02.10.2025
Mae dwy a ffurfiodd gyfeillgarwch ar ôl marwolaeth eu plant wedi esbonio sut y mae gwasanaeth coffa blynyddol yn eu helpu i ymdopi â'u colled.
Mae Jan Hughes, o Ruthun a Mair Spencer, o Ddinbych, yn mynychu Gwasanaeth Coffa Sêr Bach gyda'i gilydd yn rheolaidd yng Nghadeirlan Llanelwy. Collodd y ddwy blentyn bron i 50 mlynedd yn ôl, ym 1976, ond maent yn gwneud y bererindod flynyddol yn ffyddlon gyda'i gilydd, i gofio'r rhai bach maen nhw'n dal i'w trysori.
Cynhelir Gwasanaeth Coffa Sêr Bach ym mis Gorffennaf bob blwyddyn. Fe'i trefnir gan staff nyrsio, bydwreigiaeth a chaplaniaeth y Bwrdd Iechyd ac mae croeso i bob rhiant sydd wedi colli plentyn. Mae'n rhoi cyfle i rieni a pherthnasau i gofio'r rhai y maen nhw wedi’u colli - yn ogystal â rhannu eu profiadau a'u hatgofion ag eraill.
Cafodd merch Mair, Esyllt Gwawr, ei geni’n farw-anedig ym 1976 ac mae’r boen yn dal i fyw gyda hi. Roedd Jan a Mair yn yr ysbyty tua’r un pryd ac mae’r cwlwm cyfeillgarwch a’r parch a ffurfiwyd bryd hynny wedi para hyd heddiw. Bu farw Ben, mab Jan, yn ei grud ym 1976, pan oedd yn 18 wythnos oed. Esboniodd Mair sut, er gwaethaf treigl y blynyddoedd, ei bod hi'n bwysig cael yr amser hwn i'w gofio.
Dywedodd Jan: “Mae’n anhygoel mynd yno oherwydd eich bod chi’n brysur gyda phopeth, y plant, yr wyrion, a dyna’r foment rydych chi’n agos at y babi bach eto, y bywyd bach yna.
“Mae Mair a fi'n mynd gyda’n gilydd. Mae'n arbennig iawn. Fe fyddwn i'n cynghori rhieni sydd wedi colli plentyn i fynd i’r gwasanaeth. Mae'n debyg mai bod ym mhresenoldeb cymaint o bobl sy’n cynnig cysur."
Datgelodd Mair sut mae'r gwasanaeth yn gwneud iddi deimlo'n rhan o rywbeth, wrth iddi gofio am Esyllt Gwawr. Dywedodd: “Dw i'n crio pan fyddaf i yno oherwydd fy mod i’n gweld y rhieni. Dwi'n crio drostyn nhw oherwydd fy mod i wedi bod yno.
“Dw i'n teimlo’n rhan ohono, yn enwedig pan fyddan nhw’n darllen yr enwau. Pan fyddwch chi yno, mae'r cyfan yn teimlo fel teulu, mae gennym ni rywbeth yn gyffredin.”
Canmolodd y ddwy ffrind y staff am fynychu'r gwasanaeth a gwnaethant fyfyrio ar sut y mae'r gefnogaeth a roddir nawr yn llawer gwell na'r hyn a oedd ar gael bron i hanner canrif yn ôl. Eglurodd Mair sut roedd hi'n teimlo pan gollodd hi Esyllt Gwawr.
Roedd hi wedi bod i'r ysbyty oherwydd nad oedd hi wedi teimlo'r babi yn cicio'r bore hwnnw. Yno, cafodd y newyddion torcalonnus bod y babi wedi dioddef yr hyn a ddisgrifiodd y meddygon fel "trychineb" yn y groth ac nad oedd hi'n fyw mwyach. Er hynny, cafodd wybod y byddai'n rhaid iddi roi genedigaeth i’r babi. Gan fod ganddi blant eraill, roedd rhaid iddi fynd yn ôl adref a threfnu i'w thad ddod o Nefyn i ofalu amdanyn nhw, cyn iddi fynd yn ôl i'r ysbyty ar gyfer yr enedigaeth.
Dywedodd: “Pan gafodd Elliw Gwawr ei geni, wnaeth hi ddim crio. Fe wnaethon nhw ei chymryd hi allan o'r ystafell a'm rhoi mewn ystafell fach ar fy mhen fy hun.”
Darllenwch fwy: £4.4 miliwn ar gyfer offer diagnostig newydd yn ysbytai'r Gogledd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Gofynnwyd i Mair am ei chynlluniau ar gyfer yr angladd ac a oedd hi wedi dewis enw i'w babi. Nid oedd yr un o'r cyfleusterau creu atgofion sy'n bodoli nawr, fel blwch atgofion 4Louie, ar gael bryd hynny. Nid oedd lluniau na chast o'i dwylo na'i thraed bach. Cafodd gyngor hyd yn oed i beidio â gweld Esyllt Gwawr a chafodd belydr-x o'i merch.
Ychwanegodd: “Gallwch weld, ar ôl yr holl amser hwn pa mor fyw mae’r profiad. Mae'n dal i frifo. Dw i'n gwybod mai fy merch fach i oedd hi, ond rydych chi'n teimlo'n ofnadwy, rydych chi'n teimlo'n euog. Fedraf i ddim egluro mewn gwirionedd, ond mae'n teimlo'n llawer mwy dramatig gan nad ydych chi wedi gallu dal eich babi’n fyw. Mae gen i bum merch arall ond mae yno fwlch bob amser.”
Roedd Jan hefyd yn dioddef teimladau o euogrwydd. Roedd hi'n poeni tybed a oedd yr enedigaeth gan ddefnyddio gefeiliau neu rywbeth arall wedi effeithio ar Ben.
Dywedodd: “Rydych chi'n teimlo euogrwydd ofnadwy. Siaradodd y patholegydd â ni yn fuan wedyn ac roedd o'n hyfryd. Dywedodd wrthym nad oedd dim byd o'i le. Roedd ganddo dymheredd bach, dyna i gyd. Fe roddais ef i'r gwely a bu farw. Roedd yn drawmatig iawn, yn anhygoel o drawmatig. Doedd e erioed wedi bod yn sâl. Roedd o'n fabi iach.”
Hyfforddodd Jan fel cwnselydd ac mae wedi cefnogi teuluoedd eraill sydd wedi colli plentyn. Fel rhan o'r broses o ymdopi â'i galar, gwasgarodd ludw Ben ar dir y capel lle cafodd ei fedyddio ychydig wythnosau cyn iddo farw.
Ychwanegodd: “Doeddwn i ddim eisiau ei wneud. Ond roedd y trefnydd angladdau yn wych, a thaenwyd ei ludw yno fel ei fod bob amser yn fy nghalon."
Mae'r menywod rhyfeddol o gryf a thosturiol hyn yn cael cryfder wrth fynychu Gwasanaeth Coffa Sêr Bach, ac mae eu presenoldeb hefyd yn rhoi cryfder i eraill sy'n mynychu. Maen nhw'n annog rhieni sydd wedi dioddef profedigaeth i fynd. Byddant yno eto’r flwyddyn nesaf, yn goleuo cannwyll ac yn cofio am eu hanwyliaid nhw ac anwyliaid eraill.
Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau colli baban a phrofedigaeth, ewch i: Gwasanaeth Colli Babanod a Phrofedigaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr