgu (16 i 22 Mehefin 2025) a’i dathlu drwy gyfranogi mewn her heicio a beicio. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau cerdded a beicio wedi'u trefnu yn cael eu cynnal ledled pob un o'r chwe sir yng Ngogledd Cymru, a gwahoddir aelodau'r cyhoedd (beth bynnag fo’u gallu) i symud a chodi ymwybyddiaeth.

Mae digwyddiadau’r wythnos yn cael eu llywio gan Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn cydweithio â grwpiau megis Cyswllt Conwy, Llwybrau Lleisiant, Dal Dwylo, Outside Lives, Mencap Môn, Stand CIC Gogledd Cymru, Cynnig a'r grŵp SWS yn Wrecsam. Mae'r grwpiau a'r sefydliadau hyn yn cydweithio i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i helpu pobl ag anableddau dysgu i gael eu gweld, eu gwerthfawrogi a'u cynnwys – gan ymdrin â’r thema eleni, sef "Ydych Chi’n Fy Ngweld I".

Gallwch ganfod manylion digwyddiadau cerdded a beicio lleol, gan gynnwys sut i gyfranogi, ar wefan PIWS: Digwyddiadau o 17 Mehefin i 16 Mehefin 16 › Wythnos Anableddau Dysgu 2025 › – Piws

Gofynnir i'r sawl sy'n cyfranogi yn y digwyddiadau rannu eu taith gan ddefnyddio hashnod #BeicaHeic a chofnodi'r gweithgaredd ar Strava: | Clwb Wythnos Ymwybyddiaeth o Anableddau Dysgu

Mae ‘Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd: - Gwasanaethau Di-dor i Bobl ag Anableddau Dysgu’ yn un o nifer o brosiectau a ariennir gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (RPB), sy'n cynorthwyo â’r gwaith o gyflawni amrywiaeth o flaengareddau iechyd a gofal cymdeithasol er budd pobl a chymunedau ledled y rhanbarth.

Mae Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn cydweithio’n agos â chynghorau lleol, gwasanaethau iechyd, elusennau a phobl sy’n byw profiadau. Nod y prosiect hwn yw helpu plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu i fyw bywydau hapus, iach ac annibynnol trwy ddarparu:

  • Gwasanaethau Tai
  • Cyflogaeth a chymorth
  • Gweithgareddau ystyrlon
  • Technoleg ddefnyddiol
  • Gwasanaethau Cymraeg

Kathryn Whitfield, Rheolwr Rhaglen Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd: Gwasanaethau Di-dor i Bobl ag Anableddau Dysgu: "Rydym yn ceisio gwella ansawdd bywyd pobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru, gan ganolbwyntio ar fyw'n lleol, teimlo'n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys, gan sicrhau mynediad at gymorth personol effeithiol sy'n hyrwyddo annibyniaeth, dewis a rheolaeth.

"Diolch i gymorth gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a chyllid gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol, mae mwy na £1.3 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn gweithgareddau cymunedol dros y chwe blynedd diwethaf. Mae'r arian hwn wedi gwneud cyfraniad hanfodol at gryfhau cydweithredu â’r trydydd sector a chyd-lunio gwasanaethau lles ataliol dan arweiniad aelodau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ledled y rhanbarth.

"Caiff ein holl waith ei lunio ar y cyd â phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a chydweithwyr mewn gwasanaethau. Mae ein gwaith wedi cael ei gydnabod, ac rydym wedi cyrraedd y rhestr fer ddwywaith am un o Wobrau Anrhydeddau Gofal Cymdeithasol Cymru am ein hymdrechion i lunio gwaith ar y cyd a'n gwaith trwy bartneriaethau."

I ddysgu mwy am Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd, cysylltwch â: ldtransformation@flintshire.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, trowch at: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru