18.12.2025
Yr adeilad unllawr, wyth gwely gwerth £7.5m yw'r cyntaf o'i fath ledled Sir Gaer, Glannau Mersi a Gogledd Cymru a bydd yn cynnig gofal tosturiol i ferched sy'n profi salwch meddwl difrifol pan fyddant yn feichiog neu ar ôl geni plentyn.
Dewiswyd yr enw 'Llety Seren / Seren Lodge' gan famau sydd wedi profi salwch meddwl tra’n feichiog neu ar ôl geni plentyn i ddynodi gobaith ac agweddau calonogol, ac mae’r defnydd o’r gair Cymraeg ‘seren’ yn awgrymu’r bartneriaeth drawsffiniol â gwasanaethau yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Bev Sapre, Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaethau Amenedigol yn Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Partneriaeth Sir Gaer a Chilgwri: "Bydd Llety Seren , sydd wedi'i leoli yng nghanol Caer, yn cynorthwyo mamau newydd a beichiog mewn amgylchedd therapiwtig sydd wedi'i gynllunio'n bwrpasol ar gyfer pobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl tra byddant yn feichiog neu ar ôl geni plentyn. Gallai’r cyflyrau hynny gynnwys iselder ar ôl geni plentyn, seicosis neu gyflwr iechyd meddwl presennol yn gwaethygu eto.
"Amcangyfrifir y bydd un ddynes o bob pedair yn profi problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod y 24 mis ar ôl geni plentyn. Gall cyfnod y beichiogrwydd a’r enedigaeth fod yn un o'r cyfnodau mwyaf heriol ym mywyd dynes, a gall cymorth arbenigol ar adegau prydlon wneud gwahaniaeth mawr.
"Er mai dim ond nifer fach o ferched fydd yn gorfod treulio amser mewn uned arbenigol megis Llety Seren, rwy'n falch iawn y byddwn yn gallu cynnig y gofal hwn yn nes at eu cartrefi, yn ogystal â'r miloedd o deuluoedd y byddwn yn eu gweld yn y gymuned bob blwyddyn."
Mae gweithio ochr yn ochr â menywod sydd â phrofiad penodol o salwch meddwl tra’n feichiog neu ar ôl geni plentyn wedi cynnig dirnadaethau amhrisiadwy ynghylch sut y gellir gwella profiadau cleifion trwy ddylunio a chynllunio ystyrlon. Mae’r angen i greu lle digyffro a lleddfol wedi bod yn ystyriaeth allweddol wrth gynllunio’r uned, ond ystyriwyd y gall y manylion lleiaf wneud gwahaniaeth mawr hefyd. Mae hynny’n cynnwys manylion megis pennau gwely wedi’u clustogi i alluogi mamau i fwydo’n fwy cyfforddus yn ystod y nos a goleuadau y gellir eu pylu.
Mae Nia, Arbenigwraig trwy Brofiad, yn esbonio beth oedd hanfod cael bod yn rhan o'r prosiect: "Chwe blynedd yn ôl, ganwyd fy mab a bu’n rhaid mynd â fo i uned gofal arbennig. Oherwydd hynny, roeddwn i'n sâl iawn a bu’n rhaid i mi fynd i Uned Mamau a Babanod Manceinion.
"Yn sgil y profiad hwn, rwyf wedi ymgyrchu i sicrhau ysbyty arbenigol ar gyfer ardal Gogledd Cymru ers 2021. Mae’n anrhydedd bod wedi gallu ymwneud o’r dechrau â Llety Seren, o gyfnod dylunio’r adeilad hyd at yr adeg hon. Mae hyn yn golygu y bydd mamau a'u teuluoedd o Ogledd Cymru, Swydd Gaer a Glannau Mersi yn gallu cyrchu’r gwasanaeth hwn."
Agorwyd yr uned trwy gynnal dathliad arbennig, gan gynnwys perfformiadau gan aelodau o Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl. Mae gan y gerddorfa honno bartneriaeth Cerddoriaeth ac Iechyd â’r GIG ers tro byd. Wrth gydweithio â Llety Seren, bydd cerddorion yn canolbwyntio ar greu cysylltiadau cryf rhwng mamau a babanod ac yn defnyddio hud cerddoriaeth i roi hwb i hwyliau a hunan-barch.
Ynghyd â'r Cynghorydd Sherin Akhtar Arglwydd Faer Dinas Caer, daeth y Singing Mamas i'r digwyddiad agoriadol i rannu eu cylch canu. Mae'r grŵp buddiant cymunedol lleol hwn wedi ymuno â Llety Seren fel rhan o'u hymrwymiad i wella lles mamau ar ôl geni plentyn trwy weithgareddau canu.
Mae'r uned yn deillio o bartneriaeth unigryw rhwng Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Partneriaeth Sir Gae a Chilgwri, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Mersey Care, NHS England a GIG Cymru. Trwy gynnig gofal yn nes at gartrefi cleifion, mae'r uned yn sicrhau y gall Mamau ganolbwyntio ar adfer, gan gadw cysylltiad â'u hanwyliaid yn ystod tymor yr ŵyl ac wedi hynny.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol y Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Gwyddorau Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae’r wythnos hon yn gam sylweddol ymlaen o ran cynnig cymorth iechyd meddwl amenedigol arbenigol yn nes at gartrefi merched yng Ngogledd Cymru. Hyd yn hyn, mae menywod sy’n gorfod treulio amser mewn Uned Mamau a Babanod yn aml wedi gorfod teithio’n bell i allu defnyddio gwasanaethau mewn rhannau o Loegr, gan gynnwys Manceinion a Birmingham. I lawer o deuluoedd - yn enwedig y rhai sy'n byw yng ngogledd-orllewin Cymru - mae hynny wedi bod yn hynod o anodd ar adeg sydd eisoes yn hynod o heriol."
Mae'r uned yn deillio o bartneriaeth unigryw rhwng Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Partneriaeth Sir Gaer a Chilgwri, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Mersey Care, NHS England a GIG Cymru. Trwy gynnig gofal yn nes at gartrefi cleifion, mae'r uned yn sicrhau y gall Mamau ganolbwyntio ar adfer, gan gadw cysylltiad â'u hanwyliaid yn ystod tymor yr ŵyl ac wedi hynny.