Neidio i'r prif gynnwy

Gardd dementia newydd wedi'i hagor yn swyddogol yn Ysbyty Bryn Beryl

4 Medi 2025

Bydd cleifion, staff ac ymwelwyr yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli, bellach yn gallu mwynhau manteision gardd dawel newydd sy'n ystyriol o ddementia.

Crëwyd yr ardd i ddarparu gofod awyr agored diogel, digynnwrf a therapiwtig i holl gleifion Ward Llynfor, ac mae wedi'i dylunio i gefnogi lles cleifion sy'n byw gyda dementia, yn ogystal â’u teuluoedd a’r staff sy’n gofalu amdanynt.

Dywedodd y Fetron Rhona Jones, a helpodd i oruchwylio gwaith datblygu’r ardd: “Bydd y gofod newydd hardd hwn yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cleifion, eu teuluoedd a’n staff. I gleifion sy’n byw gyda dementia, gall amser a dreulir yn yr awyr agored gael buddion therapiwtig gwirioneddol – o leihau gorbryder a dryswch i wella hwyliau a lles. Mae hefyd yn darparu amgylchedd digynnwrf a thawel i staff lle gallant gymryd eiliad i fagu nerth newydd yn ystod eu sifftiau prysur.”

Roedd aelodau o Urdd Cyfeillion Ysbyty Bryn Beryl hefyd yn bresennol yn yr agoriad, yn ogystal â Maer Pwllheli, Ffiona Adams, a agorodd yr ardd yn swyddogol.

Dywedodd “Rwy’n teimlo’n hynod freintiedig o fod wedi cael fy ngwahodd i’r ardd ddementia hyfryd hon. Mae Ysbyty Bryn Beryl yn golygu llawer i bobl Pwllheli a’r gymuned ehangach, ac mae’n galonogol gweld prosiectau fel hyn yn cael cymaint o effaith ar gleifion lleol a’u teuluoedd.”

Roedd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dyfed Edwards, hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, gan ganmol ymdrechion pawb a oedd yn rhan o’r prosiect.

“Roedd yn bleser cael bod yn bresennol yn yr agoriad swyddogol a gweld yr ardd newydd wych hon drosof fy hun. Mae creu gofodau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion, eu teuluoedd, a’n staff.”

Mae gerddi dementia yn ofodau awyr agored sydd wedi’u dylunio’n arbennig i helpu i ysgogi’r synhwyrau ac annog gweithgarwch ysgafn, a chreu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol mewn amgylchedd diogel. Gallant chwarae rhan allweddol wrth wella lles, lleihau straen a gwella ansawdd bywyd pobl sy’n byw gyda dementia, tra hefyd yn darparu lle heddychlon i staff ac ymwelwyr fyfyrio ac ymlacio.